HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cylchdaith Maesglase o Ddinas Mawddwy 7 Tachwedd


Dyma fyddai ail ran double header Dinas Mawddwy yn nyddiadur tymor yr Hydref y Clwb. Er na lwyddodd y criw i efelychu dilyniant beiblaidd Eryl yr wythnos flaenorol wrth herio’r Aran, daeth deg o gerddwyr brwd a hwyliog ynghyd ym maes parcio’r pentref, yn barod i roi eu ffydd yn eu harweinydd – a hwnnw’n wynebu her ei daith gyntaf ers ymuno â’r Clwb!

Dechreuodd y daith drwy grwydro strydoedd pentref Dinas, lle cafwyd hanes Morgan Lewis, Hen, Hen, Hen Daid yr arweinydd, a fu’n byw yng Nghynywarch – sydd bellach yn adfail ar ochr y dyffryn. Yn ‘sbaddwr o fri yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, magodd Morgan 21 o blant yn y cartref, gyda’r mwyafrif ohonynt yn cyrraedd oedolaeth. Er, daeth ei hanes i ben yn ddigon disymwth, wedi iddo syrthio oddi ar ei geffyl wrth ddychwelyd o’r Bala dros Fwlch y Groes, yn 56 oed.

Gyda mwyafrif y criw yn dal i amgyffred â’r fathemateg y tu ôl i fagu dros ugain o blant, troesom ein sylw at y daith o’n blaenau. Dechreuodd y ddringfa o’r A470 i fyny at Chwarel Minllyn, uwchlaw’r pentref. Roedd hon yn esgynfa go serth drwy’r coed, gydag ambell stop ar hyd y ffordd i ddiosg ambell gôt a siaced yng ngwres annisgwyl Tachwedd.

Cafwyd cyfle i ddal ein gwynt am eiliad yng ngweddillion carregog Chwarel Minllyn, gan fanteisio ar y seibiant i dynnu llun grŵp cyntaf y daith – gyda chymorth tripod symudol Keith, wrth gwrs!

Cynnil fu’r golygfeydd drwy niwl Tachwedd, wrth i ni barhau i ddringo tuag at y fainc a osodwyd drwy garedigrwydd Cwmni Nôd Glas. Cyfle am seibiant sydyn arall, ac am rywfaint o drafodaeth ynghylch doethineb union osodiad y fainc! Yma mae’r llwybr cyhoeddus o’r pentref yn ymuno â Llwybr Ffordd Cambria, sy’n rhedeg o Gaerdydd i Gonwy. Ymunom â’r llwybr a’i ddilyn, gan gael ein golwg gyntaf ar greigiau Maesglase o’n blaenau, cyn cychwyn ar ddisgyniad go serth i Fwlch Siglen – lle’r oedd paned haeddiannol yn ein disgwyl.

Wedi adennill rhywfaint o’n hegni, daeth hi’n bryd wynebu dringfa olaf swmpus y daith, gan gyrraedd gwastadedd Maesglase. Er na lwyddodd y criw i gwblhau’r ddringfa o fewn y ddwy funud y bu Sandra ei frolio(!), fe wnaeth pawb yn hynod o dda, ac o fewn dim roedd Pistyll Maesglase o’n blaenau. Parhaodd y cymylau’n drwm uwch ein pennau, er llwyddo manteisio ar ambell gipolwg o’r cwm a ffermdy Ty’n-y-braich islaw – pleser pur i Ali, a oedd wedi pacio copi o gampwaith llenyddol Angharad Price, O! Tyn y Gorchudd, yn ei sach.

Wedi cinio hamddenol, parhaodd y ddringfa ar hyd y graig i gopa di-nod Maen Du. Y bwriad gwreiddiol oedd dechrau’r disgyniad o’r fan hon, ond penderfynwyd ar wyriad munud olaf i gopa'r un mor ddisylw Craig Rhiw-erch (678m) gerllaw. O fewn hir a hwyr (a dipyn o wirio’r GPS) canfyddwyd y copa - cyfle i Ali ac eraill ychwanegu un arall o 100 Copa Cymru at eu rhestr – rhif 92 mewn uchder i’r rhai ohonoch sy’n ymddiddori mewn heriau o’r fath!

Yma cawsom gipolwg bach pryfoclyd ar yr hyn y gallem fod wedi’i fwynhau pe bai’r tywydd wedi bod o’n plaid – gyda chopaon yr Aran a Glasgwm yn ymddangos am ennyd drwy’r cymylau, cyn diflannu unwaith eto i’w cuddfan niwlog.

O’r diwedd, daeth hi’n bryd troi am adref. Roedd drama’r disgyniad o Faen Du i Foel Cwm yr Eglwys wedi’i lliniaru rhywfaint gan y niwl trwchus, gan guddio cryn dipyn ar y llethrau serth islaw! O’r fan honno, roedd y daith yn fwy hamddenol a hawddgar, wrth i ni ddisgyn i ffermdy Ty’n-y-Celyn, croesi’r briffordd a dilyn y llwybr cyhoeddus dymunol yn ôl i Ddinas.

Er mawr siom i’r criw, roedd y Llew Coch ar gau unwaith eto erbyn i ni ddychwelyd i’r pentref – mae’n amlwg bod ysbryd y dirwest yn parhau’n gryf yn Ninas, er gwaethaf ein gobeithion am beint haeddiannol i gloi’r daith!

Diolch i’r criw hwyliog am eu cwmni ac am wneud y profiad o arwain taith fedyddiol yn un mor hawddgar. Diolch felly i Manon, Sioned, Anwen, Iolo, Sandra, Dafydd a Keith; i Ali a Simeon, a deithiodd yr holl ffordd o bellafion Sir Benfro; ac i Arfon, a oedd allan ar ei daith flasu!

Adroddiad gan Aled Morgan Hughes.

Lluniau gan Aled a Keith ar FLICKR