Taith gylch ar y Mynydd Du 27 Medi
Y man cychwyn oedd 'Maes Parcio Heol y Mynydd', ar yr A4069, SN 733 187.
Daeth 7 aelod ynghyd ar gyfer y daith sef Dewi, Pwt, Pens, Rhun, Eurig, Digby a Helen. Digby a Helen oedd yn arwain. Roedd pawb yn bryderus am y tywydd ar y dechrau oherwydd nad oedd y rhagolygon yn dda o gwbl ac roedd copaon y bryniau o gwmpas yn y niwl.
Dechreuodd y daith trwy fynd i fan uchaf y daith, sef 616 m. Ar y copa, ac yn y niwl, cafwyd trafodaeth am enw'r mynydd, gan nad yw'n glir ar y map OS, 1:25000, OL12. Cytunwyd mai Foel Fawr, Moel Gornach neu Garreg Lwyd oedd yr enw! Ta beth, SN 741 179 yw lleoliad y copa.
Wedyn ymlaen at Foel Fraith (sydd ar y map!). Wrth fynd i lawr o'r copa heb-enw-sicr cododd y niwl ac ni welwyd ef eto. Ymlaen ryw gilomedr i'r dwyrain ac wedyn troi i'r gogledd a dilyn llwybr i lawr Cwm Sawdde Fechan.
Heibio i Neuadd Fach, wedyn dilyn llwybr i'r de-orllewin, heibio i Lwyn-yr-hebog a Tŷ Newydd i Bencaegarw ar yr A4069. Dilyn yr heol honno i'r gogledd am ryw hanner cilomedr. Wedyn troi i'r de i Bant-y-bedw a dilyn llwybr i gyrraedd heol fach (SN 724 194). Dilyn yr heol fach am tua 1.5 km. Troi i'r de am tua cilomedr. Wedyn i'r dwyrain i garn Pen-y-clogau, ac yn ôl i'r maes parcio - taith o 11 milltir.
Yn y pen draw roedd y tywydd yn dda; dim glaw o gwbl, oedd yn wahanol iawn i'r rhagolygon.
Adroddiad gan Digby Bevan
Lluniau gan Dewi ar FLICKR