HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Garn, Foel Goch ac Elidir Fawr 27 Medi


Chwech ohonom ddaeth ynghyd ym maes parcio (bron yn llawn) Nantperis ar fore Sadwrn olaf mis Medi a’r glaw oedd wedi cael ei addo’n cadw draw. Wedi cerdded rhyw dri chwarter milltir ar hyd y ffordd i gyfeiriad Gwastadnant, dechreuodd gwaith caletaf y dydd o ddringo’n serth i fyny Cwm Padrig gydag ochr Afon Las tuag at Gwm Cneifio, gan orfod gwisgo côt law i fochel rhag yr unig gawod (ysgafn) a gafwyd drwy’r dydd. Wedi paned, dderbyniodd neb y cynnig i fynd ymlaen at Lyn y Cŵn ond dewis torri rhyw ychydig ar y daith trwy anelu am gopa’r Garn. Gan fod Foel Goch yn edrych yn agos iawn, penderfynwyd mynd ymlaen i gael cinio yno – ond, wrth gwrs, mae yna fwlch reit dywyllodrus, Bwlch y Cywion, rhyngddynt. Ac wedi cyrraedd Foel Goch roedd gwynt cryf felly lawr â ni tua Bwlch y Brecan a chael cornel gysgodol yno i lenwi’n boliau a chael edrych lawr Cwm Perfedd, un o’r rhes o gymoedd sy’n codi o Nant Ffrancon. Gan fod haul ar ein cefnau erbyn hyn, i fyny â ni y darn serth ond byr i gopa Moel Perfedd cyn troi ein golygon am Elidir Fawr, sy’n edrych yn fynydd llawer mwy trawiadol o’r cyfeiriad yma na’r llechwedd llwm a welir o Nantperis. Dilyn y llwybr sy’n dod yn fwyfwy amlwg o flwyddyn i flwyddyn wedyn i lawr i Gwm Dudodyn a chroesi’r bont i lawr i’r pentref a chroeso’r Faenol.

Diolch i Meinir (Llanddulas), Huw Mallwyd a thriawd o Eifionydd – Anwen, Sioned a Huw (ar ei daith gyntaf o lawer, gobeithio, efo’r clwb) am gwmni gwych drwy’r dydd.

Adroddiad gan Eryl Owain .

Lluniau gan Sioned ac Anwen ar FLICKR