Ebrill i Gorffennaf 2015
Dyddiad 2015 |
Amser | Lle | Taith | Arwain/Cyswllt | |
Cyf. | Cych. | ||||
Sadwrn Ebrill 11 |
9.45 | 10.00 | Ar sgwâr Pentir CG: SH 574 670 |
Moelyci |
Sian Shakespear |
Mercher Ebrill 15 |
9.45 | 10.00 | Gorsaf Trên Eryri, Caernarfon. |
Glannau Gwyrfai Trên i arosfan Plas y Nant, Betws Garmon wedyn i'r gorllewin trwy'r goedwig i'r tir agored ac ardal Maes Tryfan. Ymlaen hyd trac hen lein Bryngwn i lawr at Tryfan Junction. Bydd y daith naill ai yn mynd ar hyd y Lôn Groes i'r Bontnewydd - a bws - neu yn syth i Gaernarfon. Cyfleoedd di-ri i gymdeithasu yn y 'Dre ! |
Rhiannon a Clive James |
Sadwrn Ebrill 18 |
9.15 | 9.30 | Maes parcio Bwtres y Garreg Filltir |
Pedol Bochlwyd Byddai taith gerdded yn osgoi’r sgrialu yn bosib hefyd. |
Gareth Wyn Griffiths |
Sadwrn Ebrill 18 |
9.15 | 9.30 | Maes parcio bach 3 milltir i’r De o Aberhonddu (troi oddiar yr heol fawr yn Libanus). CG: S0 025 248 |
Taith Cwm Gwdi
|
Dewi Hughes Cysylltwch â Dewi os am ymuno |
Sadwrn Ebrill 25 |
9.45 | 10.00 | Ger yr Hen Ysgol ym Mhenmachno CG: SH 790 506 |
Beicio Ucheldir Nant Conwy |
Gareth Williams |
Sadwrn Mai 2 |
9.30 | 9.43 | Parcio yn Llangollen i ddal bws i Gynwyd am 9.43 sy’n cyrraedd Cynwyd 10.08 (gwasanaeth T3 i’r Bermo) |
Llwybr Gogledd y Berwyn Cychwyn cerdded ym mhentref Cynwyd a cherdded nôl i Langollen. Tua 20km ond heb ddringo serth. Manylion o: http://www.denbighshirecountryside.org.uk/files/509902880-berwyn.pdf |
Gwen Evans |
Sadwrn Mai 9 |
9.15 | 9.30 | Yn Llangynog CG: SJ 053 261 |
Moel Sych a’r cyffiniau Taith o tua 15 milltir ond yn gerdded hawdd. Cychwyn yn Llangynog (160 medr) tros y bwlch (500 m) i ben uchaf Pistyll Rhaeadr (430 m) ac ymlaen i Foel Sych (827 m). Am y gorllewin at y ffordd fawr o’r Bala (471 m) ac yna ymlaen i Bennant Melangell ac yn ôl i Langynog ac ymlacio yn y dafarn. |
Iolyn Jones |
Sadwrn Mai 9 |
9.15 | 9.30 | Abaty Talyllychau |
Taith Talyllychau |
Eryl Pritchard |
Mercher Mai 13 |
10.00 | 10.15 | Maes parcio Machroes |
Arfordir Llŷn |
Anet Thomas |
Sadwrn Mai 16 |
9.00 | 9.15 | Cilfynydd, Bethel |
Beicio ffordd Dilyn lonydd tawel a Lôn Eifion am Garndolbenmaen, Golan, a Chwmystradllyn a dros y mynydd ar lôn darmac / concrid mewn mannau i lawr yn serth am Brenteg. Ymlaen wedyn am Aberglaslyn a Beddgelert, Rhyd ddu, Waunfawr, Ceunant, Llanrug, Penisarwaun, Llanddeiniolen yn ôl i Bethel – gyda chyfleoedd i ymestyn neu gwtogi! Addas i feic lôn – tua 50 milltir a 1000 medr o esgyn. |
Morfudd Thomas |
Sadwrn Mai 23 |
9.15 | 9.30 | Ym maes parcio yn Y Pandy, Llanuwchllyn CG: SH 879 298 |
