HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cefn y Ddraig, Diwrnod Dau 30 Mai


Wedi wythnos i ddod at ein hunain, cymal 2 o gwrs Ras Cefn y Ddraig oedd hi wythnos yma; o Nant Gwynant i Bwll Penmaen. Er bod cymal 1 yn rhagori ar faint o esgyn roedd pawb yn ymwybodol fod cymal 2 yn croesi mynyddoedd mwyaf garw Cymru, y Rhinogydd....

Y criw brwdfrydig ddaru gyfarfod am 2:45 y bore yn Nant Gwynant oedd Erwyn, Trystan, Dwynwen ac Ariannell.

Roedd hi’n dywyll iawn am 3:00 y bore ac yn dywyllach yng nghoedwig Plas Gwynant lle oedd galwad y tylluanod yn neud hi’n eitha spŵci yn doedd Ariannell … !

Gyda’r cymylau yn isel roedd hi dal yn dywyll pan gyrhaeddom Fwlch y Batel ac roedd unrhyw obaith o gael gwawr ar Cnicht wedi hen fynd. Yn y cymylau buom ni wedyn dros Moelwyn Mawr nes disgyn i Fwlch Stwlan.

Dyma gyrraedd Maentwrog toc cyn 9:00 lle ddoth Gerallt a Sian i’n cwrdd yn nhŷ John a Marc. Yno cawsom wledd o de, coffi a chacenni cri yn syth o’r badell a flapjacks cartref a gadwodd ni fynd drwy’r dydd!

Efo Sian yn ymuno efo ni, ymlaen wedyn i fyny heibio Gellilydan am yr Atomfa a dros argae Llyn Trawsfynydd. Cyfarfod Gerallt yn sydyn i godi mwy of fwyd a dŵr yng Ngoed y Rhygen cyn codi am gopaon gogleddol y Rhinogydd. Dros Moel Gyrafolen, Diffwys, Foel Penolau, Moel Ysgyfarnogod cyn disgyn lawr Bwlch Gwilym ac i lawr i Gwm Bychan.

Ar ôl cyfarfod Gerallt am y tro olaf yng Nghwm Bychan dyma godi yn ôl i fyny i Fwlch Tyddiad ac am gopa Rhinog Fawr, yr haul yn taro erbyn hyn ond pawb mewn hwyliau da er yn arswydo wrth feddwl am Rhinog Fach. Ar gopa Rhinog Fawr roedd copa Llethr yn edrych yn bell ond fel dywedodd rhywun, roedd copa Cnicht yn hyd yn oed yn bellach ac ymlaen a ni.

Er y melltithio ar y ddringfa mi ddaru Rhinog Fach ildio yn reit ddi lol ond cafwyd cawod o law fer ar y copa. Ymlaen heb oedi felly ac am Llethr yn gwybod byddai dringo mawr y dydd wedi ei wneud wedyn.

Roedd cerdded dros gopaon gwelltog Llethr, Crib y Rhiw ac am Diffwys yn nefoedd wedi’r holl dir garw a pawb yn mwynhau golygfeydd o’r haul ar Sarn Badrig. Poeni wedyn fod diffyg gwsg yn dal fyny efo ni pan welwyd defaid pinc - ond sylwi eu bod newydd eu cneifio a bod rhywun di mynd dros ben llestri efo’r paent marcio.

Ar ôl mynd dros y wal ar ysgwydd Diffwys roeddem yn gweld Pwll Penmaen. Cafwyd ddeg munud bach o orffwys a mwynhau’r golygfeydd cyn cychwyn ar ein penna lawr am y George III. Wrth gerdded lawr drwy Flaen Cwm Mynach cawsom olygfeydd godidog o haul yr hwyr yn taro Cader Idris ac enfys. Wedi croesi’r bont, cyraedd y George III mewn da bryd i gael peint haeddiannol.

Diwrnod gwych llawn hwyl a diolch yn fawr i r criw am eu cwmni. Diolch i Gerallt am ein cefnogi unwaith eto ac i Dylan am ddod i nôl ni o Bwll Penmaen. Mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer cymal 3 yn yr Hydref…

Adroddiad gan Dwynwen

Lluniau gan Ariannell, Erwyn a Dwynwen ar FLICKR