HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

O Gastell y Gwynt i Langadfan’ - Harddwch Cwm Nant yr Eira a mwynder Maldwyn 6 Mai


Dechreuwyd y daith ar fore hynod o braf gydag 11 o aelodau’r Clwb ym mhen ucha Cwm Nant yr Eira, (tua 8 milltir o Lanerfyl) gerllaw Castell y Gwynt. Oddi yno, cerdded ar hyd y ffordd ac ymuno â llwybr Glyndŵr gan werthfawrogi harddwch y cwm. Cyfeiriwyd at ychydig o hanes y cwm o darddiad yr afon Gam, a nodi rhai o gerddi o lyfr ‘Cerddi Powys’ (Gol. Dafydd Morgan Lewis). Roedd hyn yn cynnwys ‘Cloi drws yr hen gartref’ (Ffriddfawr, Nant-yr-eira) gan D Glyn Lewis. Yna aethpwyd heibio Dôl y Garreg Wen a anfarwolwyd gan Iorwerth Peate yn ei gerdd enwog ‘Nant yr Eira’… ‘Mae tylluanod heno, yn Nôl y Garreg Wen’.

Arhoswyd am seibiant yn Capel Beulah, lle cafwyd ychydig o hanes y cwm gan ffermwr lleol, sef Wali Jones, fferm Hafod y Beudy. Roedd yr ardal yn un o 6 ardal ym Maldwyn oedd ar restr fer yn 1966 gan Awdurdod Afonydd Hafren ar y pryd – lle roedd chwilio am safleoedd i adeiladu cronfa ddŵr. Soniwyd am ymweliad yr Aelod Seneddol ar y pryd, Emlyn Hooson, a sefydlu Pwyllgor Amddiffyn. Hefyd, soniwyd am y drafodaeth am iawndal i denantiaid y Cwm pe bai hyn wedi mynd ymlaen. Roedd yn hanes hynod ddiddorol.

Yna ymlaen ar y ffordd hyd at y tro am fferm Dolwen, a dilyn llwybr Glyndŵr dros gomin Pencoed yr holl ffordd i Langadfan, gan gael cyfle i werthfawrogi'r golygfeydd. Wedyn cafwyd sgwrs a thrafod yng Ngwesty'r ‘Cann Office’ ar ddiwedd y daith.

Adroddiad gan Huw Jones.

Lluniau gan Huw ac Aneurin ar FLICKR