Allt Fawr, Moel Druman ac Ysgafell Wen 25 Gorffennaf

Daeth 13 o gerddwyr draw i Fwlch y Gorddinan ar fore eitha braf. Roedd darogan newid tywydd erbyn amser cinio ond roedd rhai’n ffyddiog y byddai’r glaw’n cadw draw oherwydd absenoldeb Gwyn Llanrwst!
I fyny â ni hebio Llyn Dyrnogydd gan anelu am y grib sy’n arwain at lethrau gogleddol Allt-Fawr. O’r grib roedden ni’n gallu gweld mwg y tân trychinebus ar lethrau’r Rhinogydd. Dringo’n serth i gopa’r Allt-fawr lle mae golygfeydd gwych o gopaon Eryri. Yn fy marn i, ar y daith hon y ceir y golygfeydd gorau posib o Eryri.
I lawr o’r copa i’r bwlch a phasio Llyn Conglog cyn esgyn i gopa Moel Druman. Gyda llaw, mae rhywun yn pasio a gweld sawl llyn hyfryd ar y daith hon. Erbyn hyn, roedd y gwynt wedi cryfhau a chyrhaeddodd y glaw gopaon Ysgafell Wen yr un pryd â ninnau.
Dilyn yr un trywydd yn ôl i Fwlch y Gorddinan wnaethon ni heblaw am ddilyn y llwybr sy’n cyd-redeg â godrau llethrau crib yr Allt-fawr.
Y criw rhadlon oedd Eifion Llanrwst, Eifion Harlech, Dilys ac Aneurin, Raymond, Gareth Wyn, Huw Mallwyd, Dafydd Legal, Dafydd Dinbych, Keith, Haf Meredydd, Sw a minnau. Diolch yn fawr iddyn nhw am eu cwmni difyr.
Adroddiad gan Richard Roberts.
Lluniau gan Aneurin ar FLICKR
