HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Crib Maesglase a Mynydd Ceiswyn 23 Awst


I’r rheini ohonom oedd yn teithio o’r gogledd, roedd ein taith i’w gweld ar y gorwel wrth i ni nesau. Mynydd Ceiswyn a’r Waun Oer o’n blaenau uwchben Cwm Hafod Oer, a wedyn crib Maesglase ar y dde i ni wrth ddisgyn i lawr o Fwlch Oerddrws i Ddinas Mawddwy.

Wedi gadael rhai ceir yn y maes parcio ym Mwlch Llyn Bach, cychwynsom gerdded o bentref Dinas gan gychwyn ar un o lwybrau cwmni Nôd Glas – criw lleol sydd wedi cael grantiau i greu rhwydwaith o lwybrau cerdded gyda gwybodaeth leol (gwelwch yr app, ‘Hike Dinas’).  Dringo yn o serth i ddechrau trwy goedwig ac yna chwarel lechi (diolch i Erwyn am y wybodaeth mai chwarel Minllyn oedd hon, yn weithredol o ddechrau 19g hyd at 1925). Dringo eto at fraich Foel Dinas, i ganfod – mainc braf i eistedd arni! Diolch Gwmni Nôd Glas! Gallem weld, o fama, dipyn o’r daith o’n blaenau. Mae crib Maesglase fel reid mewn ffair – yn igam-ogamu o gwmpas pen draw cymoedd dyfnion, ac yn dringo i fyny ac i lawr, yn o serth weithiau.

Ymlaen â ni ar lwybr annelwig ar brydiau i gopa Foel Dinas. Disgyn yn serth wedyn, trwy lwyni llus tal (hawdd bachu ambell lusen suddlon!) i Fwlch Siglen, cyn codi a cherdded uwch Craig Maesglase i ble mae Nant Maesglase yn disgyn yn rhaeadr dramatig i’r cwm islaw. Hoe yma am ein cinio cyntaf.

Dilyn y grib wedyn wrth iddi ddolennu at gopa cyntaf Maesglase, sef Maen Du. Cael ar ddeall gan ein arbenigwr Nutall-aidd, Erwyn, mai ar yr ail drum, sef Craig Rhiw-erch yr ystyrir fod y gwir gopa erbyn hyn, felly dyma’r rhelyw o’r criw yn cael dargyfeiriad bach i ben hwnnw i ‘fagio’n ‘ iawn! Ymlaen ar y grib nadreddog at Graig Portas – ail ginio yma – wedyn dal ati at Cribin Fawr, gyda dargyfeiriad bach eto at y gwir gopa. Troi am y de-orllewin a chael her ola’r dydd, sef dringfa wirioneddol serth i gopa Waun Oer a’i bwynt trig. Hoe ola’r dydd yma, gan fwynhau golygfeydd gwych i lawr am Gwm Ratgoed a draw am y Borth a’r môr, Mynydd Moel a Chader Idris i’r gorllewin, a dyffryn y Fawddach, y Rhinogydd a’r Rhobell i’r gogledd.

Dilyn y grib wedyn dros Fynydd Ceiswyn cyn troi i lawr tuag at y ffordd fawr a’r ceir.

Diolch i bawb ddaeth ar y daith, sef John Arthur, Eifion, Dylan, Keith, Meinir,  Iolo, John, Peter, Dilys, Erwyn, Iola, Richard a Gwyn, a gwych oedd cael tri o’r de yn ymuno â ni, sef David, Margaret ac Eurig.

Adroddiad gan Elen Huws.

Lluniau gan Elen, Erwyn, Keith a David Levi ar FLICKR