HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Rhaglen Mai i Medi 2016

Dyddiad
2015
Amser Lle Taith Arwain/Cyswllt
Cyf. Cych.

Sul
Mai
1

10.00   Craig Tafarn y Castell yn Llysfaen
CG: SH 890 772

Dringo Sport
Craig Tafarn y Castell yn Llysfaen – lle da i ddechrau dringo!
Cofiwch gysylltu ymlaen llaw â’r trefnydd.

Arwel Roberts
Sadwrn
Mai
14
9.15 9.30 Dolrhedyn, Tanygrisiau CG: SH 683 454

Y Moelwynion
Llwybrau gwahanol i gopaon y Moelwynion - rownd y cefna!
Tua 12 km a dringo tua 800 m.

Myfyr Tomos
Mercher
Mai
18
    Parcio wrth Llechollwyn heibio pentref bach yr Ynys - mwy o fanylion i ddod Llwybr Arfordir Ardudwy, Llanfihangel-y-traethau ac Ynys Gifftan
Bydd y llanw'n ddelfrydol i groesi'r traeth ar 18 Mai - dewch â'ch Crocs neu rhwbath i sychu'ch traed os am fynd yn droednoeth. Cawn gyfle yn y bore i gerdded rhywfaint o Lwybr yr Arfordir ac ymweld ag Eglwys hynafol Llanfihangel-y-traethau cyn croesi i'r ynys a cherdded o'i hamgylch cyn dringo i'w chopa i weld y bwtsias y gog - cyn i'r rhedyn dagu'r llwybr.
Haf Meredydd

Sadwrn
Mai
28
Gohiriwyd ar 21

9.00   Ger tafarn y New Inn yn Ystradfellte

Y Fforest Fawr
Cylchdaith yn cychwyn ger tafarn y New Inn yn Ystradfellte, yn cynnwys Fan Gyhirych, Fan Nedd, Fan Dringarth a Fan Llia ac yn nol i’r man cychwyn. Taith o ryw 15 milltir ond yn bosib cwtogi os bydd rhaid i 13 milltir.
Angen trefnu ceir, felly mae’n bwysig cysylltu ymlaen llaw.

Bruce Lane
Sadwrn
Mai
21
     

Taith Mynyddoedd Pawb ar y Berwyn
Taith, wedi ei threfnu gan ymgyrch Mynyddoedd Pawb, yng nghwmni Myrddin ap Dafydd, yn olrhain rhai o’r llefydd a drafodir yn ei gyfrol ddiweddar Yn Ôl i’r Dref Wen.
Bydd Tecwyn Ifan yn canu fin nos yn Nhafarn y Dderwen, Glyn Ceiriog.
Mwy o wybodaeth yn nes at y dyddiad ar trydar@MynyddoeddPawb neu gan y trefnydd.

Llinos Jones-Williams
Sadwrn
Mai
28
9.15  

Cyfarfod maes parcio Beddgelert
CG: SH 588 482

Trefnu ceir yno

Y Garn i Foel Hebog
Cychwyn cerdded o Rhyd-ddu i fyny’r Garn a thros Fynydd Drws-y-coed a Thrum y Ddysgl i lawr i Fwlch y Ddwy Elor yna i gopaon Moel Lem, Moel yr Ogof a Moel Hebog ac i lawr i Feddgelert.
Tua 14 km a dros 1300 m o ddringo.

Arwel Roberts
Sadwrn
Mehefin
4
9.45 10.00 Parcio yn y chwarel ar ochr Waunfawr i Fwlch y Groes
CG: SH 551 599

Moel Eilio o Fwlch y Groes
Cerdded dros Moel Eilio, Foel Gron a Foel Goch, yna i lawr i Fwlch Maesgwm ac yn ôl o dan Cwm Dwythwch.
Tua 12 km a 640 m o ddringo.

Anet Thomas

Gwyn Williams

Sul
Mehefin
5
10.00   Dolrhedyn ger Tanygrisiau
CG: SH 207 820

Dringo traddodiadol ar y Moelwyn
Cofiwch gysylltu ymlaen llaw a’r trefnydd.

Myfyr Tomos
Sadwrn
Mehefin
11
9.15 9.30

Maes parcio Nant Peris
CG: SH 607 582

Cymoedd a Chribau Nant Peris
I fyny Cwm Glas Mawr, heibio Llyn Glas ac i Gwm Uchaf yna ymlaen i Fwlch Coch ac i Garnedd Ugain, yn ôl lawr Crib Gyrn Las i Blaen y Nant.
Cyrraedd ail gopa uchaf Cymru heb y lluoedd ar Yr Wyddfa!
Dringo tua 900m, tua 8 km a chydig o sgramblo hawdd iawn.

