HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pen Llithrig y Wrach a Pen yr Helgi Ddu 22 Awst


Mae rhai aelodau o’r Clwb wedi bod yn pendroni ers oesoedd ynghylch rhesymau posib am arafwch Dafydd Legal pan mae o’n rhodio’r mynyddoedd. Dw i’n falch o fedru dweud fy mod wedi canfod yr ateb; mae o’n dysgu englynion yng nghwmni rhai o feirdd mawr ein cenedl. Yn ystod y daith hon, cyflwynodd Rhys Dafis yr englyn isod i Dafydd ac erbyn iddo gyrraedd copa Pen yr Helgi Du, roedd o wedi’i ddysgu ar ei gof ... wel, bron iawn!

Y Rhosyn a’r Grug gan Pedrog

I’r teg ros rhoed tŷ grisial –
i fagu
pendefigaeth feddal;
I’r grug dewr y graig a dâl
Noeth weriniaeth yr anial.

Roedd yn dywydd perffaith i gerdded a chyfarfu 21 ohonom yn y maes parcio tu ôl i Siop Joe Brown; cael a chael oedd hi i gael lle i barcio am 08.30. Da o beth bod rhai wedi rhannu ceir ac eraill wedi cyrraedd ar y Sherpa.

Cerdded yn ofalus ar hyd yr A5 am tua hanner milltir cyn ei chroesi ac anelu ar draws y gweundir – sych - i gyfeiriad Llyn Cowlyd. Paned sydyn cyn dringo’n serth i gopa Pen Llithrig y Wrach. Cinio cyntaf yn fanno yng nghwmni criw o Warrington cyn disgyn i Fwlch y Tri Marchog ac yna ymlaen i gopa Pen yr Helgi Du a mwynhau golygfeydd gwych o fynyddoedd Ogwen a thu hwnt.

Cerdded lawr y Braich a chanfod y llwybr anelwig sy’n arwain at yr A5. Cafwyd ail ginio ar lan Afon Llugwy lle bu rhai yn trochi’u traed yn yr ychydig ddŵr a oedd ynddi. Cerdded yn ôl at y ceir ar hyd Lôn y Lord. Aeth rhai ohonom am beint haeddiannol i Dyn-y-Coed ond methodd ambell un â chael lle i barcio yno ac am adre â nhw ar eu hunion!

Y criw diwylliedig oedd: Tegwen, Rhys Dafis, Meinir, Bryn Edern, Huw ac Aled o Faldwyn, Heddwen, Sasha (ei thaith gynta’), Dafydd, Wil, Sw, Anwen, Sandra, Alice, Erwyn, Gareth (Llan), Richard Lester, Eifion a John Arthur o Lanrwst a minnau.

Adroddiad gan Richard Roberts.

Lluniau gan Sandra, Anwen, Richard ag Erwyn ar FLICKR