Rowen i Gonwy 18 Mawrth

Aeth 6 mlynedd heibio ers i’r daith yma gael ei chynnal o’r blaen a phryd hynny cawsom niwl trwchus drwy’r dydd. Roedd yn galondid felly medru croesawu’r 18 cerddwr yng Nghonwy ar fore hyfryd o wanwyn.
Wedi dal y bws bach (digon o le i bawb eistedd wrth lwc) i Rowen dyma gychwyn cerdded drwy’r pentref ac ar draws y caeau cyn dringo’n eitha’ serth i fyny trac at adfeilion Ffrith Wcla – talfyriad mae’n debyg o’r gair Bulkeley am mai’r stâd honno oedd prif dir-berchennog yr ardal ar un pryd. Ar ôl ychydig rhagor o ddringo dyma gyrraedd Ffridd Garreg Boeth, yn gyforiog o gennin Pedr cynhennid ac yn werth eu gweld. Croesi un cae arall a chyrraedd Hen Eglwys Llangelynnin a chyfle am seibiant a phaned yng nghwmni dwsinau o blant, yno ar drip o’r ysgol gynradd leol.
Roedd y dringo caled drosodd erbyn hyn a chodi mwy graddol o’n blaenau i gyrraedd Maen Penddu – maen hir o’r Oes Efydd – ar gyrion chwarel Talyfan. Wedi cael cinio yno aethom yn ein blaenau ar hyd Cefn Maen Amor a Chefn Llechen at Lyn y Wrach ac yna ar hyd y llethrau uwchben Capelulo i gyrraedd Bwlch Sychnant. ‘Roedd golygfeydd da o Ynys Môn a mynyddoedd Eryri o’n cwmpas.
Yma penderfynodd mwyafrif y criw ddychwelyd i Gonwy gan ddilyn Llwybr Gogledd Cymru heibio Mynydd y Dref ond aeth 6 ohonom ymlaen i gwblhau’r daith lawn drwy ddringo i fyny Alltwen – lle cafwyd golygfeydd gwych unwaith eto – ac yna ymweld â hen fryngaer Caer Seion ar gopa Mynydd y Dref.
Cawsom ddiwrnod da o gerdded mewn haul braf a diolch i bawb am eu cwmni. Y cerddwyr oedd: Dafydd (Dinbych), Nia, Buddug, Gwen R, Gwen E, Anet, Gwyn (Chwilog), Gwynfor, Winnie, John Arthur, Iona, Roger, Haf, Margiad, Ken a Nest a’r arweinyddion Aneurin a Dilys.
Adroddiad gan Dilys Phillips.
Lluniau gan Aneurin ar FLICKR