Gareth Everett Roberts

Mercher
Mehefin
15
9.45 10.00

Canolfan Tryweryn
CG: SH 888 401

Cafwyd caniatâd i barcio yn y Ganolfan (ar gyfer ceufadu a chwaraeon dŵr eraill) ond gofynnir inni ddefnyddio'r maes parcio pellaf, sydd tua 150 metr y tu hwnt i adeilad y ganolfan, yn hytrach na'r meysydd parcio gyferbyn â'r adeilad.

Cwm Hesgyn, ger Frongoch
I fyny Cwm Hesgyn at y llyn gan ddychwelyd ar hyd llechweddau Graig Ddu i Fwlch Graianog ac yn ôl ar hyd glan yr afon.
Tua 11 km a 190 m o ddringo.

Cyfle am baned yng Ngaffi Manon wedi'r daith!

Angharad ac Eryl Owain
Sadwrn
Mehefin
25
9.15 9.30 Maes parcio hanner ffordd ar hyd Llyn Ogwen CG: SH 656 602

Diwrnod Blasu i gynnwys cyflwyno profiad o sgramblo a dringo yn ogystal â thaith gerdded.

Y Glyderau a Nant Ffrancon
Llyn Bochlwyd, Bwlch Tryfan, Llyn Caseg Fraith, Glyder Fach, Glyder Fawr, i lawr i Llyn y Cŵn, Y Garn, Foel Goch ac yna i lawr i Gwm Bual ac ar hyd yr hen lwybr pysgotwyr i Gwm Idwal ac yn ôl i’r man parcio.
Taith tua 10 milltir a 1080 m o ddringo ond reit hamddenol ar ôl Y Garn.

Chris Humphreys

Edward Griffiths

Sadwrn
Mehefin
25
9.15 9.30

Ger y llyn wrth ymyl Abaty Margam
CG: SS 802 863
Cyffordd 38 ar yr M4 ac yna arwydd Abaty Margam ar yr A48, nid Parc Margam.

Taith Parc a Mynydd Margam
Dilyn llwybrau Coed Morgannwg, Sant Illtyd a  Ffordd Cefnffordd Ogwr. Golygfeydd o’r Hafren a gogledd Dyfnaint. Tua 10 milltir. Cyfle i weld y ceirw a Chastell Margam.


Rhun Jones

Sadwrn
Gorffennaf
2

9.15 9.30 Maes parcio Tal-y-bont CG: SH 591 217

Tal-y-bont i’r Bermo
  Cyfle i weld yr Ardudwy sydd rhwng môr a mynydd! Dilyn llwybrau amrywiol heibio bryngaer Pen y Ddinas, Carneddau Hengwm, cylchoedd cerrig ac olion gwaith mango.
Tua 7 milltir gan godi’n raddol i rhyw 400 m.
Paned yn y Bermo a bws yn ôl i Dal-y-bont. 

Eirlys Jones
Sul
Gorffennaf
3
10.00   Caffi RSPB
CG: SH 207 820

Dringo traddodiadol - Mynydd y Twr Caergybi
Cofiwch gysylltu a’r arweinydd ymlaen llaw

Arwel Roberts
Sadwrn
Gorffennaf 9
9.15   Maes parcio (tâl) Ty Nant
CG: SH 698 153

***** GOHIRIWYD

Cader/Cadair Idris
Diwrnod o gydweithio gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn clirio carneddi ar Gader/Gadair Idris – a chyfle i ymweld â’r copa hefyd!
Er mwyn gallu rhoi syniad i’r Parc o faint o aelodau fydd yn bresennol  i  helpu, byddwn yn gwerthfawrogi cael gwybod gennych os yr ydych am fod yn bresennol  erbyn dydd Mercher, 6 Gorffennaf

Iolo Roberts
Mercher
Gorffenaf
13
10.45 bws
am
11.00

Arosfan Bws Cyfnewidfa Llanberis
CG: SH 586 598

Rhan gyntaf “Taith yr Ystafelloedd Te” o amgylch troed Yr Wyddfa
Taith lefel isel o o amgylch llwybrau isa’r Wyddfa, gyda rhai estyniadau diddorol
Ar ôl samplo danteithion Ystafell De Gorffwysfa - a darllen am hanes mynydda’r fro, taith i lawr Dyffryn Peris trwy’r tir mynediad rhwng yr A4086 a llethrau’r Wyddfa.
Wedyn heibio Nant Peris i gyrion Llanberis ac Ystafell De unigryw Pen y Ceunant, cyn dychwelyd i’r pentref.
Golygfeydd godidog drwy’r holl daith.
Tua 6 milltir/9 km, o 1,200 tr/365 m i lawr at 615 tr/190 m.   

