HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Copaon yr Eifl 6 Mehefin


Daeth wyth aelod i ymuno ag Anwen a minnau ar y daith hon, gan gynnwys dau aelod newydd ar eu taith gyntaf gyda'r grŵp. Ar ôl cyflwyno'r aelodau newydd, cychwynnom oll mewn hwyliau da iawn.

Dechreuodd y daith o faes parcio traeth Trefor, gan ddilyn Llwybr Arfordir Cymru am gyfnod cyn dringo'n serth i gopa Garn Fôr. Cawsom baned yma gan fwynhau golygfeydd godidog.  Oddi yno aethom ymlaen i gopa'r Eifl ac yna i Dre'r Ceiri i gael chydig o ginio, cyn disgyn i'r ffordd fawr a dilyn llwybr cyhoeddus a lonydd cefn Llanaelhaearn yn ôl i Drefor.

Roedd y daith yn tua 15 km (9.5 milltir) gydag esgyniad o 853 m (2,800 troedfedd).

Cawsom dipyn o hanes diddorol ar hyd y ffordd. Ymhlith y ffeithiau a rannwyd roedd bod llechi Chwarel Trefor wedi cael eu defnyddio i gynhyrchu cerrig ar gyfer chwaraeon cyrlio, ynghyd â hanes yr adfeilion hynafol ar gopa Tre'r Ceiri. Roedd hyn yn ychwanegu at fwynhad y daith ac yn rhoi cyd-destun gwerthfawr i'r ardal.

Ar ran olaf y daith cawsom ychydig o gyffro annisgwyl pan welwyd dau gar heddlu yn rasio heibio ar lôn gul uwchben Trefor. Yn fuan wedyn daeth yn amlwg fod grŵp o feicwyr modur o'r Iseldiroedd yn crwydro'r ardal, ac yn anffodus roedd un ohonynt wedi disgyn oddi ar ei feic ac, yn ôl pob golwg, wedi torri ei goes.  Yn ffodus, roedd dwy nyrs brofiadol yn ein plith, ac aeth un ohonynt draw i gynnig cymorth a chael rhagor o wybodaeth am yr hyn a oedd wedi digwydd.

Gan fod y tywydd wedi troi'n braf iawn roedd pawb yn falch iawn o gael gorffen y daith mewn modd hamddenol gyda choffi neu ddiod oer yng nghaffi bach Bert's yn Nhrefor, cyn ffarwelio a mynd adref ar ôl diwrnod llwyddiannus a phleserus iawn.

Diolch i bawb am eu cwmni difyr.

Adroddiad gan Sioned Prys ac Anwen.

Lluniau gan Sioned Prys ac Anwen ar FLICKR