Moelfre, Diffwys a Llethr 4 Gorffennaf

Bu i griw bach ohonom gyfarfod ger Cors y Gedol i gychwyn y bedol o amgylch tri o gopaon y Rhinogydd. Tra’n cerdded ar hyd y llwybr cerrig tuag at Lyn Bodlyn, roedd y cymylau’n isel, efo dim ond hanner isaf Moelfre yn y golwg. Er fod y llwybr i gopa Moelfre’n eithaf serth, buan iawn y cyrhaeddom y copa a chael paned sydyn. Wrth ddisgyn tuag at y bwlch sy’n arwain at Foel y Blithcwm, dyma gellwair am yr olygfa o’n blaenau, ”dacw Lyn Bodlyn i’r chwith, Crib Llawllech o’n blaenau a Phont Sgethin oddi tanom, ond wrth gwrs, dim ond niwl oeddym yn weld mewn gwirionedd!
Fe gliriodd y niwl am ennyd wrth esgyn Moel y Blithcwm a gwelsom rhywfaint o olygfa o’r môr y tu ôl inni, draw am Rhinog Fawr a Rhinog Fach efo Maes y Garnedd a Chwm Nantcol yn glir, ond cyfnod byr iawn oedd o!
Ar ôl Llethr, ymlaen am Grib y Rhiw, efo’r gwynt yn gryf erbyn hyn, felly cysgodi y tu cefn i’r wal sy’n arwain am gopa Diffwys i gael cinio, ond doed hi ddim yn ddiwrnod i hel ein traed yn y niwl a’r gwynt, felly ymlaen am Diffwys ac i lawr Llawllech a dilyn y llwybr tuag at Bont Sgethin. Rhaid oedd cael llun ar y bont, wrth gwrs, cyn dilyn y llwybr yn ôl am y ceir. Er gwaetha’r tywydd, cafwyd diwrnod o sgwrsio a rhoi’r byd yn ei le. Diolch i Alice, Dwynwen a Sioned am eich cwmni.
Adroddiad gan Trystan Evans.
Lluniau gan Sioned ar FLICKR
