HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cader Idris 15 Mawrth


Mi ddylai pawb sydd yn mynydda fyw mewn gobaith a dyna oedd angen wrth gyfarfod yn Llanfihangel y Pennant ar fore Sul y Mamau. Y criw gobeithiol oedd Manon, Dwynwen, Gerallt, Anwen, Eryl ac Eifion.

Her cynta’r dydd oedd y ddringfa serth a di lwybr i fyny Mynydd Pencoed, Eryl wedi gwirioni ei fod wedi cael hyd i’r ffordd galetaf i fyny Cader Idris. Ymlaen wedyn ar hyd y fraich i Graig Cwm Amarch, y glaw yn ddi stop a’r gwynt yn cryfhau.

Erbyn cyrraedd copa Craig Cwm Amarch roedd yn eitha anodd sefyll. Roedd y gwynt yn chwipio’r glaw yn ein herbyn wrth fynd ar hyd y bwlch tua’r Gader. Penderfynwyd mynd ymlaen gan mai’r unig obaith am gysgod oedd y cwt ar gopa Cader Idris.

Ar ôl ymweliad sydyn iawn a’r copa roedd pawb yn hynod falch o gyrraedd y cwt, roedd to’r cwt yn symud yn y gwynt gryf. Cafwyd pwyllgor sydyn a pawb yn cytuno mai anelu yn ôl am Lanfihangel y Pennant y ffordd mwya uniongyrchol fydda ora. Felly, lawr a ni am Fwlch Gwredydd ac i lawr ar ein pennau yn ôl am y ceir.

Wrth gwrs, fel yr oeddem hanner ffordd lawr fel ostegodd y gwynt a chiliodd y cymylau ac roedd hi’n brynhawn braf erbyn cyrraedd tŷ Meri Jones.

Cafon peint/paned yn y Railway Inn yn Abergynolwyn ar y ffordd adra. Pawb yn cytuno bod ni di cael antur dda ac na fydd neb angen ecsfolietio eu wynebau am wythnos o leiaf.

Adroddiad gan Dwynwen Pennant

Lluniau gan Gerallt ar FLICKR