Pedol Stiniog 5 Medi

Gyda union flwyddyn i’r penwythnos ers i ni ymgymryd a thaith Pedol ‘Stiniog, dyma gychwyn arni eto, 06.30, ar y 5ed o Fedi. Dim ond 3 ohonom ymgymrodd â’r her eleni – ac yndi, mae hi’n dipyn o her, gyda hyd y daith ychydig dros 20 milltir, gyda dros 6,000’ o esgyniad. Y cerddwyr brwd oedd Dwynwen, Stel a minnau. Roedd hon yn daith cyntaf i Stel – dipyn o daith i ddewis fel yr un cyntaf, ond roedd hi mewn dwylo saff, gyda Dwynwen a minnau wedi cwblhau’r Bedol sawl tro pellach. Eto, braf oedd i mi gael yn llythrennol neidio o’ngwelu, a llamu drwy drws ffrynt Plas Canol i gyrraedd y man cychwyn, yng nghanol tref Blaenau Ffestiniog.
Bore digon llaith oedd hi dan draed (peth rhyfedd i Ffestiniog!), ond oleia doedd hi ddim yn glawio, er bod Hen ŵr y Moelwyn yn gwisgo’i gap – rhybydd o’r hyn oedd i ddod. I gychwyn, ymlaen a ni yn eiddgar drwy Heol yr Eglwys, i gyfeiriad Glanpwll a Tanygrisiau. Oherwydd y tamprwydd, penderfynwyd osgoi godrau Nyth y Gigfran, gan y byddai’r rhedyn yn socian, ac ninnau hefyd, o gerdded drwyddo. Wedi cyrraedd Dolrhedyn, roeddem yn ôl ar y llwybr arferol, yn dal yn sych, ac felly ymlaen a ni i fyny ffordd Stwlan, ble welsom ambell i afr gwyllt, ynghyd ac Atomfa Trawsfynydd (Castell Magnox Wledig!) yn llewyrchu yng ngolau cynta’r bore.
Wedi cyrraedd yr argae, dyma’r tarmac yn darfod, a’r mynydda go iawn yn dechrau. Dringo yn serth heibio Chwarel y Moelwyn, i gopa’r Moelwyn Bach. Ein copa cyntaf. Y gobaith oedd i gael paned sydyn yno, ond oherwydd i’r glaw mân gyrraedd, a’r arweinydd di rhoi gormod o goel yn y ragolygon tywydd, ac yn glyfar iawn wedi penderfynu peidio dod a’i ddillad glaw, penderfynwyd dal ymlaen ac anelu’n syth am Craig Ysgafn (a elwir hefyd yn Graig Wen neu’r Gwregys, yn ôl pob sôn), ac i gopa Moelwyn Mawr – pwynt ucha’r dydd.
I lawr a ni yn serth, a piciad i gopa Y Garnedd Lwyd (hon os cofiwch yw’r enwog Moelwyn Mawr North Top, yn ôl y Nuttalls, a hon a dorrwyd yn ddisymwth oddi ar restr mynyddoedd Cymru, gan greu dipyn o stŵr yn lleol, wedi i’r cyfryngau gam ddeall y stori, gan adrodd mai’r Moelwyn Mawr oedd wedi colli ei statws fel mynydd!). Drosodd a ni i gopa Moel yr Hydd, gyda’r niwl tamp a glaw man wedi hen glirio, cyn disgyn i Chwarel y Rhosydd, ple cafwyd saib haeddiannol a chyfle am frecwast a phaned sydyn.
Wedi’r egwyl, ymlaen a ni’n raddol i fyny at Llyn yr Adar, cyn anelu ein camau tua’r Ysgafell Wen, a dros y tri copa. Mae nifer o lynnoedd diarffordd yn yr ardal yma, Llyn Terfyn (sy’n nodi’r ffin rhwng Stiniog, a Dolwyddelan), a Llyn Coch. Ardal all fod yn wlyb iawn dan draed. Wedi cyrraedd godrau Moel Druman, dyma benderfynu cael saib am ginio sydyn, cyn dringo i gopa’r Allt Fawr. Cawsom gwmni a sgwrs gyda sawl cerddwr yma, sydd yn dipyn o syndod, gan mai distaw iawn yw’r ochr yma o’r Moelwynion fel rheol. Ond gwir yw dweud, bod ein copaon tawel pellach yn prysuro, gyda mwy fwy yn ceisio osgoi’r Wyddfa, a mynnu copaon tawelach, ac wrth gwrs, gyda her 100 copa Cymru, a’r Nuttalls yn boblogaidd iawn y dyddiau yma, prysurach yr awn nhw… a phwy ydw i i gwyno, gan mod i’n fwy euog na neb o hela’r copaon ‘ma, gyda hoel fy nhraed i yn frith ar gopaon Stiniog, a Chymru!
