HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Llanuwchllyn i Fwlch Oerddrws 7 Chwefror


Roedd rhaid gadael i’r arweinydd wybod erbyn nos Iau os am ymuno a’r daith yma, felly doedd dim modd disgwyl i weld be oedd rhagolygon y tywydd yn nes i’r amser. Ar ôl pendroni, ac yn wir obeithio fasa’r rhagolygon yn gwella, dyma benderfynu mynd.

Pnawn Gwener ddaeth yr alwad gan Erwyn yr arweinydd, anffawd yn y gwaith yn ymwneud â ffrwydron, “fedri di arwain?” Wel, doedd dim newid fy meddwl rwan er y rhagolygon! Mi oeddwn yn hapus i arwain y daith oherwydd môd i wedi ei cherdded hi droeon…

Bore Sadwrn, dros frecwast, dyma edrych ar ddisgrifiad y daith a sylwi bod y daith ychydig yn wahanol i be o ni wedi feddwl, roedd hi’n cynnwys copa Gwaun y Llwyni a do ni erioed di neud y copa yma.

Ar ôl gollwng car ym Mwlch Oerddrws dyma gyfarfod ym Mhont y Pandy, y tri arall sef Ali, Steve ac Eryl yn eu dillad dal dŵr yn barod. Ar ol cychwyn am Aran Benllyn sylweddolodd Steve ac Eryl eu bod wedi gadael eu ffonau yn y car. Penderfynodd y ddau nad oedd ni’n ddiwrnod i dynnu lluniau felly ymlaen a ni i fewn i’r glaw a’r cymylau isel.

Toc cyn ein copa cyntaf dyma stopio am rhywbeth bach i fwyta, fan hyn nes i sylwi mod wedi gadael fy mocs bwyd ar ôl ond diolch i Eryl nes i ddim llwgu.

Ymlaen a ni dros y ddwy Aran, copaon newydd i Ali ond beryg fydd rhaid iddi fynd yn ôl i weld be mae nhw’n edrych fel ar ddiwrnod braf. Ar ôl copa Aran Fawddwy dyma dorri ar draws i’r de ddwyrain at Drws Bach cyn dilyn clogwyn pen uchaf Hengwm i gopa Gwaun y Llwyni. Roedd hwn yn gopa newydd i fi ac i Eryl, er ella dylai’r arweinydd dim cyfaddef cael copa newydd wrth arwain taith. Yma cafwyd yr unig olygfeydd o’r dydd, roedden yn medru gweld lawr i Hengwm a Chwm Cywarch yn y pellter.

Yn ôl a ni fewn i’r cwmwl a dringo i gopa Glasgwm, y niwl mor drwchus doedd dim posib gweld Llyn y Figyn er nad ydi ond 40 m o’r copa. Ymlaen wedyn am gopa Pen y Brynfforchog, y glaw yn drwm iawn erbyn hyn a pawb yn socian. Sgwrs sydyn ar ein copa olaf i ddathlu taith lwyddiannus, 5 copa newydd i Ali, 2 i Steve (Glasgwm a Pen y Brynfforchog) a 1 i Eryl a minnau. Wedi penderfynu bod hi’n rhy wlyb i dynnu llun, ar ein pennau lawr am Fwlch Oerddrws cyn gynted a phosib i ddod allan o’r glaw. Fel oedden yn cyrraedd y car dyma’r glaw yn peidio!

Yn ôl i Llanuwchllyn wedyn i nôl y ceir a chael peint haeddiannol iawn yn Yr Eagles. Diwrnod gwych er y tywydd, diolch i pawb am eu cwmni.

Adroddiad gan Dwynwen Pennant.

Lluniau gan Dwynwen ar FLICKR