HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cylchdaith Blaen y Glyn 14 Chwefror


Dyma chwech ohonom yn ymgynnull ym maes parcio Blaen y Glyn ger cronfa ddŵr Talybont. Bore bendigedig o awyr las a heulwen wedi wythnosau o dywydd digon annifyr.

Gan ddechrau trwy gerdded lawr yr heol tuag at Torpantau ac ymuno a llwybr Taf am ychydig, dyma droi i’r Gogledd ac ymuno a’r hen lwybr Rhufeinig Sarn Helen. Hardd oedd gweld copaon Cribyn, Pen y Fan a Corn Du o’n blaen wedi eu gorchuddio gyda ychydig eira.

Dyma gerdded i fyny tuag at Bwlch ar y Fan cyn oedi i gael paned. Gyda’r tymheredd tipyn is na rhewbwynt gwell oedd magu gwres trwy ddringo fyny i’r dwyrain tuag at copa Fan y Big.

Ymlaen a ni ar draws Craig Cwm Oergwm, Craig Cwareli a Bwlch y Ddwyallt. Roedd y llwybr digon rhewllyd a penderfynwyd gwell gwisgo picau bach am y tro.

Dyma ddilyn y llwybr yn arwain tuag at Waun Rydd a Charn Pica. Hyfryd gweld fod y Carn wedi cael ei ail adeiladu. Llecyn hyfryd I gael cinio yn edrych lawr tuag at Twyn Du, Tor y Foel a cronfa ddŵr Talybont.

Dyma droi i’r De a dilyn crib Craig y Fan a Gwalchau’r Cwm. Llwybr serth i lawr fan yma tuag waelod y Cwm ac ymuno a llwybr oedd yn cyd redeg gyda afon Blaen y Glyn.

Cyn hir roeddem mewn ynghanol y goedwig a gan fod stormydd gaeafol wedi achosi tipyn o lanast anodd oedd gweld y ffordd yn glir ar adegau. Gan gadw at y llwybr cul cyn hir daeth y maes parcio nôl i’r golwg.
Taith o thua 10 milltir a 650 m o esgyniad

Diolch i Guto am arwain taith hyfryd gyda chwmni difyr Ruth, Alun, Rhun a Llyr.

Adroddiad gan Dewi  Hughes.

Lluniau gan Dewi a Guto ar FLICKR