Dros yr Allt fawr a ni, ac ar ein pennau i lawr dros yr Iwerddon (y crib uwch y Gorddinan, nid y Wlad Werdd!) a’r Ro Lwyd cyn cyrraedd yr A470 – Bwlch y Gorddinan. Cawsom egwyl am ail ginio yma, ac ail llenwi’n poteli dŵr – cuddiais “stash” o boteli yn un o’r twneli wrth law y noson gynt. Yma ceisiodd Stel gofio ac enwi’r copaon yr oeddem wedi eu dringo yn y bore, a gyda ychydig o help, fe lwyddodd yn ei hymdrech! Wedi’r saib, rhaid oedd cerdded dros yr A470 am tua tri chanllath, a’i chroesi ger y gilfan, a dros y camfa ger adfeilion yr hen “Llywelyn Inn”, neu’r Crimea fel ei gelwir – am yr holl gwffio a paffio yn ôl pob sôn. Wrth lwc, doedd dim ymrafael nac ymrysona o’r fath i’w brofi y pnawn yma!
Yn serth a ni i gopa tawel Moel Farlwyd, a throsodd, eto yn serth o odrau Llyn Barlwyd i ben Moel Penamnen. Roedd y copaon olaf o fewn gafael pellach. Wrth ymlwybro i lawr dros ysgwydd y Penamnen, roedd y cerdded llawer esmwythach ‘dan draed i gyfeiriad Foel Fras, ac wedi croesi ychydig o dir corslyd, dyma gyrraedd chwarel Cwt Y Bugail. Penderfynwyd cael saib i gael te sydyn yma – prin yw’r teithiau sy’n cynnig brecwast, dau ginio a te p’nawn yn de! Gyda ni’n tri wedi bwyta’n holl fwyd pellach, ymlaen a’r daith, gan ddilyn y ffens pob cam i gopa’r Graig Ddu (y Manod Mawr North top yn ôl y llyfrau cerdded, yn anffodus!!). Cafwyd golygfeydd godidog o lawer o gopaon Eryri o fan hyn: yr Arenig, Rhinogydd, Moelwynion, a mawrion Eryri yn y pellter.
Rhyw gwta ugain munud i hanner awr gymerodd i ni gyrraedd y copa olaf, Manod Mawr, a tro yma, hon oedd yr olaf! Roedd yn bosib gweld yr holl gopaon a droediwyd yn ystod y dydd, y Bedol gyfan gyda Stel, unwaith eto yn rhoi ymgais i enwi’r copaon i gyd. – roedd copaon ail hanner y Bedol yn newydd iddi, a braf yw cael tywys rhywun i le newydd, yn de?
Wedi tynnu’r hunlun traddodiadol ar y copa olaf, i lawr a ni i gyfeiriad ‘Stiniog, drwy gerdded lawr inclên Chwarel y Manod, i adfeilion melin lechi Llyn Dŵr Oer, gan hepgor copa Manod Bach druan eleni. O gysidro ei bod yn gopa mor isel, ychydig iawn o gerdded sydd arni, a mae angen dipyn o ddycnwch i’w dringo ar y gorau, heb sôn am ar ddiwedd taith ugain milltir!
I lawr a ni hyd inclên Dŵr Oer, cyn troi am lwybr i gyffiniau Hafod Gruffudd, a Fuches Wen, cyn cyrraedd nôl i’r dref. Mynnwyd cael peint i ddathlu’r daith yn Nhafarn y Meirion (nid y Queens, fel yr hysbysebwyd ar gam yn y disgrifiad wedi’r lle losgi’n ulw haf y llynedd!), a chafwyd croeso cynnes yno, gyda sawl un yn holi am ein taith anturus!
Mawr ddiolch i Dwynwen, a Stel am eu cwmni ar yr hir daith hon.
Adroddiad gan Erwyn Jones.
Lluniau gan Dwynwen ag Erwyn ar FLICKR
