HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Llwybr Cadfan, cymal Harlech i Penrhyn 25 Ionawr


Daeth nifer dda o aelodau ynghyd ddydd Mercher, 25 Ionawr, yng ngorsaf drên Penrhyn ar fore hyfryd o aeaf. Roeddem yn cyfarfod yno i ddal y trên i lawr i Harlech er mwyn cychwyn ar y cymal yma o Lwybr Cadfan drwy gerdded tua’r gogledd o waelod Harlech, ar draws sawl cae, cyn cyrraedd y ffyrdd concrid drwy’r goedwigaeth ar Forfa Harlech, olion ymarferion y Fyddin yno yn ystod y ganrif ddiwethaf. Wedi mynd heibio Cae Rasys, a’r ganolfan trin sbwriel ac ailgylchu, cyrraedd fferm Glan-y-môr, ac yna tŷ’r Warin, lle cawsom baned yn yr haul ac edmygu’r gwartheg Limousine.

Heibio’r Warin, a dilyn glan ddeheuol aber afon Dwyryd, gyda golygfeydd hollol hyfryd o’r Wyddfa a’i chriw, y Moelwynion, Borth-y-gest, adeiladau Portmeirion yn sgleinio’n wyn yn yr haul, a’r morwellt lliwgar ar dywod a llaid yr aber. Wedi cael llun o bawb (diolch, Gwenan), ymlaen heibio Clogwyn Melyn, cartref y diweddar Reithor Bob Hughes, ficer yr ardal a mab y diweddar awdur Richard Hughes, awdur ‘High Wind to Jamaica’ ymysg gweithiau eraill. Yn agos at y tŷ yma, gyda’i olygfeydd gwych o’r aber tua’r gogledd, mae Môr Edrin, cartref y teulu Hughes pan oedd Bob yn blentyn.

Troi oddi ar y ffordd darmac wedyn wrth ymyl Cefn Gwyn a dringo i’r man uchaf ar y daith, bryncyn gyda golygfeydd gwerth chweil i bob cyfeiriad. Yna, ymlaen i Eglwys Llanfihangel-y-traethau, lle gwelwyd bedd Gwyneth Vaughan (1852-1910), awdures leol, nofelydd, darlithydd a newyddiadurwraig o Dalsarnau, Meirionnydd. Roedd hi'n un o brif nofelwyr y genhedlaeth ar ôl Daniel Owen. Dechreuodd ysgrifennu'n broffesiynol yn gymharol hwyr yn ei bywyd pan orfodwyd hi i gynnal ei theulu ar ei phen ei hun yn dilyn marwolaeth ei gŵr alcoholig. Treuliodd yr 1890au fel modryb ofidiau (‘agony aunt!’), yn ogystal ag ysgrifennu ychydig o straeon, yn bennaf yn Saesneg i ddechrau ond bron yn gyfan gwbl yn y Gymraeg yn ystod ei chyfnod aeddfed, a ddechreuodd ar droad yr 20fed ganrif, degawd olaf ei bywyd.

Yn ystod y degawd hwn roedd hi'n hynod gynhyrchiol, gan gwblhau tair nofel sylweddol: O Gorlannau'r Defaid (“O'r Corlannau Defaid"; 1903), Plant y Gorthrwm ("Plant Gormes"; 1905) a Cysgodion y Blynyddoedd Gynt ("Cysgodion y Gorffennol"; 1908). Gadawyd ei phedwerydd nofel heb ei gorffen ar ei marwolaeth. Yn hynod uchelgeisiol, mae ei nofelau'n tynnu ar hanes Cymru - Plant y Gorthrwm yn canolbwyntio ar Etholiad 1868 a arweiniodd at lawer o ffermwyr tenant yn colli eu tenantiaethau am bleidleisio yn erbyn eu landlordiaid Torïaidd - ac yn hyrwyddo'r rhai dan orthrwm, gan gynnwys menywod.

Yn agos mae bedd David Ormsby Gore, Glyn Cywarch, neu ‘Lord Harlech’ i’r bobl leol, a fu’n llysgennad i wledydd Prydain yn America. Cyfarfu â’r teulu Kennedy yn rhinwedd ei swydd, ac wedi marwolaeth ei gŵr, gofynnodd y Lord i Jackie Kennedy ei briodi, ond priodi Onassis wnaeth hi.

Ychydig lathenni o’r porth, mae cofeb unigryw sydd wedi goroesi o adeg cyn i’r arferiad o gofnodi beddau fod yn gyffredin. Cewch fwy o’u hanes yn un o’r lluniau.

Braf oedd gweld bod yr Eglwys yn agored, a manteisiodd rhai ar y cyfle i weld y tu mewn hardd efo’i ffenestri lliw trawiadol a’r ysgrifen ar y trawstiau uwchben y meinciau. Roedd cyfle yma hefyd i gael stamp yn y pasport Llwybr Cadfan.

Ar ôl mynd heibio bedd Richard Hughes, Môr Edrin, arhoswyd wrth fedd Mari’r Fantell Wen, ddaeth i’r ardal yma yn yr 1770au. Cewch fwy o hanes y wraig hynod, a rhyfedd, hon ymysg y lluniau.

O’r Eglwys, y llwybr yn ein tywys am bentref bach Ynys, lle cawsom gip ar Tŷ Gwyn y Gamlas. Dywed rhai mai ar y gamlas lydan hon, sy’n anelu am Harlech, y cludid cyflenwadau o fwyd a phethau angenrheidiol eraill, i Gastell Harlech. Gwelwyd y dorau sy’n rheoli symudiad y môr tua’r tir o’r clawdd llanw a thynnodd Erddyn sylw pawb at y tri drws yn nhalcen y Tŷ Gwyn a fu’n warws prysur ar un pryd, yn dadlwytho grawn a chynnyrch i fadau gwastad yn un o’r sianeli lleidiog islaw. Bu diwydiant adeiladau llongau bach yma hefyd ar un pryd.

Parhau i ddilyn y clawdd llanw wedyn i gyfeiriad Glan y Wern, a da oedd gweld bod pawb am barhau i gerdded ar hyd y clawdd llanw tua’r gogledd yn hytrach na dal y trên yn ôl i Penrhyn neu Borthmadog. Heibio fferm Draenogan a phentref Talsarnau nes cyrraedd Borth Las, cartref Mari Ifan, neu Mari’r Fantell Wen, pan fu’n byw yn yr ardal.

Allan wedyn i’r ffordd i lawr o Gilfor, Llandecwyn, a dilyn hon am Penrhyn, gan groesi Pont Briwet. Aeth rhai yn eu blaenau i gael paned yn Port, ac eraill am baned a chacen flasus i gaffi’r Gorila yn Penrhyn.

Diolch i bawb ddaeth draw i ymuno â’r daith; cafwyd cwmni difyr a bu hen sgwrsio drwy gydol y dydd. Anet, Gwyn Chwilog, Merfyn, Llinos, Gwenan a Gwil, John Arthur, Gareth Tilsley, Erddyn, Roger, Margiad, Huw Henllys, Anne Till, Arwel, Tudor, Nia Wyn Seion, Rhiannon Humphreys Jones, Clive, Elen a Gwil.

Adroddiad gan Haf Meredydd.

Lluniau gan Gwenan a Haf ar FLICKR