HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

15 Copa 25 Gorffennaf



Rhyw syniad munud olaf oedd y daith yma, Ariannell wedi cysylltu rhyw bythefnos yn ôl yn gofyn ti n ffansi 15 copa”? Heb oedi, yr ateb oedd ydw ond… “dim ond os ydi r tywydd yn dda”. Gyda mis o r bron heb law, be alla fynd o i le, felly dyma weld pwy arall oedd yn gêm.

Gan fod tywydd braf a haul wedi dod yn arferol doedd fawr o sylw wedi ei roi i r 50% siawns o law ar ôl amser cinio a dyma gyfarfod yn Pen y Pas toc wedi 3:00yb yn disgwyl diwrnod da. Y criw brwdfrydig oedd Erwyn, Ariannell, Ewart, Sandra, Sioned a Dwynwen.

Gan fod hi n bell i fewn i Orffennaf roedd yn dywyll iawn arnom yn cychwyn a gyda chwmwl isel roedd canfod y llwybr i fyny at y grib yn heriol. Ond, unwaith ar gopa Crib Goch roedden allan o r cwmwl a cafwyd croesi r grib uwchben y cymylau.

Cafwyd gwawr odidog ar Grib y Ddysgl gyda r haul isel yn goleuo r Wyddfa yn wych. Wedi piciad i gopa r Wyddfa lawr a ni am Nant Peris gyda r tymheredd yn codi.

Ar ôl cyfarfod Gerallt yn Nant Peris, a seibiant byr, ymlaen a ni ar ddringfa galetaf y diwrnod i fyny at gopa Elidir Fawr. Cychwyn fyny mewn heulwen ond y cymylau yn hel erbyn cyrraedd y copa. Erbyn mynd dros y Garn a lawr at Llyn y Cŵn roedd y cwmwl i lawr a r glaw wedi cyrraedd.

Yn Llyn y Cŵn penderfynodd Sioned a Sandra beidio parhau a r daith ac aethant lawr am Ogwen heibio r Twll Du ond ymlaen a r 4 arall. Erbyn copa Glyder Fawr roedd yn bwrw yn drwm, y gwynt wedi cryfhau a r niwl yn drwchus. Gan fod hon yn 15 copa cyntaf i Ariannell a Ewart mi ddaru Erwyn a fi wneud iddyn nhw ymbalfalu dros gopa Glyder Fach, dipyn o gamp yn y gwynt cryf.

Roedd y disgyn i lawr am fwlch Tryfan mor annifyr ac arfer ond pawb mewn hwylia da er ein bod yn socian. Ariannell yn fy holi a i hyn oedd y tywydd gwaetha am daith 15 copa o ni di gael? Ar y pwynt yma o ni n cofio am y cenllysg gafo ni ar daith 2022 ac yr ateb oedd na.

Roedden yn falch iawn o weld Gerallt yn Glan Dena efo n dillad sych ac ar ôl i bawb cael newid dillad llawn ymlaen a ni am y Carneddau. Cawsom gwmni Gethin am rhan o r ddringfa, diolch Geth am ddod i n cefnogi. Roedden nôl yn y cwmwl cyn y wal fynydd a r dillad dal dŵr yn hanfodol erbyn cyrraedd copa Pen yr Ole Wen.

Cawsom gip sydyn iawn ar Gwm Llafar am ychydig o eiliadau ond heblaw am hyn gwelsom dim byd o gwbwl ac roedd rhaid canolbwyntio ar y mordwyo. Daeth yn dywyll erbyn i ni gyrraedd copa Foel Grach a cawsom seibiant byr yng Nhwt Dafydd Ross.

Roedd ail cychwyn yn anodd, y lamp pen yn creu wal wen o n blaenau ac yn gwneud canfod y llwybr yn anodd. Roedd cael hyd i r trig ar gopa Foel Fras yn dipyn o gamp. Ar ôl llongyfarch Ariannell ac Ewart ar eu camp a trio cael rhyw fath o lun copa olaf roedd rhaid meddwl am gyrraedd Abergwyngregyn.

Erbyn hyn roedd y tywydd yn erchyll, gwynt cryf, glaw trwm a r niwl mor drwchus roedd yn anodd bod yn sicr os oedden yn cerdded fyny neu lawr allt. Roedd cychwyn lawr yn dilyn y wal yn eithaf hawdd ond roedd canfod Llyn Anafon tipyn anoddach ac roedd mawr ryddhad wrth ganfod y ffodd.

Roedd y ddwy filltir a hanner olaf yn teimlo n hir ond roedd pawb dal mewn hwyliau da. Cafodd Erwyn lluniau da o r glaw a cefais gadarnhau i Ariannell mai hyn oedd 100% y tywydd gwaetha dwi di gael am daith 15 Copa!!

Diolch i bawb am eu cwmni a diolch i Gerallt am ein cefnogi. Llongyfarchiadau i Ariannell a Ewart ar eu 15 Copa cyntaf, ond ella ddim olaf…

Adroddiad gan Dwynwen Pennant.

Lluniau gan Ariannell, Erwyn, Ewart, Dwynwen a Gerallt ar FLICKR