Bwtres Llechog 26 Medi

Cyfarfu 3 ohonom yn y cae parcio preifat isdraw na’r maes parcio swyddogol, sef Eryl, Stel a finnau.
Cychwyn cerdded ar hyd ochr y ffordd i gyfeiriad Gwastad nant a chroesi’r afon i gyfeiriad Cwm Hetiau a Llechog. Roedd rhagolygon y tywydd yn ffafriol am y diwrnod ond fe gafwyd ychydig o law mân wrth i ni gychwyn dringo’r llethr serth i gyrraedd y Bwtres a’r sgrialu go iawn.
Cafwyd diod sydyn mewn man ffafriol cyn cychwyn i fyny hafn o laswellt a chreigiau nes cyrraedd blociau mawr o greigiau a’r darn pleserus o’r sgrialu. Cafwyd dipyn o drafferth wrth ddringo’r hafnau cysgodol. Roedd y graig yn llithrig ac fe gymerodd dipyn o amser cyn i ni fedru gyrraedd pen ucha’r daith a’r sgrialu hawdd i’r copa. Pan wnaethpwyd y daith yn 2015, roedd yn llawer haws ar ddiwrnod braf a’r graig yn sych.
Cymerwyd cyfle yn fan honno i fwyta cinio sydyn cyn cychwyn am Orsaf Clogwyn i ganol dwsinau o gerddwyr a niwl trwchus. Gan ein bod wedi cymryd llawer mwy o amser i gyrraedd y copa, penderfynwyd cwtogi y daith a mynd lawr Cwm Hetiau yn ôl i’r man cychwyn a’r maes parcio.
Diolch i Eryl a Stel aelod newydd i’r clwb am eu cwnni hwyliog. Mae Stel wedi dysgu ‘r iaith Gymraeg ers blynyddoedd ac wedi sicrhau bod ei theulu hefyd wedi eu dwyn i fyny yn yr iaith.
Adroddiad gan Gareth Wyn Griffith.
Lluniau gan Gareth ac Eryl ar FLICKR
