HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Yr Wyddfa 3 Ionawr


Ar ôl dyddiau o drafodaeth ynglŷn a tywydd, bysus, fe benderfynom mynd ymlaen gyda’r daith gyntaf o 2026 i’r Wyddfa. Ambell aelod methu cael i Ben y Pas felly ar ôl gwneud ei trefniadau ein hunan fe aeth 7 ohonom i ddechrau’r daith.

Sandra, Ariannell, Sioned Llew, Gethin, Anwen, Sioned a Wil.

Roedd angen cerdded o’r ceir ar hyd y llwybr i Ben y Pas cyn cychwyn ar ein taith. Fe ddaru ni  i gyd rhoi y piga bach ymlaen yn syth cyn cychwyn y daith oherwydd oedd yn amlwg na fysa yn hir cyn byddem eu hangen.

Roedd dipyn o eira ar hyd y llwybr clir ar y cychwyn, yn sydyn iawn daeth yn waith caled I gerdded yn yr eira trwchus. Wrth ddŵad at Bwlch y Moch roedd yr eira wyn dechrau dod lawr yn eithaf trwm a’r gwynt yn codi. Trio chwilio am gysgod oedd yn gamp er mwyn cael panad sydyn cyn penderfynu and oedd rhywun am fentro dros Grib Goch ar yr achlysur yma!!

Tywydd garw iawn ar hyd y ffordd at Bwlch Glas, gwynt eisoes yn broblem a daeth y sbectol sgio/haul allan gan bawb.

Pedwar yn mynd ymlaen at y copa, a tri ohonom i lawr yn ôl o’r bwlch. Yn anffodus ni welsom y grwp arall oedd wedi cychwyn o Llanberis yn gynt yn y bora.

Fe ddaru ni fynd lawr ac cael ambell sleid lawr yn yr eira (wel hynny, yw Sioned Llew!) lot o hwyl wrth sgwrsio efo hwn a llall, ac ambell agoriad llygaid ar be oedd rhai pobol yn ei wisgo!!!

Ymlaen a ni yn ôl at Ben y Pas ar hyd Llwybr y Mwynwyr; ew, mae’n gallu bod yn lwybr uffernol o hir weithiau tydi - yn enwedig pam ma rhywun di blino!!!! Dim peint i gael yn le’n byd ar ddiwedd y daith, gyda pob man di cau, ond er hynny, roedd pawb i lawr yn sâff a dyna oedd y peth pwysicaf. Diwrnod da o fynydda caled.

Adroddiad gan Sandra Parry.

Lluniau gan Ariannell Haf a Sioned Llew ar FLICKR