HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Rhagfyr 2015 - Mai 2016

Dyddiad
2015
Amser Lle Taith Arwain/Cyswllt
Cyf. Cych.
Sadwrn
Rhagfyr
19
9.15 9.30 Ar ochr y fffordd o Ddeiniolen am Farchlyn   CG: SH 596 630

Carnedd y Filiast ac Elidir Fawr
Taith bedol o amgylch Cronfa Ddŵr Marchlyn Mawr, tua 6-7 milltir a 630m o esgyn. Dringo Carnedd y Filiast a Mynydd Perfedd ac i lawr i Fwlch Marchlyn i gopa Carnedd y Filiast a lawr nôl dros Elidir Fach.

Elen Huws

2016          
Gwener
Ionawr
1
9.15 9.30

Maes Parcio Pen-y-pas

Yr Wyddfa ar ddydd Calan
Dewis o deithiau i gopa’r Wyddfa.  Angen dillad ac offer mynydda gaeaf yn y gobaith y bydd cyfle i ddefnyddio cramponau a cheibiau.


Gwyn Roberts
Mercher
Ionawr
6
9.45 10.00 Pen y Stryd
(cyffiniau Trawsfynydd)
CG: SH 725 319 
parcio ar ochr y ffordd
Taith y Flwyddyn Newydd
Cerdded am Big Idris, Moel Ddu, ac uwchben Llyn Gelli Gain i Foel Oernant.
Yn ôl ar hyd y ffordd a galw ar Porius yn ei fedd.
Tua 12 km.
(Os bydd y tywydd  yn anobeithiol o ddrwg, gallwn fynd i Goed y Brenin a cherdded yn ardal Gwynfynydd)

Raymond Griffiths

Sul
Ionawr
17
9.15 9.30 Maes parcio Tŷ Nant
(taliad a thoiledau)
CG: SH 698 153

Cadair/Cader Idris o Dŷ Nant
Fyny Llwybr Madyn i gopa'r Gadair ac i lawr Llwybr Tŷ Nant gan gynnwys y Cyfrwy ar y ffordd.
Tua 10 km a dringo tua 750 m, taith tua 5-6 awr.

Myfyr Tomos
Sadwrn
Ionawr
23
9.15 9.30 Maes parcio Storey Arms Taith y Bannau
Dringo Craig Cerrig Gleisiad, Fan Frynych, Fan Drigarth a Fan Fawr.Tua 11 milltir.
Aled Elwyn

Sadwrn
Ionawr
30

9.15 9.30 Maes parcio Craflwyn
ger Beddgelert
CG: SH 600 489

Craig Wen  a'r  Aran
Taith i gopa’r Aran o gyfeiriad gwahanol i’r arfer o tua 6.5 milltir a 750 m o ddringo, gan ymweld â Dinas Emrys ar y ffordd nôl.

Cemlyn Jones

Morfudd Thomas

Sadwrn
Chwefror
6
9.15 9.30 Maes parcio Poppit
CG: SN 152 488

Taith yr Arfordir
Taith gylch o tua 12 milltir i Drewyddel a Ceibwr a nol drwy Pen Dinas, yn rhannol ar lwybr yr arfordir a'r gweddill ar lwybrau cefn gwlad.

Eileen Curry

Mercher
Chwefror
10

10.15 10.30

Wrth y pwll padlo,
Pen y Morfa,
Llandudno
CG: SH 771 820

Pen y Gogarth
Llwybr y Mynach, Ffynnon Rufeinig, Y copa, Cromlech Llety'r Filiast, Caer Pen Dinas a'r Graig Siglo
Gerddi Heulfre
10km
Cofiwch gysylltu er mwyn rhannu ceir os yn bosib

Arwel Roberts
Sadwrn
Chwefror
13
9.15 9.30 Maes parcio tu cefn
i siop Joe Brown
CG: SH 719 582

Crimpiau a’r Creigiau Gleision
Bwriadu mynd tros y Crimpiau, Y Graig Wen i gopa Creigiau Gleision yna disgyn i lan Llyn Crafnant. Penderfynu yn ôl amser/tywydd a hwyliau y criw, a awn yn ôl trwy ddringo y bwlch yn uniongyrchol i gyfeiriad Capel Curig, neu fynd tros ysgwydd Mynydd Deulyn a heibio Llyn Bychan.
Taith o rhyw 11-12 milltir, gydag oddeutu 1000 m o godi tir i gyd.

Gwyn Williams
Wythnos
Chwefror
13-20
     

Wythnos yr Alban,
Canolfan Snowgoose, Corpach ger Fort William  -  £110 

Mae lle ar gyfer 14 ym myncws Blacksmiths a rhagor o le, pe byddai angen, mewn byncws arall ar yr un safle. Cewch fwy o wybodaeth am y Ganolfan ar www.highland-mountain-guides.co.uk.

