HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cefn y Ddraig, Diwrnod Un 23 Mai


Ras rhedeg mynydd ydy Ras Cefn y Ddraig, 6 cymal o Gonwy i Gaerdydd dros fynyddoedd uchaf Cymru. Mae’n 240 milltir o hyd gyda 570,000 o droedfeddi o esgyn.

Her teithiau “epic” yr haf yma ydi cerdded y ddau cymal cyntaf, y ddau mwyaf mynyddig a heriol, felly dyma gychwyn ar gymal un o Gonwy i Nant Gwynant

Y criw brwdfrydig ddaru gyfarfod am 2:45 y bore yng nghastell Conwy oedd Sonia, Catrin Meurig, Erwyn, Trystan, Ieuan PJ a Dwynwen ac ar ôl cael tynnu’r llun cychwyn gorfodol o flaen porth y Castell dyma gychwyn drwy strydoedd Conwy.

Mynydd y Dref oedd ein copa cyntaf lle cafwyd golygfa wych o oleuadau Conwy a Llandudno. Ymlaen wedyn trwy Fwlch Sychnant ac am gopa Tal y Fan. Dwi’m yn siŵr pwy ofynnodd “tybed fydd Dilys ac Aneurin wedi dod i fyny efo fflasg o de” ond gan mai dim ond 5:30yb oedd hi, hawdd oedd deall pam …

Ar ôl croesi Bwlch y Deufaen a mynd dros Drum roeddem ar lwybrau cyfarwydd i bawb sydd wedi neud 15 copa a pawb yn falch nad oedd angen mynd draw i’r Elen.

Ein pwynt cymorth cyntaf oedd Glan Dena yn Ogwen, lle bu diosg haenau a rhoi eli haul, cyn y dringo serth am gopa Tryfan. Dros y ddwy Glyder wedyn gyda’r cymylau yn llifo dros y cribau ac rhoi golygfeydd trawiadol. Am lawr wedyn yn dilyn y llwybr y dotiau coch am Ben y Pass lle roedd Gerallt wedi dod i’n cyfarfod eto. Codi mwy o fwyd a diod yma a cael trît o chips efo toman o halen a vinag diolch i Catrin am giwio i’w nôl

Gadawodd Ieuan ni ym Mhen y Pass ond ymlaen aeth y pump arall am bedol yr Wyddfa. Roedd 4:30yp yn amser perffaith i gychwyn gan fod pawb arall yn mynd i’r cyfeiriad arall a chawsom Crib Goch i ni’n hunain. Roedd hi’n braf cael sgramblo ychydig am newid efo ambell un yn cytuno fod “sgramblo yn well na’r hen gerdded ‘ma”

Cafwyd noswaith hyfryd yn mynd dros Crib Goch, Crib y Ddysgl ac am Yr Wyddfa gan gyrraedd mewn tair awr o Ben y Pass a fyddai yn amser digon derbyniol heb fod wedi mynd dros y Carneddau a’r Glyderau gyntaf.

Ein gwobr ar yr Wyddfa oedd gwrthdroad tymheredd a dyna fu ein golygfa tan disgyn i mewn i’r cwmwl ar ein copa olaf sef Gallt y Wenallt. Roedd dod lawr crib Gallt y Wenallt yn eitha llafurus ar goesau blinedig ond lawr a ni a wedyn lawr yn serth gyda peipen ddŵr pwerdy Cwm Dyli. Daeth Gerallt a John Parry i’n cyfarfod yn Gwastadannas, y fflasg o Ribena poeth a’r cnau yn dderbyniol iawn, a cerdded y ddwy filltir olaf efo ni i ochr Llyn Gwynant. Cyraedd am 11:00 ar ôl 20 awr ar ein traed a falch o lift adra.

Diwrnod gwych llawn hwyl a diolch yn fawr i r criw am eu cwmni. Diolch i Dafydd PJ am ddanfon rhai i Gonwy a diolch i Gerallt am ein cefnogi unwaith eto. Tan wythnos nesa a cymal 2 …

Adroddiad gan Dwynwen

Lluniau gan Sonia, Catrin, Erwyn a Dwynwen ar FLICKR