Dyddiad
2012 |
Amser |
Lle |
Taith |
Arwain/Cyswllt |
Cyf. |
Cych. |
Sadwrn
Gorffennaf
7 |
9.45 |
10.00 |
ger Ysgol Sarn Bach CG: SH 304267 |
LLWYBR ARFORDIR CYMRU
-1 GOGLEDD
Porth Fawr, o gwmpas Trwyn yr Wylfa
ymlaen am Borth Ceiriad, o gwmpas Trwyn Cilan
ac i lawr i Borth Neigwl cyn troi yn ol am Sarn Bach.
Taith hamddenol o tua 9 milltir.
|
Iolo Roberts
ag
Anet Thomas
|
Sadwrn
Gorffennaf
7 |
9.15 |
9.30 |
Maes parcio'r de
Aberaeron (Clwb Hwylio) |
LLWYBR ARFORDIR CYMRU
-2 DE Cei Newydd, Cwmtudu, Llangrannog
a gorffen naill yn Mhenbryn neu Tresaith
Bydd angengwybod faint sydd yn ymuno
er mwyn trefnu cludiant – cysylltwch
|
Eileen Cyrry
|
Sadwrn
Gorffennaf
7 |
|
10.00 |
Caffi Eric
CG:
SH 575 405 |
DRINGO
TREMADOG
Dringwyr profiadol yn unig |
Myfyr Tomos
|
Mercher
Gorffennaf
11 |
9.45 |
10.00 |
Cyfarfod mewn maes parcio
(di-dâl) yn Llanfairfechan
CG: SH 680 750
a dal bws 10:08 yn
Llanfairfechan a
mynd i Gonwy
(cofiwch eich tocyn teithio!) |
MYNYDD CONWY
Dilyn Llwybr y Gogledd
dros fynydd Conwy, Bwlch Sychnant,
uwchlaw Penmaenmawr yn ôl
i Lanfairfechan (tua 9 milltir)
MANYLION YMA |
Gareth Tilsley
|
Sadwrn
Gorffennaf
14 |
9.00 |
9.15 |
Tu allan i’r
Tanners Arms,
Defynnog, Pont Senni, CG: SN 925 279 |
TAITH O GWMPAS CWM SENNI
I’r de, Fan Gyhirich, Fan Nedd, Craig Cwm-du
a nôl lawr i’r dafarn am lymaid ar y diwedd.
Taith gylch o rhyw 14 milltir |
Bruce Lane
|
Sul
Gorffennaf
15 |
10.00 |
|
Canolfan
Coed y Brenin
CG: SH 723 265 |
BEICIO MYNYDD |
Kate Jones
|
Sadwrn
Gorffennaf
28 |
9.15 |
|
maes parcio
Pont Bethania, Nantgwynant
Cg: SH 628 506
ddal bws y Sherpa am 9.25 i Gapel Curig gan newid ym Mhen y Pas (bysus o Borthmadog a Llanberis) |
O BLAS Y BRENIN I BONT BETHANIA
O Blas y Brenin i gopa Moel Siabod
a dilyn y grib i Foel Meirch;
dewis wedyn
–naill ai i lawr i Bont Bethania (11 milltir)
neu
ymlaen at Cnicht ac
wedyn i lawr i Bont Bethania (15 milltir).
Ymlacio wedyn yng Nghaffi Bethania |
Clive James
|
Mawrth
Awst
7 |
9.45 |
|
Ger prif fynedfa'r Maes. Neu
gallwch hefyd ymuno yn Llanilltud Fawr am 10.45
yn y maes parcio
yn y canol
Rhowch wybod ym mhle y bwriadwch ymuno a'r daith |
TAITH O FAES YR EISTEDDFOD
Taith gylch gymharol rwydd
O'r maes i Lanilltyd Fawr ac
yna ymuno a Llwybr yr Arfordir
mor bell ag Yr As Fawr (Monknash).
Yna yn ôl trwy'r wlad i'r maes.
