HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Capel Curig i Aberglaslyn 28 Mawrth



Dydd Sul oedd dyddiad gwreiddiol y daith yma ond oherwydd rhagolygon am law drwy’r dydd a gwynt yn hyrddio dros 60 mya ar y copaon roedd rhaid ail feddwl. Gyda rhagolygon tywydd llawer gwell ar y Sadwrn roedd hi’n benderfyniad hawdd ond ymddiheuriadau i’r pedwar oedd yn methu dod dydd Sadwrn.

Gan fod y clociau yn mynd ymlaen nos Sadwrn roedd y criw ar y daith yn meddwl fasa nhw’n cael awr ychwanegol yn eu gwlâu ond doedd dim fath lwc. Dyma gyfarfod yn Aberglaslyn am 6:00 ac yn ein blaenau i Gapel Curig gyda’r wawr. Y criw brwdfrydig oedd Anwen, Marc Wyn, Sandra, Elen, Trystan a Dwynwen.

Roedd unig ddringfa hir y daith yma ar y cychwyn o Gapel Curig i gopa Moel Siabod. Cyrhaeddom y copa yn y cwmwl ond efo’r gwynt yn gryf (ac oer!) a 10 munud yn cael panad yn y gorlan roedd y cymylau wedi clirio a fel hyn arhosodd hi drwy’r dydd.

Efo pawb erbyn hyn yn gwisgo bron pob dilledyn oedd ganddynt aethpwyd i lawr am Fwlch Rhiw’r Ychen ac ymlaen dros Clogwyn Bwlch y Maen, Carnedd y Cribau, Bwlch Maen Pig, Clogwyn Pwll Budr i Fwlch Rhediad. Yma cawsom wers hanes gan Marc am dynged awyren Aer Lingus y St Kevin ddaeth i lawr yn y gors lle lladdwyd 23 o bobl yn 1952.

Ymlaen wedyn dros gopaon Cerrig Cochion, Moel Meirch, Ysgafell Wen a Cnicht cyn dilyn llwybr Cambria yn ôl i Aberglaslyn.

Pawb yn falch ein bod ni wedi cychwyn yn gynnar oherwydd roedd hen ddigon o amser i dorri syched yn Y Prince yn Beddgelert i orffen diwrnod da. Diolch i bawb am eu cwmni.

Adroddiad gan Dwynwen

Lluniau gan Dwynwen, Elen, Sandra ac Anwen ar FLICKR