Y bwriad yw cael cyfle i brofi mynydda gaeaf felly gobeithio y bydd y tywydd a'r amgylchiadau o'n plaid. Mae angen dillad ac offer pwrpasol ar gyfer yr adeg hon o'r flwyddyn yn yr Alban ac er bod angen profiad blaenorol o fynydda cyffredinol, mae taith y clwb yn cynnig cyfle i ymestyn profiad a datblygu sgiliau o ran mynydda gaeaf.

Angen y canlynol erbyn 1 Ionawr 2016:
Enw, Cyfeiriad, Rhif(au) Ffôn, cyfeiriad e-bost
Sieciau yn daladwy i 'Clwb Mynydda Cymru'

Maldwyn Roberts

Sadwrn
Mawrth
5
9.15 9.30 Maes parcio/hen rheilffordd
CG: SH 823393

Arenig Fawr a Moel Llyfnant
Taith yn un o'r ardaloedd mwyaf gwyllt ac unig gogledd Cymru. Cerdded heibio Llyn Arenig i’r copa yna dilyn y grib tua’r de-orllewin a chroesi’r bwlch at Moel Llyfnant. Lawr o'r copa tua'r gogledd yn ôl at ffordd i gwblhau’r cylch.
Tua 10 milltir / 16 km a 930 m / 3000’  o esgyn

Mark Williams
Mercher
Mawrth
9
   

Dal y trên ym Mhwllheli am 09:36, Cricieth 09:50, Porthmadog 10:00 neu Benrhyndeudraeth am 10:08.
Tocyn (am ddim i rai) i 'halt' Tŷ Gwyn (rhwng Talsarnau a Harlech).

Llwybrau gogledd Ardudwy
Dilyn llwybrau at Lyn Tecwyn Uchaf cyn troi i lawr am Bont Briwet a cherdded yn ôl i Benrhyndeudraeth
(cewch fwy o fanylion eto am amseroedd trên/bws o Penrhyn ar ôl y daith a man cyfarfod i'r rhai sy'n dod mewn car ayyb).

Arwyn Jones

Sadwrn
Mawrth
19
9.15 9.30  Man parcio uwchben
Stryd Fawr Bethesda
(fyny'r allt gyferbyn
â Neuadd Ogwen)
CG: SH 623 668
Foel Fras a Llwytmor
Taith yn cynnwys Bera Bach, Yr Aryg, Carnedd Gwenllian, Foel Fras a Llwytmor ac yna i lawr i Gwm Afon Goch a dychwelyd heibio Afon Rhaeadr Bach a Gyrn.
Tua 11 milltir

Chris Humphreys

Edward Griffiths

Sadwrn
Mawrth
19
*Dyddiad
i'w
gadarnhau
    Abaty Llanddewi Nant Hodni
CG: SO 289 278

Taith Llanddewi Nant Honddu
Cylch ar hyd y ddwy grib i’r de gan ymweld ag Eglwys Sant Martin yng Nghwm Iau, sy’n un o 100 lle yng Nghymru, John Davies.

Peredur Evans
Llun
Mawrth
28
(Pasg)
10.00   Maes parcio Rhydymain
ger y Neuadd
CG: SH 805 220

Beicio Mynydd - Cylchdaith Rhobell Fawr
****** GOHIRIWYD tan yn ddiweddarach ******
Llethrau dwyreiniol Rhobell i Gwm yr Allt Lwyd gan ddychwelyd trwy Fwlch Goriwared a Llanfachreth. Tua  30 km

Arwel Roberts
Sadwrn
Ebrill
2
9.15 9.30 Maes parcio taliad a thoiledau Nant Peris
CG: SH 607 582

Y Garn ac Elidir Fawr
I fyny Cwm Padrig at Llyn y Cŵn ac ymlaen dros y Garn, Foel Goch, Elidir Fawr ac Elidir Fach a gwneud ein ffordd yn ôl drwy'r chwarel.
Taith o tua 15 km gyda tua 1150 m o esgyn ac yn cymryd tua 6-7 awr i’w chwblhau.

Alun Hughes
Mercher
Ebrill
13
10.00 10.15 Cilfan Plymog ar yr A494 rhyw ½ milltir i’r de o bentref Llanferres
CG: SJ 187 598

Bryniau Clwyd
Dilyn Llwybr Clawdd Offa dros Foel Fenlli, Moel Famau, Moel Dywyll, Moel Llys-y-Coed a Moel Arthur. Tua 12 km/7.5 milltir.
DS Mae angen ceir y ddau ben i’r daith hon felly mae’n hanfodol cysylltu cyn y diwrnod er mwyn trefnu hyn.

Dilys ac Aneurin Phillips
Sul
Ebrill
17
9.15 9.30 Maes parcio ar ben y bwlch
CG: SH 802 170

Crib Maesglase
Cerdded y grib o Fwlch yr Oerddrws i Ddinas Mawddwy, ar hyd ochr ddeheuol  Cwm Cerist. Tua  12 km / 7.5 milltir gydag esgyniad o tua 510 m.

