HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Taith Gylch y Preselau 14 Mawrth


Ar fore braf o Fawrth, daeth saith cerddwr ynghyd ym Medd Morus i ddechrau'r daith hon, uwchben Trefdraeth yn Sir Benfro. Ar ôl sawl wythnos o law dibaid, rhyddhad mawr oedd gweld awyr las a chlywed cân yr ehedydd. Croesawyd darpar aelod newydd o'r enw Jane i'n plith. Buon ni'n ffodus bod Jane yn ffotograffydd talentog.

Ar ôl clywed ychydig am helyntion Morus, dechreuon ni gerdded i lawr i waelod Cwm Gwaun drwy ddilyn y llwybr i gyfeiriad Sychbant ac yna droi i'r dde a dilyn y llwybr yng Nghwm Bach. Wedyn, parhau ar yr heol am tua 400 m i'r de-orllewin cyn croesi'r bont bren dros Afon Gwaun.

Dilyn y llwybr, heibio i ffermydd Tregynon a Thŷ Gwyn, wedyn croesi'r heol fach a dilyn y llwybr troed heibio i Ben-lan-wynt ac ymlaen i Foel Eryr (468 m). Ar ôl mwynhau golygfeydd gwych o'r môr a'r mynyddoedd, cerdded i lawr i Fwlch-gwynt ac ymlaen tuag at Fwlch Pennant. Wedyn torri ar draws i ddod o hyd i'r llwybr sy'n mynd o Fwlch Pennant i Dafarn y Bwlch, sy'n adfail ers nifer o flynyddoedd.

Cymryd y llwybr o Dafarn y Bwlch i Gernos Fach. Troi i'r chwith a dilyn y llwybr drwy'r caeau. Braf oedd oedi yma i fwyta cinio, mwynhau'r heulwen a gweld y defaid gyda'u hŵyn newydd-anedig.

Cerdded i'r chwith wrth gyrraedd yr heol fach am ryw 400 m cyn cymryd y llwybr ar y dde i'r gogledd o westy Gellifawr. Ymlaen at fferm Llannerch a dilyn y llwybr tuag at fferm Pen-rhiw. Y bwriad gwreiddiol oedd cymryd y llwybr ar y chwith i fyny Carn Edward. Serch hynny, gan fod y tywydd mor braf, penderfynwyd parhau'n syth ymlaen at Dôl-rhanog Uchaf a Dôl-rhanog Isaf er mwyn dringo Carn Ingli.

Tua hanner ffordd i fyny'r mynydd, penderfynodd tri cherddwr gymryd llwybr i'r chwith a cherdded yn ôl i'r man cychwyn ym Medd Morus. Aeth y pedwar arall ymlaen at gopa Carn Ingli ac i lawr ar yr ochr ogledd ddwyreiniol, gan ddilyn y llwybr yn ôl i ymuno â'r lleill.

Er y pryderon am y tywydd, cafwyd diwrnod braf, sych a heulog. Diolch i bawb am eu cwmni difyr. Y cerddwyr oedd: Llŷr, Rhun, Alison, Jane, Eirug, Helen a Digby.

Hyd y daith: 22 km/13 milltir; Uchder: 740 m/2,439 troedfedd.

Adroddiad gan Digby Bevan.

Lluniau gan Jane ar FLICKR