HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cylchdaith Llyn Syfadden 25 Hydref


Bu criw dethol o 6 yn ymgynnull yn brydlon am 9 o’r gloch ym Mwlch (197 m) – rhai wedi codi yn gynnar iawn i ddod o lefydd fel Caerfyrddin, Llanelli ac Abertawe. Ar ôl tridiau o wynt a glaw, roedd y tywydd yn braf os braidd yn oer. Wnaethon ni ddringo crib Mynydd Llan-gors am ryw 50 munud (hyd at c. 400 m) cyn troi i lawer i’r chwith tuag at y llyn – golygfeydd hyfryd dros y llyn i Ben-y-fan. I lawr drwy’r rhedyn i ymuno a’r ffordd tarmac yn y cwm ryw hanner milltir cyn pentref Llan-gors tua chanol dydd, lle roedd Eileen yn aros amdanon ni (wedi treulio’r nos yn ei champerfan). Picnic hyfryd yn yr heulwen ar feinciau uwchben y llyn, cyn ymweld a’r Crannog – sef reproduction o’r crannog gwreiddiol o’r 9fed ganrif a oedd yn ynys fach bellach. Ymlaen a ni drwy’r caeau o gwmpas pen gogleddol y llyn gan basio criw o geffylau lliwgar ac ambell i dderwen oedd yn edrych yn hen iawn. Yna gadael y llyn a dringo’n raddol drwy’r caeau i ymuno a chrib Allt-yr-Esgair. Dringo’r grib am ryw hanner awr i gyrraedd y Gaer Oes Haearn  ar y copa (393 m). Saib bach i fwynhau’r golygfeydd 360 gradd dros y llyn, y Mynyddoedd Duon, Pen-y-fan a Dyffryn Wysg. Wedyn dilyn yr hen lwybr unionsyth (wedi’i farcio ar y map fel ffordd Rhufeinig, ond yn sicr yn hyn na hynny) i lawr i’r ffordd fawr (A40) ac yna yn ôl i Fwlch. Gorffen tua 3.15 mewn da bryd i fwynhau peint hyfryd yn y New Inn ynghanol y pentref cyn gyrru adref. 11 milltir – 6 awr.

Adroddiad gan Richard Mitchley.

Lluniau gan Richard ar FLICKR