Elen Huws

Sadwrn
Ebrill
30
9.15 9.30

Maes parcio hanner ffordd ar hyd Llyn Ogwen
CG: SH 656 602

Sgramblo ar y Glyderau
Diwrnod o sgramblo yng Nghwm Bochlwyd neu Cwm Cneifion – manylion pellach i ddod.
Angen profiad o gerdded tir garw a phen da am uchder ond cyfle hefyd i rai roi cynnig ar sgramblo mewn awyrgylch mynyddig ac anghysbell.

Gareth Wyn Griffiths
Mercher
Mai
18
    Parcio wrth Llechollwyn heibio pentref bach yr Ynys - mwy o fanylion i ddod Llwybr Arfordir Ardudwy, Llanfihangel-y-traethau ac Ynys Gifftan
Bydd y llanw'n ddelfrydol i groesi'r traeth ar 18 Mai - dewch â'ch Crocs neu rhwbath i sychu'ch traed os am fynd yn droednoeth. Cawn gyfle yn y bore i gerdded rhywfaint o Lwybr yr Arfordir ac ymweld ag Eglwys hynafol Llanfihangel-y-traethau cyn croesi i'r ynys a cherdded o'i hamgylch cyn dringo i'w chopa i weld y bwtsias y gog - cyn i'r rhedyn dagu'r llwybr.
 
Mercher
Mehefin
15
      Cwm Hesgyn
mwy o fanylion i ddod
Eryl Owain
Mercher
Gorffenaf
13
      Taith lefel isel o amgylch rhan o'r Wyddfa
mwy o fanylion i ddod
Rhiannon a Clive James
Mercher
Hydref
12
      Y Bermo/Llanaber
mwy o fanylion i ddod
Gareth Tilsley

CROESO I SYLWADAU AC I  SYNIADAU AM WEITHGAREDDAU
- A CHROESO ARBENNIG I GYNIGION I ARWAIN!

Ysgrifennydd gweithgareddau:  Eryl Owain  01690 760335   erylowain@gmail.com

Cydlynydd teithiau’r de: Dewi Hughes  02920 891753 / 07909 930427  dewihughes1@btinternet.com

Cydlynydd dringo:  Arwel Roberts  07803191058  arwelgwydyr@aol.com

Cydlynydd teithiau Mercher: Haf Meredydd    07760 283024  hafm@hmeredydd.freeserve.co.uk

 

Teithiau/Trefniadau Eraill a Manylion Pellach

Arweinwyr: Cofiwch lenwi'r ffurflen ar ddechrau'r daith / gweithgaredd.
Pob Aelod: Cofiwch gario eich cerdyn manylion ar bob taith.

Os gwelwch yn dda, a wnewch chi gysylltu â’r arweinydd cyn y daith.
Hefyd, a wnaiff yr arweinyddion gysylltu â ymholiadau@clwbmynyddacymru.co
wedi’r daith i gadarnhau nifer y teithwyr a chofiwch am hanes a lluniau i’w cynnwys ar y wefan.
Os oes darpar-aelodau ar un o’r teithiau, a wnaiff yr arweinydd yrru’r enwau, cyfeiriadau a chyfeiriadau e-bost at Iolo Roberts…
ymholiadau@clwbmynyddacymru.com
Teithiau: Mae'r Clwb yn awyddus i dderbyn syniadau am deithiau neu weithgareddau.
Cysylltwch â ni drwy e-bostio ymholiadau@clwbmynyddacymru.com
Ni fydd disgwyl ichi arwain y teithiau

Dringo dan do
Pob nos Wener cynta'r mis bydd rhai o aelodau'r Clwb yn ymgynnull yng nghanolfan dringo dan do y Beacon.
Mae'r nosweithiau yn addas i ddechreuwyr neu i'r rhai sydd yn dymuno gwella eu sgiliau dringo. Os oes ganddoch ddiddordeb, yna
cysylltwch â Gwyn Roberts ar 01286 870 534, Arwel Roberts ar 01492 514 424 neu Anita Daimond ar 01492 600 414.

Dringo gyda’r nos
Bydd dringo ar greigiau tu allan gyda'r nos yn Ogwen yn cychwyn o ddydd Iau cyntaf mis Mai ymlaen. Cyfarfod yng
Nghaffi Ogwen. Cysylltwch ag Arwel Roberts ar 01492 514 424, Arwelgwydyr@aol.com ac i gael eich cynnwys ar restr e-bostio dringo.

Partneriaeth Awyr Agored

Mae’r Clwb wedi ymaelodi â’r Bartneriaeth a gall ein haelodau fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg. Tocynnau Aelodaeth i ddilyn. Bydd aelod/au o’r Pwyllgor yn cael eu penodi fel Cydlynydd Hyfforddiant maes o law.
Mae dolen i gylchlythyr diweddaraf y Bartneriaeth ar wefan y Clwb,
neu ewch i www.partneriaethawyragored.co.uk/newsletter/indexcym.php