Aran Fawddwy ac Aran Benllyn Bydd y daith i gopa’r Aran Benllyn a’r Fawddwy, ac yn cynnwys un o gymoedd harddaf Penllyn - Cwm Croes. Byddwn yn dringo oddeutu 870 medr, gyda’r daith tros dirwedd gweddol rwydd, ond tua 12 milltir o hyd. |
Gwyn Williams |
Sadwrn Mehefin 6 |
9.30 | 9.45 | Yn y Bermo CG: SH 612 156 i ddal bws am 9.45 i’r man cychwyn – sef maes parcio/safle picnic y Drofa Goch ger y Bontddu CG: SH 678 190 |
O Gwm Mynach i’r Bermo |
Eirlys Jones |
Sadwrn Mehefin 13 |
9.15 | 9.30 | Maes parcio coedwig tu ôl i dafarn y Royal Oak ym mhentref Y Bryn, rhwng Maesteg a Phort Talbot CG: SO 817 917 |
Taith Coed Morgannwg |
Rhun Jones |
Sadwrn Mehefin 13 |
9.15 | 9.30 | Maes parcio Rhaeadrau Aber CG: SH 663 720 |
Gogledd y Carneddau Cerdded gydag ochor Afon Gam fyny at Drosgl, Bera Bach, Yr Aryg, Carnedd Gwenllian ac i Foel Fras. Ymlaen wedyn tua’r Drum a cherdded i lawr y trac yng Nghwm Anafon (gyda'r opsiwn o fynd i fyny Pen Bryn Du, Yr Orsedd, Foel Ganol a Foel Dduarth) i ddychwelyd at y lôn i'r maes parcio. Tua 11 milltir gyda tua 970 medr o ddringo. |
Alun Hughes |
Mercher Mehefin 17 |
9.45 | 10.09 | Swyddfa bost Dolgarrog CG: SH 769 674 Dal y bws 10.09 i Drefriw. Bydd rhaid parcio ar y ffordd |
Taith ucheldir Dyffryn Conwy Cerdded o Drefriw drwy Goedwig y Creigiau heibio Rhibo a hen gapel Thyddyn Wilym. Yna ymlaen drwy hen dref ganol oesol Ardda i Lyn Coedty cyn dychwelyd i Ddolgarrog ger ceunant hyfryd Afon y Graig Lwyd. |
Arwel Roberts |
Sadwrn Mehefin 20 |
9.15 | O flaen canolfan newydd Ogwen | Diwrnod Blasu
|
Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â: Iolo Roberts Eryl Owain neu Richard Roberts |
|
Sadwrn Mehefin 27 |
8.30 | 8.45 | Yn Nolgellau i ddal bws o’r sgwâr i’r Bermo am 8.45 | Cader/Cadair Idris – o’r môr i’r mynydd! |
Eryl Owain |
Mercher Gorffennaf 8 |
9.45 | 10.00 | Mynedfa’r chwarel yng Nghwm Penmachno CG: SH 752 472 |
Chwareli Cwm Penmachno |
|
Sadwrn Gorffennaf 11 |
9.15 | 9.30 | Maes parcio'r goedwig ger Greigddu Isa CG: SH 684 302 |
Y Rhinogydd o’r dwyrain |
Myfyr Tomos |
Sadwrn Gorffennaf 25 |
9.15 | 9.30 | Maes parcio Pen-y-pas (efallai cael bysus Sherpa i fyny neu gerdded o Benygwryd) | Pedol yr Wyddfa – gyda’r cloc! |
Iolo Roberts |
Sadwrn Gorffennaf 25 |
9.15 | 9.30 | Yr Hen Bont ym Mhontypridd |
Taith Mynydd Eglwysilan |
Aled Elwyn |
Mawrth Awst 4 |
14.15 | 14.30 | Pabell Y Cymdeithasau Maes yr Eisteddfod Meifod |
Darlith yr Eisteddfod |
Eryl Owain |
Penwythnos Hydref 9-11 |
Penywthnos Llanymddyfri, 9 - 11 Hydref MANYLION A FFURFLEN YMA |
Guto Evans |
|||
Sadwrn Tachwedd 7 |
Cyfarfod Blynyddol Gwesty'r Royal Oak, Betws y Coed |
Iolo Roberts |
CROESO I SYLWADAU AC I SYNIADAU AM WEITHGAREDDAU
- A CHROESO ARBENNIG I GYNIGION I ARWAIN!
