HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Moel Ysgyfarnogod a Moel Penolau 27 Mehefin


Rhyw daith amgen funud olaf oedd hon ar gyfer rhai nad oeddent am ymuno â chriw Dwynwen yn gwersylla, a thaith i fanteisio ar dywydd da gyda’r gwres yn llai tanbaid nac yn gynharach yn yr wythnos.

Wedi cyfarfod ym man parcio’r pysgotwyr ar lan Llyn Trawsfynydd, dyma gerdded ar hyd y ffordd gefn cyn troi i lwybr at Wern-fach ac yna dilyn afon Crawcwellt heibio i hen ffermdy Wern-cyfrwy a’i olwyn ddŵr yn awgrymu diwydrwydd yma ddyddiau fu. A hithau wedi bod mor boeth, llwyddwyd i gerdded ar hyd y tir drwg-enwog yma am ei wlybaniaeth heb wlychu traed – heblaw am un anffodus a lithrodd hyd at ei ben-glin i bwll cuddiedig o ddŵr mwdlyd!

Roedd y dringo’n hamddenol gydag awel braf yna esgyniad byr ond serth i Fwlch Gwilym. Er cael y dewis o bicio i gopa Clip gerllaw, dewis pawb oedd mwynhau cinio a golygfeydd o Graig Wion ac ymlaen am Rhinog Fawr i’r de, a Chraig Ddrwg a gweddill y daith i’r gogledd.

Roedd yn braf cael cerrig sych dan draed i gerdded yn hwylus dros dirwedd creigiog yr ucheldiroedd gwych yma heibio i Lyn Corn-ystwc a Llyn Du gan ddechrau dyfalu pa bryd y byddem yn cyfarfod y criw gwersylla. “Dacw nhw”, gwaeddodd yr arweinydd ond, er gwaethaf cw-cwio Gaenor, chafwyd ddim ymateb ganddynt. Hen bethau sych! Wedi cerdded tipyn yn nes, sylweddolwyd nad y nhw oeddent!

Ond daethpwyd ar draws y ‘pump arall’ yn fuan wedyn a chael hanner awr o segura braf yn eu cwmni cyn gwahanu i fynd i’n gwahanol gyfeiriadau. Cawsom gopa Moel Ysgyfarnogod (623 m/2044’) i ni ein hunain, gyda’r gwynt yn codi i hyrddiadau gwyllt ar brydiau, cyn troedio’r llwyfandir moel tuag at Foel Penolau (614 m/2014’) a’i wyneb gorllewinol creigiog yn gwarchod y copa. Moel Penolau – neu Moel Panylau’n wreiddiol efallai ar ôl y pantiau niferus yn y graig? Roedd dewis rhwng herio’r clogwyn yn uniongyrchol neu’r llwybr haws oddi amgylch i’r dwyrain o’r copa.
Roedd dau is-gopa arall o’n blaenau; Diffwys ac yna’r esgyniad byr olaf i gopa Moel y Gyrafolen (ar y mapiau) neu Griafolen efallai ond Moel Gron yn lleol. Mae llwybr annelwig sy’n rhan o Lwybr Cambria yn igam-ogamu i lawr trwy’r grug tua Bwlch Moch ac yna i’r ffordd ger Tŷ’n-twll ac yn ôl i’r man cychwyn.

Gobeithio bod Aled o Langadfan wedi mwynhau ei hun yng nghwmni pedwar pensiynydd – John Arthur ac Eifion a Gaenor ac Eryl.

Adroddiad gan Eryl Owain.

Lluniau gan Aled ac Eryl ar FLICKR