HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Dwy sir, dau lyn a saith copa 15 Awst


Ar ddiwedd cyfnod hir o wres llethol, roedd hi’n braf cael bore oerach na’r arfer i gychwyn ar ddiwrnod hir o gerdded i un o ardaloedd mwy tawel y Carneddau. Roedd y rhagolygon yn gaddo bore cymylog ac oer cyn codi'n braf yn y prynhawn. Fel sy’n digwydd mor aml yr adeg hon o’r flwyddyn, roedd y grŵp yn un bach. Cychwynnodd yr wyth ohonom (Sandra, Jano, Alys, Chris, Eifion, Elen, Janet a fi) o faes parcio Pantdreiniog ym Methesda am 8. Er bod Alys wedi cael ei galw allan yng nghanol y nos, dangosodd wydnwch anhygoel drwy gydol y dydd i oresgyn y diffyg cwsg!

Gwnaethom amser da o Gae Cymro, gan basio Moel Faban ac Y Gyrn cyn cyrraedd bôn y cwmwl ger Bera Mawr. Yma, gwnaethom adael ein sachau, a sgramblo’n gyflym i fyny i’r copa a’n ôl. Roedd yn braf dros ben cael cwmni Chris; rannodd gymaint o hanes lleol diddorol am yr ardal, o gwt storio powdwr gwn, cerrig honi, mwyngloddiau arsenig, hanes damweiniau awyrennau ail rhyfel byd, ynghyd â gwybodaeth am yr adar a'r blodau. Dwedodd Jano ei fod fel "Encyclopedia"!

Bera Mawr oedd y olygfa olaf a gawsom tan i ni ostwng i Gwm Dulyn amser cinio. O Bera Mawr, dilynom gyfuchliniau Cwm Afon Goch am gyfnod cyn gorfod gwisgo ein dillad glaw am y tro cyntaf ers misoedd! Diniwed braidd oedd y glaw—mwy o dlysedd niwl na cawod oddifri ond ni chafwyd yr un cwyn gan ein bod wedi bod mor ffodus gyda’r tywydd yr haf hwn; roedd y glaw mân yn teimlo’n braf ac yn adfywiol. Wedi cyrraedd copa Foel Fras, fe wnaethom stopio am egwyl fer cyn cytuno mai gorau oll fyddai cael cinio ychydig yn hwyrach yn lloches Dulyn oherwydd yr amodau. Bu Janet yn ystyried troi nôl tuag at Fethesda, ond fe ddarbwyllwyd hi gan weddill y grŵp y byddai’r tywydd yn gwella, ac fe benderfynodd hi aros gyda ni.

Disgynnom i gyfeiriad Llyn Dulyn gan ddilyn y ffens o Foel Fras. Ar y ffordd i lawr, sylweddolodd Elen ei bod wedi gadael ei pholion cerdded ar y copa wrth dynnu llun! Mi aeth hi'n ôl i’w nôl nhw, a cariodd y gweddill ohonom ei sach i lawr i’r loches. Cyrhaeddodd y loches ddim ond 20 munud ar ôl y gweddill ohonom. Wrth i ni eistedd tu allan yn mwynhau ein cinio, cliriodd y tywydd a dechreuodd awyr las ymddangos.

Wrth i ni ddringo tuag at Melynllyn, aeth y dillad glaw yn ôl i’r sachau ac nid oedd eu hangen am weddill y dydd. Gwellodd y tywydd wrth i ni ddringo’r grib rhwng Craig Fawr a Chraig y Dulyn, i fyny i Foel Grach. Ar y copa, cawsom egwyl arall ger Cwt Dafydd Ross. Trafodwyd hanes y cwt a’r plac a osodwyd yn ddiweddar gan Tudur Owen, fel rhan o’r ymdrechion parhaus i gadw a chynnal yr enwau lleoedd Cymraeg gwreiddiol.
Er bod ffordd bell o hyd yn ôl o Foel Grach dros gopaon Yr Aryg, Bera Bach, a Gyrn Wigau, roedd y cerdded yn hawdd mewn tywydd godidog gydag golygfeydd bendigedig dros Fethesda ac Ynys Môn. Cyrhaeddom yn ôl tua 6 o’r gloch wedi cerdded 17 milltir a dringo dros 4000 o droedfeddi.

Adroddiad gan Stephen Williams.

Lluniau gan Steve ar FLICKR