HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Blaen Llia 11 Ebrill


Ar fore clir o Ebrill ger Afon Llia rhyw dair cilometr i’r gogledd o Ystradfellte cychwynnodd saith ohonom gan ddilyn ochre’r afon tua’r gogledd. Ar ôl tair cilometr cyrraedd yr hen ffordd Rhufeinig Sarn Helen a dilyn hon am dair cilometr arall i fewn i dir anial Fforest Fawr gyda Fan Nedd yn aruchel i’r Gorllewin. Awel de orllewinol y tu cefn i ni yn cryfhau gyda eirlaw yn troi i gawodydd o gesair, y gwyn yn cyferbynnu’n drawiadol a  dyffryn crog tywyll Craig Cwm Du. Cyrraedd un o gymoedd harddaf ac anghysbell y Bannau sef Cwm Du gan esgyn wrth gesail Fan Frynych yn Warchodfa Natur Genedlaethol Graig Cerrig Gleisiad.

Wrth gyrraedd y copa trodd y tywydd yn aeafol ormesol a’r gwynt cryf yn gyrru’r eira yn ddibaid atom wrth i ni droi i’r de orllewin. Mynd yn ein blaen lawr i Gefn Perfedd a dechrau dringo unwaith yn rhagor at gopa Fan Dringarth gyda’r storom eira yn cynyddu wrth i ni ddringo gan greu heriau cerdded a chlywedol. Allan a’r cwmpawd er mwyn hepgor Fan Dringarth a dilyn cwrs mwy gorllewinol at Bryn Melyn er mwyn lleihau effaith y storm ac yn ôl i Sarn Helen ac adre. Dydd o olygfeydd a heriau i’w gofio.

Adroddiad gan Alun Reynolds

Lluniau gan Dewi ar FLICKR