HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Bryniau a Choedwigoedd Afan 13 Mehefin


Man cychwyn – Maes Parcio Parc Gwledig Afan Argoed, Dyffryn Afan SS 823 952.

Yr oedd deuddeg ohonom ar ddiwrnod hyfryd i gerdded : Alun, Bruce, Dewi, Digby, Eileen, Elin, Eurig, Jane, Meirion, Pens, Pwt a fi.

Dechrau o’r maes parcio tua’r gorllewin a heibio i Tarren Forgan a galw i fewn i adfail storfa ŷd oedd yn dyddio nôl i oes rhyfeloedd Napoleon. Roedd rhaid bod yn ofalus hefyd a cadw golwg allan am feicwyr mynydd yn croesi ein llwybr. Mae Afan Argoed yn fyd enwog am feicio mynydd. Ar un adeg yr oedd yn un o’r deg ardal orau yn y byd am feicio.

Yna, anelu am ac edrych i lawr ar bentref Y Bryn gyda’i olion o’r hen pyllau glo. Yn y pellter, coedwigoedd Mynydd Margam. Yna, dilyn ochr Mynydd Penhydd a dringo Rhiw Tor Cymru wrth ymyl Mynydd Garn Wen a chael cinio bach tra yn edrych i lawr ar Gwm LLynfi a gweld Bro Morgannwg yn y pellter.

Ymlaen wedyn i ddiwedd y goedwig a chroesi i dir agored Foel Trawsnant(371 m). Seibiant ar Foel y Dyffryn ac edrych i lawr ar bentref Y Caerau, cartref Nora Issac. Dal i fynd tuag at Brynheulog a throi i’r chwith wrth garreg yn dangos yr hen ffin rhwng Maesteg a Chastell Nedd. Heibio i domenni glo pwll Dyffryn Rhondda (a oedd sawl milltir o’r Rhondda go iawn). Edrych i lawr ar bentref Cynonville (eto dim i wneud a phentref Abercynon!). Cerdded lawr yn serth ac yna nôl i’r maes parcio. 9 milltir a tua 549 m/1,800 tr o ddringo.

Adroddiad gan Rhun Jones.

Lluniau gan Jane a Dewi ar FLICKR