HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pedol Marchlyn 14 Chwefror


Roedd hi wedi bod yn glawio’n ddi-baid ers dechrau’r flwyddyn pan gyfarfu wyth ohonom ger giât Llyn Marchlyn ar fore hynod o braf a’r ucheldiroedd dan haen o eira. Roedd y llain lle mae pobl yn parcio bron yn llawn gydag ambell barti’n ymbaratoi at ddiwrnod o fynydda.

Cychwynom i fyny’r lôn at odrau Carnedd y Filiast cyn ymweld yn sydyn â chopa’r Fronllwyd i fwynhau golygfeydd gwych, cydymdeimlo ag Erwyn a oedd yn ymlafnio yn Chwarel y Penrhyn islaw a gwrando ar ‘bregeth ar y mynydd’ gan Gareth!

I lawr i’r Bwlch â ni ac anelu am gopa Carnedd y Filiast cyn croesi’r tir agored ac ymweld a Chreigiau Cwm Graianog a oedd, yn y gorffennol pell, yn rhan o wely’r môr. Roedd y creigiau’n edrych yn wych gyda thalpiau mawrion o rew yn gorffwys yma ac acw arnyn nhw. O fan hyn y mae’r olygfa o Elidir Fawr ar ei orau a roedd hi’n ddigon clir i ni allu gweld ambell fynyddwr yn cyrraedd ei gopa.

Ar ôl i Rhys Dafis orffen tynnu coes Dafydd, ymlaen â ni heibio lloches Mynydd Perfedd a disgyn i Fwlch y Marchlyn cyn dringo i gopa Elidir Fawr. Yno’n ein disgwyl oedd neb llai na Sioned Llew a chawsom ginio yn y lloches cyn ymbalfalu – yng nghwmni Sioned - ar hyd y grib i ganfod y llwybr serth sy’n arwain at Elidir Fach. Cerdded wedyn ar hyd y grib lydan cyn disgyn at lyn Marchlyn bach a cherdded yn ôl at y ceir.

Diolch yn fawr i’r criw hwyliog: Eurig (yr holl ffordd o Gaerfyrddin); Meic (Nefyn); Dafydd; Wil; Rhys; Gareth (Llanystumdwy); Sioned; ac Eryl (Pentrefelin).

Adroddiad gan Richard Roberts.

Lluniau gan Richard a Sioned ar FLICKR