Tua 5 i 6 awr
llwybrau da dan draed
ond yn wlyb mewn mannau. |
Rhun Jones
|
Sadwrn
Awst
11 |
|
|
|
Taith yn y Gogledd
Crib Nantlle
Manylion llawnach i ddilyn |
|
Mercher
Awst
22 |
|
|
|
Taith criw Dydd Mercher
Manylion llawnach i ddilyn |
|
Sadwrn
Awst
25 |
9.30 |
9.45 |
Yng nghanol
pentref Pennal
CG: SH 699 004 |
Y TARENNAU O BENNAL
Mynydd Cefn-caer, Foel Geifr,
Tarren-y-Gesail, Tarrenhendre
a Tarren Rhosfarch
Taith o tua 11 milltir
gyda chodi o 960 medr
|
Eryl Owain
|
Sadwrn
Medi
8 |
9.30 |
9.45 |
Maes parcio yng nghanol Bethesda
CG: SH 622 668
(arwydd Swyddfa’r Heddlu) |
Crib Lem, Cwm Llafar
Cerdded i fyny trwy Gerlan i mewn i Gwm Llafar, sgrambl (gradd 1) i fyny Crib Le mi gopa Carnedd Dafydd; Ysgolion Duon, Bwlch Cyfrwy’r Drum i gopa Carnedd Llewelyn, Yr Elen ac yn ol i lawr i Gwm Llafar |
Gareth Wyn Griffiths a Gareth Williams |
Sadwrn
Medi
8 |
9.15 |
|
Caffi Ogwen |
Dringo – Ogwen
Dringwyr mwy profiadol
|
Cliff Matthews
|
Mercher
Medi
12 |
10.00 |
10.10 |
Maes parcio Porth Amlwch
CG: SH 449 931 |
CEMAES I BORTH AMLWCH
Dal bws 10.25 o'r Coop, Amlwch, i Gemaes
Caffi yng Nghemaes,
cerdded yn ôl ar hyd llwybr yr arfordir 7.5m,
caffi ym Mhorth Amlwch amser te. |
Gwen Richards
|
Sadwrn
Medi
15 |
10.00 |
|
ger Beics Betws |
Beicio – Coedwig Gwydir
Addas i bawb |
Arwel Roberts,
|
Penwythnos
Medi
21-23 |
|
|
|
Penwythnos Bannau Brycheiniog
Bydd penwythnos o weithgareddau yng nghysgod Bannau Brycheiniog yn hostel Dan y Wenallt ger Talybont.
Llogwyd yr hostel o’r nos Wener tan fore Sul ac mae’r pris yn £85 y person i cynnwys Gwely nos Wener a nos Sadwrn, Brecwast bore Sadwrn a bore Sul, Pecyn bwyd dydd Sadwrn a dydd Sul a Cinio 3 chwrs nos Sadwrn.
Does dim cyflesterau coginio hunan arlwyol ar gael a ni fydd y gegin ar agor ar y nos Wener. Mae yna degell ac oergell ar gael.
Mae l le i 30.
Manylion o'r gweithgareddau yn agosach i’r dyddiad.
Byddant yn cynnwys taith weddol anodd (tua 18 m) ar y Sadwrn a thaith gerdded haws (tua 9 m) ar y Sul yn dechrau a gorffen yng Nghanolfan Mynydda Bannau Brycheiniog.
Taith trefnir taith beicio lôn tua 100 km drwy Y Fenni draw i’r Gelli ac yn ôl drwy Aberhonddu a thaith beicio mynydd tua 40 km.
Cynhelir Pwyllgor y Clwb ar y nos Sadwrn.
|
Guto Evans
Enwau i Guto cyn gynted a sy’n bosib plis.
Sieciau yn daladwy i
‘Clwb Mynydda Cymru’
|
Sadwrn
Medi
29 |
9.15 |
|
Maes parcio
Nant Peris |
Dringo – Bwlch Llanberis
Dringwyr profiadol yn unig |
Dilwyn Jones
|
Penwythnos
Hydref
5-7 |
|
|
|
PENWYTHNOS SIR BENFRO
Aros yn Hostel Trefin
Teithiau a dringo
– manylion llawnach i ddilyn
|
Raymond Griffiths
|
Sadwrn
Hydref
13 |
9.30 |
|
Milk Bar Betws y Coed |
Dringo – Clogwyn Cyrau
Addas i bawb |
Kate Jones,
|
Mercher
Hydref
17 |
9.45 |
10.00 |
Maes parcio newydd
heibio'r ysgol
yn Rhostryfan
CG:
SH 498 579 |
Llwybrau'r llechi
Moel Tryfan a Moel Smytho |
Anet Thomas
|
Sadwrn
Hydref
20 |
9.15 |
|
**Wedi newid
Y gilfan (layby) ar y B5106, nepell
o'r fynwent sydd i'r gogledd o Dalybont - gyferbyn, ond ychydig tua'r de ohono
GC: SH
772 701 (tua) |
O GOPA'R WRACH i GOPA LLYWELYN
Copa Pen Llithrig y Wrach,
Pen yr Helgi Ddu, Carnedd Llywelyn
a Foel Grach
Bydd didoli pobl rhwng ceir a symud rhai i barcio yng Nghwm Eigiau
|
Sian Shakespear
|
Nos
Sadwrn
Hydref
20
|
|
|
|
NOSON GYMDEITHASOL
Yn y Tanerdy, Llanrwst
i gychwyn am 6.30
Y dewis bwyd i ddilyn |
|
Hydref
20-21 |
|
|
|
CWRS CYMORTH CYNTAF (REC)
Cynhelir y cwrs cyfrwng Cymraeg
yn y Ganolfan yn Rhyd Ddu.
