Y Mynydd Du 14 Tachwedd

Daeth naw ohonom at ein gilydd ar bore oer ond sych wrth ochr yr A4069 o Frynaman i Langadog. Gan barcio wrth ochr y ffordd dyma ddechrau ein taith drwy grwydro drwy yr hen chwarel galch. Dychmygwch y gwaith caled gyda phicas a rhaw wrth falu’r graig a thanio yr hen odynnau. Roedd malu’r galchfaen yn waith caled a pheryglus. Ymhen ychydig roeddem yn crwydro ar hyd Llwybr y Bannau i’r Dwyrain - llwybr gymharol glir heibio sawl llyncdwll wedi ei achosi gan fod y tir mor alcalin. Gan ddringo yn raddol, dyma droi i’r Gogledd fyny y grib tuag at Garreg Las a Charnau’r Garreg Las ( 635 m).Penderfynwyd grwydro oddi ar y llwybr i chwilio am grit faen – un o ddwy wedi ei gadael yn y fan ar lle ble naddwyd hwy o gerrig tywodfaen a charreg grut i’w defnyddio ar gyfer y melinau dŵr a chorn yn yr ardal.
Yn ôl hanes, roedd hi’n arferol i lawer ohonynt gael eu cludo dros y dŵr o Ffrainc gan fod y garreg o safon uwch ond pan ddechreuodd Rhyfeloedd Napoleon (1803- 1815) bu prinder yn y wlad a felly bu galw amdanynt yn wahanol ardaloedd Cymru gan gynnwys y Mynydd Du.
Ymlaen tuag at gopa Carreg yr Ogof ond penderfynwyd troi i’r De Orllewin a dilyn llwybr gymharol glir. Dyma orffwys i gael cinio hwyr cyn dychwelyd heibio Pwll Swnd a dringo fyny i Foel Fraith (602 m) ac ymlaen wedyn i gopa Garreg Lwyd (616 m). Gan ei bod hi yn gymharol glir cafwyd golygfeydd eang o Gwm Tawe i’r De a’r Bannau yn y Dwyrain. Dyma ddisgyn lawr dros Foel Fawr tuag at y Maes Parcio. Taith o thua naw milltir a cyfanswm o 578 m o esgyniad. Diolch am gwmni hwyliog Jane, Helen, Elin, Digby, Rhun, Llyr, Pwt a Guto ein harweinydd am y dydd. Roedd Guto wedi ystyried aros allan dros nos mewn pabell ond nid oedd rhagolygon bore Sul yn argoeli yn dda !
Adroddiad gan Dewi Hughes.
Lluniau gan Dewi ar FLICKR
