Gogledd y Berwyn 20 Mehefin

Daeth dwsin o aelodau ar y daith – Dafydd, Eirlys, Gwen, Dei, Huw, Alice, Eifion, Gwyn, John Arthur, Richard, Aneurin a Dilys a phawb yn cyrraedd Llangollen yn brydlon er mwyn dal bws T3 i Lidiart y Parc. Yno cychwynnom gerdded ar hyd llwybr oedd yn codi’n raddol a chyson drwy goedwig pîn ac yna tir mynyddig grugog hyd at gopa Moel Fferna.
Wedi seibiant yno am ginio cynnar aethom ymlaen i ymuno â Llwybr Gogledd y Berwyn gan ddilyn y gefnen hir i’r dwyrain at gopa Moel Feifod. Ychydig ymhellach draw roedd cornel goediog lle mae sawl llwybr yn cwrdd ac yno y cawsom seibiant arall am baned. Oddi yno roedd y llwybr yn disgyn yn raddol i ddechrau ac yna yn eithaf serth i lawr i dref Llangollen.
Gan fod y tywydd yn braf a chlir cawsom olygfeydd hyfryd 360 gradd ar hyd ein taith – Eryri bron i gyd, bryniau Clwyd, a thros y ffin am fryniau Swydd Amwythig. Ac i goroni’r cyfan roedd y siop hufen ia yn dal ar agor yn Llangollen pan gyrhaeddom yn ôl!
Diolch i bawb am daith bleserus iawn mewn ardal fendigedig, ac un nad ydym yn ymweld â hi’n aml iawn.
Adroddiad gan Dilys Phillips..
Lluniau gan Aneurin ar FLICKR