Lle i 6 i 10 yn unig
Gyrrwch siec am £30, wedi ei dalu
i Clwb Mynydda Cymru,
i John Parry
cyn y 15fed o Fedi
Bydd y siec yn cael ei rhoi’n ôl i chi wedi cwblhau’r Cwrs. |
John Parry
|
Sadwrn
Tachwedd
3 |
9.15 |
9.30 |
Maes parcio
ger Caffi Ogwen
CG: SH 648 604 |
Y Glyderau
Cwm Bochlwyd, Bwlch Tryfan, heibio Bristly, Glyder Fach, Glyder Fawr, Llyn y Cwn, Y Garn ac i lawr i Ogwen |
Richard Roberts
|
Sadwrn
Tachwedd
3 |
10.00 |
|
Trofan y bws
Dinorwig |
Dringo – Dinorwig
Addas i bawb |
Arwel Roberts
|
Sadwrn
Tachwedd
10 |
10.00 |
|
Pen Sychnant |
Beicio – Mynydd Conwy
Taith galed ond diddorol |
Alwen Williams
|
Sadwrn
Tachwedd
10 |
9.00 |
9.15 |
Maes Parcio
Castell Skenfrith
CG:
SO 457 203
Teithio mewn ambell i gar tuag at y Castell Gwyn |
Taith Castell Gwyn
(White Castle SM S0 379 767)
trwy Grosmont i Gastell Skenfrith
(rhan o daith y tri castell).
Pellter tua 12 milltir.
Cyfle i weld Cymru v Ariannin
wedyn yn y dafarn leol |
Richard Mitchley
|
Mercher
Tachwedd
14 |
9.45 |
10.00 |
Maes parcio
dros y ffordd i
orsaf Betws-y-coed |
Dyffryn Conwy
Coedwig Aberllyn, Llyn Parc, Carreg-y-Gwalch, Castell Gwydir, yn ôl i Fetws-y-coed ar hyd glan afon Conwy |
Gwilym Jackson
|
Sadwrn
Tachwedd
17 |
9.15 |
9.30 |
Maes parcio (di-dâl)
ar y ffordd i mewn i’r pentref o gyfeiriad Caernarfon,
CG: SH 588 482 |
Moel Hebog |
Iolo Roberts
|
Sadwrn
Tachwedd
17 |
|
|
|
Cyfarfod a Chinio Blynyddol
Gwesty’r Royal Goat, Beddgelert
am 6.00 yr hwyr
Y siaradwr gwadd wedi’r cinio am 8.45 fydd Aneurin Phillips, Prif Weithredwr Parc Cenedlaethol Eryri
(a chyn Ysgrifennydd y Clwb)
|
Iolo Roberts
Angen roi gwybod iddo a danfon siec erbyn Hydref 12fed |
Teithiau/Trefniadau Eraill a Manylion Pellach
Arweinwyr: Cofiwch lenwi'r ffurflen ar ddechrau'r daith / gweithgaredd.
Pob Aelod: Cofiwch gario eich cerdyn manylion ar bob taith.
Os gwelwch yn dda, a wnewch chi gysylltu â’r arweinydd cyn y daith.
Hefyd, a wnaiff yr arweinyddion gysylltu â maldwynperis@tiscali.co.uk
wedi’r daith i gadarnhau nifer y teithwyr a chofiwch am hanes a lluniau i’w cynnwys ar y wefan.
Os oes darpar-aelodau ar un o’r teithiau, a wnaiff yr arweinydd yrru’r enwau, cyfeiriadau a chyfeiriadau e-bost at Iolo Roberts…
ymholiadau@clwbmynyddacymru.com
Teithiau: Mae'r Clwb yn awyddus i dderbyn syniadau am deithiau neu weithgareddau.
Cysylltwch â mi drwy e-bostio maldwynperis@tiscali.co.uk Ni fydd disgwyl ichi arwain y teithiau
Dringo dan do
Pob nos Wener cynta'r mis bydd rhai o aelodau'r Clwb yn ymgynnull yng nghanolfan dringo dan do y Beacon.
Mae'r nosweithiau yn addas i ddechreuwyr neu i'r rhai sydd yn dymuno gwella eu sgiliau dringo. Os oes ganddoch ddiddordeb, yna
cysylltwch â Gwyn Roberts ar 01286 870534, Arwel Roberts ar 01492 514424 neu Anita Daimond ar 01492 600414.
Dringo gyda’r nos
Bydd dringo ar greigiau tu allan gyda'r nos yn Ogwen yn cychwyn o ddydd Iau cyntaf mis Mai ymlaen. Cyfarfod yng
Nghaffi Ogwen. Cysylltwch ag Arwel Roberts ar 01492 514 424, Arwelgwydyr@aol.com ac i gael eich cynnwys ar restr e-bostio dringo.
Partneriaeth Awyr Agored
Mae’r Clwb wedi ymaelodi â’r Bartneriaeth a gall ein haelodau fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg. Tocynnau Aelodaeth i ddilyn. Bydd aelod/au o’r Pwyllgor yn cael eu penodi fel Cydlynydd Hyfforddiant maes o law.
Mae dolen i gylchlythyr diweddaraf y Bartneriaeth ar wefan y Clwb,
neu ewch i www.partneriaethawyragored.co.uk/newsletter/indexcym.php
.