Esgair Felen, Glyder Fawr, Y Garn a’r Foel Goch 18 Gorffennaf

Wedi sawl wythnos o dywydd crasboeth a haul cryf cyn dyddiad fy nhaith roeddwn yn poeni pa mor ddoeth oedd mentro ar daith gyda gwaith dringo sylweddol ar y ffasiwn dywydd. Ond fel y digwyddodd, erbyn diwrnod y daith roeddwn yn falch o weld fod y rhagolygon yn addo y byddai’r tymheredd wedi gostwng ychydig a fyddai yn gwneud pethau yn haws.
Cyfarfu 6 aelod â mi ym maes parcio Nant Peris sef Alice, Alinor, Eifion, Keith, Sandra a Siân. Eglurais wrthynt i mi fod ar daith y Clwb beth amser yng nghynt i fyny am y Gyrn Las a Charnedd Ugain, ac wrth edrych drosodd am y Glyder Fawr yr ochr arall i Gwm Nant Peris i mi sôn fy mod wedi bod i fyny i gopa Glyder Fawr dros fraich Esgair Felen, a welem o’n blaenau. Daeth yn amlwg nad oedd neb ar y daith honno wedi bod dros yr Esgair Felen a gan eu bod yn dangos diddordeb mewn gwneud hynny penderfynais ei chynnig fel taith ar raglen y Clwb. Fel roedd yn digwydd, toedd neb o’r aelodau a oedd yn bresennol heddiw wedi bod arni chwaith.
Fe gychwynnwyd o Nant Peris a chyn bo hir roeddem yn dringo yn serth i fyny Cwm Padrig. Roedd y darn cyntaf allan o’r gwynt yn chwyslyd ofnadwy ond erbyn tua hanner ffordd i fyny roeddem mewn niwl a chymylau ac doedd ddim agen poeni am y gwres wedi hynny.
Tua thri chwarter ffordd i fyny’r llwybr dyma dorri ar draws ac anelu at yr Esgair Felen ac wedi ei chyrraedd ei chylchu at ei thrwyn cyn gwneud ein ffordd i fyny. Gan ein bod mewn niwl trwchus roedd yn rhaid i’r criw gymryd fy ngair fod golygfeydd godidog i’w cael yma. Ymlaen a ni wedyn am gopa Glyder Fawr lle cawsom ginio. Roedd Siân yn bendant bod angen cinio cyn meddwl mynd lawr y llwybr heriol o’r copa at Lyn y Cŵn. Dros ginio roedd angen i ni wisgo ein cotiau i gadw’n gynnes, rhywbeth anghyfarwydd ar ôl y tywydd poeth diweddar. Am ychydig o funudau fe welsom awyr las ond buan y diflannodd ac y dychwelodd y niwl.
Ar ôl cinio, i lawr a ni ar hyd y llwybr annifyr at Lyn y Cŵn cyn mynd ymlaen dros y Garn a Foel Goch, yn y niwl yr holl ffordd! Fodd bynnag 'roedd yn gyfle i Ali ac Eifion, y ddau yn anelu i gwblhau yr her o ddringo y 100 copa, fachu un copa newydd yr un (Ali – y Garn ac Eifion - Foel Goch).
Ar ôl ymweld â’n copa olaf, dyma anelu yn ôl am Nant Peris ar hyd y fraich uwchben Cwm Dudodyn. Tua thri chwarter y ffordd i lawr fe ddechreuodd y cymylau godi ac fe fachwyd ar y cyfle i gael llun gyda golyfa wrth ein cefnau, y cyntaf o’r diwrnod!
Wedi cyrraedd yn ôl yn Nant Peris cafwyd llymiaid yn y dafarn cyn dychwelyd am adref,a gan fod y tywydd wedi gwella erbyn hyn, y cymylau wedi codi a’r haul yn tywynu, fe eisteddom allan. Wrth edrych i fyny, be welem heb sôn am na chwmwl na niwl ar ei chyfyl oedd yr Esgair Felen - yn hollol glir!!
Llawer o ddiolch i’r criw am eu cwmni hwyliog yn ystod y dydd ac er y siom i ni fod yn y niwl trwy’r dydd ac heb weld llawer, roedd wedi bod yn eitha pleserus ar ôl y gwres llethol a’r haul tanbaid a gafwyd yn ddiweddar i allu cerdded o dan amodau llawer llai heriol yn ystod y dydd.
Adroddiad gan Iolo Roberts.
Lluniau gan Alinor, Keith, Sandra a Iolo ar FLICKR
