HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cylchdaith Fron Goch 26 Mawrth


Wedi byw yn ‘Dre am hanner cant o flynyddoedd, mae’n debyg mai yma wyf inna i fod ac y byddaf bellach. Felly pam lai na dangos tipyn o Dre’r Cofis i’m ffrindiau. Cychwyn yng Nghanolfan Frongoch gyda’i hadnoddau gwerth chweil a chael paned i orffen.

O’r diwedd buom yn lwcus gyda’r tywydd ac roedd y daith drwy dir amaethyddol Llanfaglan gyda’i golygfeydd ysblennydd o Fôn a mynyddoedd Eryri ar ei gorau yn yr haulwen. Wrth gerdded i Gaernarfon o’r cyfeiriad yma mae’r hen Dre yn edrych yn urddasol gyda’r Castell, llongau’r harbwr a’r promenâd yn gosod disgwyliadau uchel fod mwy o drysorau i’w darganfod.

Lle gwell na wal Yr Anglesey i gael cinio. Yma y bydd y Cofis yn pentyrru ar ddiwrnodau braf i ymlacio a mwydro gyda ffrindiau. Cedded heibio’r Clwb Iotio a’r Clwb Hwylio, dros y Bont Goch a’r Patent Slip a heibio’r Galeri – un o drysorau mwyaf Caernarfon ar hyn o bryd.

I fyny Vinegr Hill, heibio Capel Seilo a dros y ffordd osgoi gan gael ennyd i fyfyrio am y ffolineb mawr o ddymchwel degau o strydoedd, ysgolion a chapeli er mwyn adeiladu’r lôn a fydd yn cael ei chau cyn bo hir.

Ymlaen i Ben Twtil i gael golygfeydd godidog o’r Dre a gweld y gofeb i’r milwyr o Gaernarfon a laddwyd yn Rhyfeloedd y Boer. Yna cerdded i Lôn Llanberis ac i mewn i Goed Cadnant, sydd yn cynnig gofod i’r Cofis ymlacio ac edrych ar y bywyd gwyllt ar stepan drws.

Yna dilyn yr hen lwybrau o gwmpas Ward Peblig a’r Hendre sydd wedi cael ei troedio ers cenedlaethau tuag at lannau Afon Saint. Mae olion yr hen waith brics i weld o hyd a’r ochr ddeheuol yr afon yn ogystal ag olion diwydiannol eraill. Mae’n deimlad braf cerdded o dan bontydd y Saint a gwerthfawrogi campweithiau peirianwyr y bedwaredd ganrif ar bymtheg sy’n dal i sefyll yn gryf heddiw.

I ffwrdd â ni yn bwyllog dros drac Rheilffordd Eryri ac ymlaen ar hyd Lôn Eifion yn ôl i Fron Goch. Diolch i’r canlynol am ei cwmni: Gwenan Tudweiliog, Eirlys, Eirwen, Roger Hayward, Buddug, Angharad ac Eryl, Iona, Anet, John Arthur, Gareth Tilsley, Nia Wyn Llanfair, Mags, Winnie, Mair, Gwyn Chwilog, Gwen Evans, Nia Wyn Saron, Rhiannon Humphreys-Jones, Janet Buckles, Merfyn Lloyd ac Arwyn Cricieth.

Adroddiad gan Rhiannon.

Lluniau gan Rhiannon, Eirwen ac Anet ar FLICKR