HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Moelydd yr Wyddfa 21 Chwefror



Wrth edrych ar ragolygon y tywydd yn y bore cyn cychwyn o’r tŷ daeth ar draws fy meddwl y byddai wedi bod yn ddoethach symud y daith i’r dydd Sul pan oedd y rhagolygon yn well, ond roedd yn rhy hwyr!! Beth bynnag, ymunodd saith o aelodau â mi yn Llanberis sef Alice, Anwen, Gareth, Keith, Sandra, Siân a Sioned (Prys), Siân yn gwneud y daith hon am y tro cyntaf. Cyn cychwyn, eglurais bod y rhagolygon am law trwm yn y prynhawn yn ei gwneud yn debygol y byddem yn dod i lawr o Faesgwm yn hytrach na dringo Moel Cynghorion a dychwelwyd ar hyd Cwm Brwynog yn ôl y disgrifiad yn y rhaglen.

Cychwynnwyd o’r pentref a dringo’n serth tuag at Moel Eilio. Wedi i ni adael y lonydd a’r traciau a dechrau cerdded ar y mynydd, dyma glywed rhywun yn galw ac yn brasgamu tuag atom. Dafydd (Legal) oedd yna, wedi cychwyn o’r chwarel uwchben Waunfawr i ymuno â ni. Yn amlwg roedd Dafydd wedi gweld ffordd i osgoi’r ddringfa serth a’n wynebodd ni o Lanberis!

Wrth nesâu at gopa Moel Eilio roeddem yn y cymylau a’r niwl a dyna sut y bu am weddill y daith. Wedi cael paned yn y gysgodfan ar gopa Moel Eilio, yn ein blaenau a ni dros Foel Gron a Foel Goch, yn dal yn y cymylau a’r niwl tra yn ceisio darbwyllo Sian fod golygfeydd godidog o’r Wyddfa a’r copaon eraill oddi yma mewn amgylchiadau gwell! Wedi dod lawr o Foel Goch a chyrraedd Bwlch Maesgwm roedd pawb yn gytûn mai troi lawr yma oedd y peth gorau i’w wneud, ac felly y bu. Cawsom ginio ar y ffordd i lawr Maesgwm ac wrth nesáu at Lanberis fe ddechreuodd y glaw trwm a barodd am weddill y daith. Cyn troi oddi ar y llwybr am Lanberis fe ffarweliwyd â Dafydd oedd am ddilyn y llwybr sy’n cylchu Moel Eilio yn ôl at ei gar yn y chwarel. Parhaodd y gweddill ohonom i lawr i Lanberis a mynd yn syth i Dafarn y Heights i gael cysgod o’r glaw a mwynhau llymaid cyn cychwyn am adref. Llawer o ddiolch i’r criw am eu cwmni bywiog a difyr yn ystod y dydd.

Adroddiad gan Iolo Roberts.

Lluniau gan Anwen a Iolo ar FLICKR