HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Taith gylch ardal Castell Carreg Cennen 22 Mawrth


Ar fore braf o wanwyn daeth 17 aelod ynghyd ym maes parcio Castell Carreg Cennen (SN664194). Croesawyd aelodau hollol newydd, rhai oedd wedi cerdded gyda'r Clwb ryw ugain mlynedd yn ôl yn ogystal â'r cerddwyr rheolaidd.

I ddechrau, cymerwyd llwybr rhwng y maes parcio a mynedfa'r Castell a dilyn yr arwyddion i'r de, gan gerdded am ychydig ar yr heol. Wrth gyrraedd SN668163, troi i'r chwith, ac ar ôl cael egwyl i werthfawrogi'r golygfeydd godidog, parhau i ddilyn y llwybr i'r gogledd ddwyrain i Tair Carn Isaf. Ymlaen wedyn, i gyrraedd Tair Carn Uchaf a cherdded eto i'r gogledd ddwyrain nes cyrraedd llwybr amlwg sy'n rhedeg o'r gogledd i'r de. Ar ôl egwyl i gael cinio, troi i'r gogledd a dilyn llwybrau yn ôl i'r maes parcio lle cawsom baned yng nghaffi'r Castell.

Taith ddigon hawdd a phleserus a golygfeydd trawiadol o'r Castell ar y rhan fwyaf o'r daith. Tua 17 km, esgyn 680 m.

Y 17 o gerddwyr oedd Digby a Helen yn arwain, Dewi, Ruth, Bethan, Gwen, Madog, Rhun, Rhidian, Bruce, Pens, Eurig, Siân, Richard, Pwt, Meirion ac Alison. Gobeithio gwelwn ni'r aelodau newydd ar ragor o deithau'n fuan.

Adroddiad gan Digby Bevan.

Lluniau gan Dewi ar FLICKR