Ysgrifennydd gweithgareddau: Eryl Owain 01690 760335 erylowain@gmail.com
Cydlynydd teithiau’r de: Dewi Hughes 02920 891753 / 07909 930427 dewihughes1@btinternet.com
Cydlynydd dringo: Arwel Roberts 07803191058 arwelgwydyr@aol.com
Cydlynydd teithiau Mercher: Haf Meredydd 07760 283024 hafm@hmeredydd.freeserve.co.uk
Teithiau/Trefniadau Eraill a Manylion Pellach
Arweinwyr: Cofiwch lenwi'r ffurflen ar ddechrau'r daith / gweithgaredd.
Pob Aelod: Cofiwch gario eich cerdyn manylion ar bob taith.
Os gwelwch yn dda, a wnewch chi gysylltu â’r arweinydd cyn y daith.
Hefyd, a wnaiff yr arweinyddion gysylltu â ymholiadau@clwbmynyddacymru.co
wedi’r daith i gadarnhau nifer y teithwyr a chofiwch am hanes a lluniau i’w cynnwys ar y wefan.
Os oes darpar-aelodau ar un o’r teithiau, a wnaiff yr arweinydd yrru’r enwau, cyfeiriadau a chyfeiriadau e-bost at Iolo Roberts…
ymholiadau@clwbmynyddacymru.com
Teithiau: Mae'r Clwb yn awyddus i dderbyn syniadau am deithiau neu weithgareddau.
Cysylltwch â ni drwy e-bostio ymholiadau@clwbmynyddacymru.com
Ni fydd disgwyl ichi arwain y teithiau
Dringo dan do
Pob nos Wener cynta'r mis bydd rhai o aelodau'r Clwb yn ymgynnull yng nghanolfan dringo dan do y Beacon.
Mae'r nosweithiau yn addas i ddechreuwyr neu i'r rhai sydd yn dymuno gwella eu sgiliau dringo. Os oes ganddoch ddiddordeb, yna
cysylltwch â Gwyn Roberts ar 01286 870 534, Arwel Roberts ar 01492 514 424 neu Anita Daimond ar 01492 600 414.
Dringo gyda’r nos
Bydd dringo ar greigiau tu allan gyda'r nos yn Ogwen yn cychwyn o ddydd Iau cyntaf mis Mai ymlaen. Cyfarfod yng
Nghaffi Ogwen. Cysylltwch ag Arwel Roberts ar 01492 514 424, Arwelgwydyr@aol.com ac i gael eich cynnwys ar restr e-bostio dringo.
Partneriaeth Awyr Agored
Mae’r Clwb wedi ymaelodi â’r Bartneriaeth a gall ein haelodau fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg. Tocynnau Aelodaeth i ddilyn. Bydd aelod/au o’r Pwyllgor yn cael eu penodi fel Cydlynydd Hyfforddiant maes o law.
Mae dolen i gylchlythyr diweddaraf y Bartneriaeth ar wefan y Clwb,
neu ewch i www.partneriaethawyragored.co.uk/newsletter/indexcym.php