Llyn Elsi o Fetws-y-coed 18 Tachwedd

Daeth wyth ohonom at ein gilydd ym maes parcio Pont y Pair yng nghanol Betws-y-coed i fynd am ein taith ar ddydd Mercher 18 Tachwedd yng nghwmni Raymond. O’r maes parcio, dilynwyd yr afon Llugwy hyd at Bont y Mwynwyr cyn croesi’r ffordd fawr a dilyn rhan o Sarn Elen i bentref Rhiwddolion. Trawiadol iawn oedd lliwiau’r hydref wrth ddilyn y ffordd hynafol. Y tu allan i hen gapel Rhiwddolion, a fu yn ysgol hefyd ar un pryd, dangosodd Raymond lyfr ysgol ei fam, oedd wedi mynychu’r ysgol yma pan oedd yn ferch fach. Roedd ganddi lawysgrifen arbennig o daclus! Ymlaen dros y bryn wedyn heibio Pant yr Hyrddod i Lyn Elsi lle cawsom ein hail ginio. Wrth gychwyn o’r llyn, cawsom gawod drom a dilynwyd llwybrau’n ôl i Betws-y-coed trwy’r coed. O’r llwybr serth uwchben y dyffryn ar y ffordd i lawr, roeddem yn gallu gweld y gwaith ar y bont droed newydd ar waith. Cafwyd paned wedyn yn hen gaffi’r gorila wrth yr orsaf (sydd bellach wedi newid dwylo, a delwedd). Llawer iawn o ddiolch i Raymond am ei wybodaeth leol, ac i Arwel am ategu. Diolch hefyd i Gwyn Chwilog, Gwen, John Arthur, John, Roger, a Haf am eu cwmni.
Adroddiad gan Haf Meredydd.
Lluniau gan Haf a Gwyn ar FLICKR
