Taith Aberffraw 25 Chwefror

Er fod y tywydd yn wlyb a gwynt yn chwythu’n gryf daeth dau ar hugain o aelodau brwd at lan yr afon Ffraw. Dechrau’r daith drwy ddringo dros y bont hynafol ac ymlaen ar hyd yr afon i gyfeiriad y Traeth Mawr. Ambell bibydd coesgoch a phioden y môr i’w gweld yn bwydo ar y tywod.
Seibiant wrth yr hen domen gladdu o’r Oes Efydd ac yna ymlaen ar hyd yr arfordir heibio yr hen winsh wrth Porth Aels ac i Borth Cwyfan. Roedd y penllanw ddim tan hanner awr wedi tri felly roedd digon o amser i groesi’r traeth at Eglwys Cwyfan. Adeiladwyd yr eglwys yn y ddeuddegfed ganrif ar benrhyn Cwyfan oedd rhwng dau fae, Porth China a Phorth Cwyfan, er cof am Sant Kevin a sefydlodd y mynachdy yn Glendalough.
Yn 1766 penododd Esgob Bangor berson uniaith Saesneg ar yr eglwys. Crëodd hyn dipyn o stŵr ymysg yr aelodau uniaith Gymraeg! Dros y canrifoedd erydodd y môr y penrhyn ac fe grëwyd yr ynys lle mae’r eglwys yn sefyll heddiw.
Wedi cinio a sgwrs yng nghysgod muriau’r ynys, crwydro’n hamddenol yn ôl i’r man cychwyn.
Diolch i bawb am eu cwmni.
Adroddiad gan Arwel Roberts.
Lluniau gan Haf ar FLICKR
