HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Taith Pentywyn 16 Mai


Daeth 12 ohonom ynghyd ym maes parcio Pentywyn (SN. 236 080) gyda Beryl (darpar aelod?) sy’n byw’n y pentref yn ymuno gyda ni ar y ffordd. Roedd y daith yn radd gwyrdd yn esgyn ryw 2500 troedfedd ac yn 11 milltir o hyd. Roedd y darn cyntaf yn gadael ehangder traeth enwog Pentywyn islaw, ac yn dilyn yr arfordir i gyfeiriad Amroth, ac yn eithaf heriol mewn mannau, ond roedd golygfeydd godidog o’r bae draw tuag at Llanusyllt, Dinbych y Pysgod ac Ynys Bur, ac yn y cyfeiriad arall draw tuag Pen Pyrrod a chlogwyni de-orllewin Gŵyr. Wedi rhyw bum milltir cyrhaeddwyd Pwynt Telpyn cyn troi nôl i’r dwyrain ar hyd y ffordd o Amroth i Marros am rhyw hanner milltir cyn troi oddi ar y ffordd tua’r gogledd ar draws cae i goedlan Trelissey Fechan. Dilynwyd y llwybr cyhoeddus i’r gogledd drwy goedlan y Comisiwn Fforestydd, a thrwy goedlan arall, a thros gaeau tuag at Fferm Miltongan basio adfail Melin Garness. Yna trowyd i’r dwyrain gan ddringo ychydig o ystlys Mynydd Marros yn gaeau pori a rhostir, a chael cwmni ceffylau a gyrr anferth o aneirod ar adegau. Roedd y rhostir yn niwl glas o glychau’r gog, tra yn y coedlannau roedd garlleg gwyllt a chlychau’r gog yn cystadlu gyda’i gilydd yn garpedi lliwgar. Wedyn cyrhaeddwyd eto’r ffordd rhwng Amroth a Pentywyn, gan dilyn honno am rhyw gan llath neu ddwy cyn cymryd llwybr cerbydau caregog i’r de-ddwyrain yn ôl i gyfeiriad Pentywyn.

Er i’r rhagolygon fygwth glaw mân drwy’r dydd, ni chafwyd glaw i’n gwlychu tan yr awr ddiwethaf.

Diolch arbennig i Llŷr am lunio’r daith ac arwain ar amserau. Hefyd i Jane am wneud fideo bach o’r daith fel bron nad oedd eisiau yr adroddiad yma!

Y cerddwyr oedd: Llŷr, Dewi, Pwt, Jane, Elin, Digby, Helen, Eirug, Rhun, Eileen, Bruce, Meirion a Beryl.

Adroddiad gan Meirion.

Lluniau gan Dewi ar FLICKR