Pedol Cwm Llan 29 Mawrth
Cyfarfu saith ohonom ger Caffi Gwynant ar fora digon sych a dymunol, cyn cychwyn cerdded llwybr Watkin, a throi i ffwrdd wrth ymyl y cynllun hydro er mwyn mynd heibio olion hen chwarel ac at y wal sy'n arwain at yr Aran. Cryfhau wnaeth y gwynt erbyn cyrraedd y copa ac felly dyma ddisgyn rhywfaint i chwilio am gysgod i gael paned, ac wrth wneud hynny, cael cip am eiliad o'r diffyg ar yr haul! Ofer fu ffeindio cysgod, ac yn y diwedd fe gyrhaeddom Fwlch Cwm Llan a swatio y tu ôl i'r wal â phaned wrth edmygu'r olygfa. I fyny wedyn am gopa'r Wyddfa a'r gwynt yn gryf iawn ar adegau, ond mi barhaodd yn sych, roedd ciw i dynnu llun yno, hyd yn oed ym mis Mawrth, ac felly penderfynu mynd yn is i lawr i gael cinio. Mae rhan uchaf llwybr Watkin wedi cael ei adnewyddu, ond mae'n sobor o wael yn is i lawr cyn cyrraedd Bwlch y Saethau. Wrth groesi'r bwlch, dyma'r gwynt yn codi'n waeth ar glaw yn cychwyn tywallt i lawr, penderfyniad unfrydol, wrth sbio ar ein gilydd, oedd 'O 'ma!', a hynny reit handi. Efo'r glaw yn binnau mân ar yr wyneb, yr holl ffordd i lawr yr aethom heb stopio am ginio, ond doedd y tywydd ddim i weld yn poeni'r criw 'tracsiwt a thrainers'! Bwyta'r frechdan yn y car ar y ffordd adra oedd fy hanes i, efo gwres cynnes y car yn chwythu bron cyn gryfed a'r gwynt ym Mwlch y Saethau!
Diolch i Sandra, Ariannell, Dwynwen, Keith, Erwyn J ac Eryl am gael rhannu'r daith (a'r profiad) efo chi. Diwrnod o ddau hanner!
Adroddiad gan Trystan Evans.
Lluniau gan Trystan ac Erwyn ar FLICKR