HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Taith Cribarth 19 Medi


A'r fore Sadwrn gwlyb daeth deg ynghyd i bentref Abercrâf yn ochrau uchaf Cwm Tawe. Dringo’n syth i fyny o’r pentre drwy goedwig derw a chollen gan basio nifer o gerrig mawrion wedi eu cario yno o gyfnod Oes yr Ia. Cyrraedd y ffridd agored gan gerdded ar hen ffordd tramiau oedd yn cysylltu Abercrâf drwy gamlas i ddociau Abertawe. Niwl trwchus ar lethrau’r mynydd ar glaw yn ddibaid o gyfeiriad y de orllewin.

Yn lleol adwaenir y mynydd fel  ‘Y Cawr yn Cysgu ‘ oherwydd ei broffil o’r cwm islaw. Ardal ôl ddiwydiannol yw hon gyda nifer o hen gwerydd calchfaen a chalchfaen tywodlyd, defnyddiwyd y garreg olaf yma fel sgleinwr yn niwydiannau copr a thun De Cymru ers talwm. Mae pob cain a thram wedi hen dawelu yn gweddu yn berffaith i fan angladdol o’r Oes Efydd ar gopa Cribarth. Cerdded ar y grib at lwybr serth i lawr drwy goedwig arall at Graig Y Nos hen gartref y gantores opera Adelina Patti, croesi’r Afon Tawe. Cân coch y berllan yw glywed yn swynol drwy’r coed.

Dilyn y cwm drwy warchodfeydd natur Craig y Rhiwarth ac Allt Rhongyr a’r glaw erbyn hyn wedi pallu a’r haul yn neud ei orau i dywynnu. Croesi’r afon eto dros bont arall ac i fyny llethrau deheuol Cribarth yn ôl i Abercrâf.

Adroddiad gan Alun Reynolds

Lluniau gan Dewi ar FLICKR