Gwersylla yn y Rhinogydd 27-28 Mehefin

Ar ôl tywydd eithafol o boeth yn ystod yr wythnos cynt, da oedd gweld y tymheredd i lawr i ’r ugeiniau canol erbyn y penwythnos. Tymheredd delfrydol i wersylla, be alla fynd o ’i le…
Felly, dyma gyfarfod yn maes parcio Graigddu Isaf ar ochr ddwyreiniol y Rhinogydd cyn teithio i Caerwych ar yr ochr orllewinol i gychwyn y daith.
Y criw brwd o bump oedd Gerallt, Dwynwen, Sioned Llew, Anwen a Sioned a testun sgyrsiau cynnar y daith oedd pa mor drwm oedd ei paciau a be dylsa ni fod wedi adael adra.
Cychwynnom yn dilyn llwybr Taith Ardudwy i Fryn Cader Faner cyn dringo am gopa Foel Penolau a wedyn ymlaen dros gopa Moel Ysgyfarnogod.
Rhwng Moel Ysgyfarnogod a Llyn Du dyma gyfarfod criw Eryl (Gaenor, John Arthur, Eifion, Aled ac Eryl) yn dod ffordd groes. Roedd Eryl wedi dweud ei fod eisiau diwrnod yn y Rhinogydd ond ddim yn ffansio ’r gwersylla, roedd ambell un o ’n criw ni yn meddwl fod o wedi dod i checio faint o ‘contraband ’ (cwrw) oedd yn ein paciau.
Ar ôl rhyw hanner awr o sgwrsio a gorweddian yn yr haul dyma ffarwelio ac ymlaen a ni am Llyn Du, Llyn Corn Stwc, copa Craig Ddrwg a piciad i gopa Clip cyn mynd lawr Bwlch Gwilym. Er yn gynnes roedd y gwynt wedi cryfhau yn sylweddol erbyn hyn.
Ar ôl dringo fyny am Craig Wion dyma drio cael hyd i rywle i wersylla ger Llyn Pryfed oedd yn cynnig cysgod o ’r gwynt cryf. Ar ôl hir bendroni a cherdded cylch o amgylch Llyn Pryfed dyma benderfynu ar safle. Ond, wrth godi ’r pebyll, daeth hi ’n amlwg yn fuan iawn na fysa ni (na ’r pebyll) yn goroesi ’r nos yn fano.
Felly, ail bacio ’r pebyll a ’r paciau a nôl a ni am Lyn Twr-Glas lle roedd llawer mwy o gysgod a cael llecyn heb ormod o wynt os ychydig yn wlyb. Cawsom fwynhau gyda nos braf yn dathlu pen-blwydd Sioned, gyda ambell i gan o gwrw yng nghwmni ’r Gwyddau Canada.
Am 10 o ’gloch, fel oedden ni ’n meddwl am noswylio, daeth y glaw. Mi fwriodd yn drwm drwy ’r nos tan tua 8 o ’gloch y bore felly doedd dim awydd codi ’n fuan ar neb. Wedi ’r glaw arafu dyma agor drws y babell i niwl trwchus, doedden ni ddim yn gweld Llyn Twr-Glas er ei fod dim ond 20 m i ffwrdd.
Erbyn cael brecwast hamddenol a codi pac roedd y niwl yn clirio a ffwrdd a ni i gyfeiriad Bwlch Tyddiad cyn dringo am Lyn Du a wedyn copa Rhinog Fawr. O ’r copa, disgyn lawr i Fwlch Drws Ardudwy ac yn ôl drwy ’r goedwig i Greigddu Isaf.
Er fod hon yn daith weddol fyr o ran pellter roedd pawb yn cytuno fod hi ’n un eitha heriol gyda paciau trwm dros dir garw ’r Rhinogydd.
Penwythnos wych efo cwmni da, y pebyll a ’r mynyddwyr wedi goroesi!
Adroddiad gan Dwynwen Pennant.
Lluniau gan Gerallt, Dwynwen, Sioned Llew ac Anwen ar FLICKR
