Y Gyrn Las a Charnedd Ugain 21 Mawrth

Oherwydd y tywydd ardderchog, haul cynnes a bron dim awel - hyd yn oed ar y copaon - roedd hi fel canol haf prysur yn Eryri. Erbyn tua 08.45, roedd maes parcio Nant Peris yn llawn ac nid oedd lle ar y bws Sherpa i’n cludo draw i Ynys Ettws, man cychwyn y daith. Neidiodd pedwar ohonom i dacsi; roedd y ddau arall, sef Iolo ac Elen wedi dal y bws yng Nghaernarfon ac mi wnaeth pawb gyfarfod mewn pryd yn y man cychwyn.
I fyny â ni i Gwm Glas Mawr cyn troi am y grib sy’n arwain at gopa’r Gyrn Las. Mae’r grib yn cynnig golygfeydd gwych o Gwm Hetiau a’r Grib Goch lle roedd llinell ddi-dor o forgrug yn ei chroesi.. Wrth ddringo’n uwch, mae’r llwybr yn troi’n fwy caregog ac mae un symudiad sgrialu yn yr hafn o dan y copa. Braf oedd cyrraedd fanno a chael bod yn ôl yn llygad yr haul. Cadw wedyn at ymyl y clogwyni sy uwchben Cwm Glas lle roedd Llyn Bach a Llyn Glas yn edrych yn hyfryd yn yr heulwen. Welson ni neb, heblaw cwpwl lleol a oedd ar eu ffordd i lawr y grib, tan i ni gyrraedd copa Carnedd Ugain.
Roedd ymweld â chopa’r Wyddfa wedi bod yn ystyriaeth ond cytunwyd i’w hepgor oherwydd y torfeydd a dilyn Llwybr y Mwynwyr yn ôl i Ben y Pas. Aeth Elen yn ei blaen dros gopa’r Wyddfa i Ryd-ddu lle roedd cwmni tacsi Gwil yn aros amdani.
Llwyddwyd i gael lle ar y bws dybl dec yn ôl i Nant a mwynhau peint haeddiannol yn nhafarn y Faenol. Diolch i Gareth (Llanystumdwy), Eryl (Pentrefelin), Iolo, Sandra ac Elen am eu cwmni diddan.
Adroddiad gan Richard Roberts.
Lluniau gan Elen ar FLICKR
