Aran Fawddwy 31 Hydref

Wedi i 31 ymuno â thaith Rhobell Fawr nol yn Nhachwedd 2021, daeth 33 ynghyd ym Mlaen Cywarch i gadarnhau nad oes eu tebyg i fynyddoedd Meirionnydd am ddenu’r tyrfaoedd; hynny a’r addewid o dywydd braf efallai!
Roedd pawb a gyrhaeddodd o bob cyfeiriad – o Fôn, Arfon, Dyffryn Clwyd, Eifionydd a Caerfyrddin a Cheredigion yn canmol yr awyr las, yr haul a’r golygfeydd gwych ar eu taith dim ond i gael eu siomi gan y niwl oedd yn cuddio Cadair Idris a’r ddwy Aran. Felly, nid oedd llawer i’w weld wrth ymlwybro i fyny Cwm y Graig, dringfa serthaf y dydd, a chafwyd paned eithaf sydyn yn y niwl ym Mwlch Cosyn. Ond yna, gweddnewidiad rhyfeddol; y Gadair a’r Rhinogydd i’w gweld yn glir, Yr Wyddfa yn fawreddog uwch na Moel Hebog, Crib Nantlle a’r Moelwynion gyda’r Carneddau yn y pellter. Tua’r dwyrain a’r de, roedd gwrthdroad yn cuddio’r dyffrynnoedd ond roedd copaon y Berwyn a Phumlumon yn codi uwchben y cymylau.
Mwynhawyd egwyl braf o ginio ar y copa, mynydd uchaf Cymru i’r de o’r Wyddfa, yna ail-droedio peth o’r daith i fyny ond troi i gyfeiriad Drws Bach. Rhannwyd yn ddau griw eithaf cyfartal yno, rhai yn parhau tua Drysgol i ganfod llwybr mawn Hengwm yn ôl at y ceir ond y gweddill yn penderfynu manteisio ar y tywydd gwych i gynnwys Gwaun y Llwyni (685 m) hefyd ac ambell un falch o fedru ticio un arall o Gant Cymru. Yn ôl wedyn i Drws Bach i ddilyn ôl troed y gweddill, gan gyrraedd y Llew Coch funudau cyn i’r lle agor am 6.00. Yn anffodus iddyn nhw, drws ar gau gafodd y criw cyntaf a gorfod troi am adref yn sychedig!
Dyma’r criw, mwy neu lai yn ôl y ceir – Sandra, Anwen, Huw a Jano; Anna a Gareth; Dwynwen a Gerallt; Paula dau Gwyn Rbts a Stel; Richard, Sŵ, Hywel a Gaenor; Tegwen, Sioned, Iolo a Rhiannon; Dilys ac Aneurin; Peter, Eurig, Andreas a Manon; Huw ac Aled; Eifion; Meinir – ac Alice efo hi o Ddolgellau; Eryl ac Aled – cyfaill a ymunodd â’r daith a mwynhau ei hun yn fawr iawn!
Adroddiad gan Eryl Owain.
Lluniau gan Gerallt a Hywel ar FLICKR
