Moel Siabod 7 Mawrth

Wedi’r holl law, mi ddaeth eto haul ar fryn i groesawu’r 19 ddaeth ynghyd ym maes parcio Bryn Glo ger Pont Cyfyng a chafwyd diwrnod braf o fynydda gwerth chweil. Gan fod y rhan fwyaf yn dringo Siabod gyda’r cloc, i fyny trwy olion Chwarel y Foel, penderfynodd yr arweinydd newid y cynllun gwreiddiol a gwneud y daith o chwith – yn erbyn y cloc – gydag amryw’n dweud mai dyna’r tro cyntaf iddynt ddilyn y trywydd hwn. Mewn gwirionedd, roedd hyn yn ei gwneud yn daith anos, gydag esgyniad hir a mwy cyson o’r gweundir i gyrraedd y grib ac yna angen rhyw gymaint o ddargyfeiriad i osgoi creigiau y Ddaear Ddu wrth ddod lawr o’r copa at Lyn y Foel. Mae’n ddisgyniad serth heb lawer o lwybr a thir caregog ac anwastad dan draed.
Serch hynny, cafwyd seibiant braf dros ginio i fwynhau’r golygfeydd i bob cyfeiriad sydd i’w gweld o’r copa a mwynhawyd yr her a hyd yn oed (rwy’n meddwl) y corsdir dan draed ger y llyn gan bawb. Roedd dau ar eu taith gyntaf efo’r clwb ac yn cael copa newydd hefyd sef Jon o Fryn-y-maen, un sydd yn/wedi dysgu Cymraeg ac yn awyddus i sgwrsio mwy yn yr iaith, a Sharon o Bontewydd, wedi dod efo Dafydd o Gaerdydd a oedd ar ymweliad â’r gogledd.
Diolch i bawb am ei wneud yn ddiwrnod cofiadwy – Gaenor, Alice, Keith, Gareth H. a Gwen o Eifionydd, Gwyn a John Arthur, Meic o Forfa Nefyn, Nia Meacher, Rhiannon, Jon, Dafydd Legal, Siân Shakespeare, Dafydd a Sharon, Richard a Gareth Wyn, Buddug a’r arweinydd o Benmachno.
Adroddiad gan Eryl Owain
Lluniau gan Eryl ar FLICKR
