HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y ddwy Aran o Lanuwchllyn 31 Mai


Daeth dwsin ohonom ynghyd i faes parcio Pont y Pandy, Llanuwchllyn ar fore llwydaidd, ond a oedd yn addo gwell wrth i’r dydd fynd rhagddo. Ond gan gofio pwy oedd yn arwain, roedd peth amheuaeth o addewid y proffwydi tywydd! Arhoswyd ennyd wrth Garreg Llew, gan gofio fod pymtheg mlynedd ers ei golli, ac mae un o hoff deithiau Llew oedd o’n blaenau heddiw.

Aed ymlaen ar lwybr yr Aran, tros Garth Fawr , pryd y penderfynodd Roger o Gorwen droi lawr i gyfeiriad Plas Morgan a dychwelyd at y car. Bydd diwrnod arall, a thaith arall Roger. Diolch am ddod.

Mae’r esgyniad i gopa Aran Benllyn yn gyson , ond yn gymharol rhwydd, ac ar ôl aros am baned, roedd un llethr gweddol serth. Ond yn waeth na’r esgyniad, daethom i gyswllt a chawodydd trwm, niwl trwchus a gwynt cryf yn hyrddio. Cawsom egwyl ar y copa, i gael cinio, gan ofidio na welsom y garreg gyda cherdd Meirion i’r diweddar annwyl Gareth Pierce.

Penderfynwyd hepgor yr Aran Fawddwy oherwydd garwed y tywydd, ac anelu tuag at  y garnedd ble y mae llethr Erw’r Ddafad Ddu yn dechrau. Roedd y glaw yn well erbyn hyn, ond wrth ddisgyn y llethr, gyda Creiglyn Dyfi ar y dde inni, a’r gwynt yn ymylu at gorwynt, unwaith yn rhagor penderfynwyd hepgor Moel Hafod Fynydd a chrib fain Braich yr Hwch, gan yn lle hynny disgyn i lawr Cwm Llwyd ac ymlaen heibio Nant y Barcud a Chwm Croes.

Ymunwyd a Chwm Cynllwyd maes o law a chael ein croesawu gan y gog, na wyddai ddim am erwinder y tywydd ar gopa’r Aran wrth inni ddychwelyd  i Bont y Pandy. Bydd y daith yma yn aros yn y cof yn hir am un rheswm yn unig, gan i un o’r cyfeillion, na wnaf i ei enwi, ddod gyda dwy esgid troed chwith! Daeth esgid gymharol gryf troed dde i’r adwy  er mwyn hwyluso’r daith i gopa’r Aran, ond nid yn bâr!

Dyma englyn Rhys Dafis, gafodd ei chyfansoddi yn y niwl , y gwynt a’r glaw:

Roedd dwy droed chwith yn chwithig anhylaw
I Iolo deheuig,
Ond esgid dde garedig
Gan Gwyn, a bryncyn pob brig.

Diolch am gwmni braf Rhys, Meinir, Llyr, Dafydd, Iolo, Eirlys, Richard, Gwen, John a Eifion ac wrth gwrs Roger.

Adroddiad gan Gwyn Williams.

Lluniau gan Gwyn, Iolo, Llyr ac Eirlys ar FLICKR