Rhiannon a Clive James
Sul
Gorffennaf
17
10.00   Maes parcio Rhydymain, ger y Neuadd
CG: SH 805 220

Beicio Mynydd - Cylchdaith Rhobell Fawr
Llethrau dwyreiniol Rhobell i Gwm yr Allt Lwyd, gan ddychwelyd trwy Fwlch Goriwared a Llanfachreth. Tua  30 km

Arwel Roberts
 
Sadwrn
Gorffennaf
23
9.15   Maes parcio coedwigaeth a gorsaf Abergynolwyn CG: SH 671 064
rhannu ceir a symud i Ddolgoch.
Tâl parcio yn Nolgoch.

Y Tarenau
Cerdded i gopa Tarren Hendre ac ymlaen i Darren y Gesail a lawr at Bont Llaeron a chwarel Bryn-Eglwys.
Yna dilyn gwely’r hen dramffordd at inclein yr Alltwyllt yn ôl i orsaf Abergynolwyn.
Tua 16 km/10 m a 1014 m/3295’ o ddringo.

Alan Hughes
Sadwrn
Gorffennaf
23
9.15   Yn ochr ddeheuol yr arosfan yng nghefn y Gwyn Arms, Glyntawe ar yr A4067
CG: SN 846 166

Y Mynydd Du
Taith ar y Mynydd Du, Fan Hir a Fan Frycheiniog o Glyntawe.
Taith gylch ddifyr tua 13.5 milltir, a golygfeydd godidog ar y Mynydd Du.

 

Pens
Mercher
Awst
3
4.30   Pabell y Cymdeithasau 2

‘COES GLEC, MASCARA A’R MYNYDDOEDD DUON’

Darlith Llew Gwent
Darlith Flynyddol y Clwb yn yr Eisteddfod Genedlaethol.  Traddodir gan Gerallt Pennant.

 
Iau
Awst
4
9.15 9.30 Maes parcio di-dâl a man picnic Blaen-y-Cwm
yn y Mynyddoedd Duon  yn mhen y dyffryn.
CG: SO 252 285

Pedol Grwyne Fawr
Cychwyn ar lan afon Grwyne Fawr, dringo i ben Pen y Gadair Fawr, dilyn y grib dros Waun Fach ac i ben Rhos Dirion. Yn ôl i’r de dros Trwyn Talycefn ac ar hyd crib Taren yr Esgob cyn disgyn i’r maes parcio.
17 km/8.5 milltir a 510 m o ddringo.

Dwynwen Jones

Sadwrn
Awst
13

9.45 10.00 Sgwâr Corwen
CG: SJ 078 434
Dal y bws i Langollen am 10.00.

Llwybr y Berwyn
Taith ar hyd mynyddoedd y Berwyn, yn bennaf ar hyd Llwybr y Berwyn. O Foel Fferna ymlaen heibio 'Liberty Hall' a'r ardal saethu crugieir ac i lawr trwy goedwig Corwen i'r dref.
Cyfle cymdeithasu wedyn.
Tua 20 km gan godi 880 m.

Clive a Rhiannon James
Mercher
Awst
17
10.15 10.30 Maes parcio ym mhentref Ganllwyd
CG: SH 727 243
Y Garn, Llanelltyd
Cerdded heibio Dolmelynllyn a gwaith aur Cefn Coch ac i gopa'r Garn.
Taith o ryw bum awr.
Tir gweddol serth ond sych o dan draed ar y cyfan. 

Raymond Griffiths

Sadwrn
Awst
20
    Neuadd Ogwen
Bethesda
Gŵyl Fynydda Bethesda
10.00 Bore Coffi Mynydda, Stondinau ayyb.
1.30 Rhaglen Gymraeg - Yn cynnwys Darlith
7.00 Nick Bullock

 

Sadwrn
Awst
27
9.15 9.30 Ar y tro yn ffordd y B4418  i’r gorllewin o Ryd-ddu
CG: SH 566 526

Crib Nantlle
Cerdded y grib o Ryd-Ddu i Garnedd Goch a dychwelyd trwy Gwm Dwyfor a Bwlch y Ddwy Elor.
Hyd tua 16 km/10 milltir a tua 1000 m o esgyn.

Elen Huws
Sadwrn
Medi
10
9.15 9.30 Parcio (cyfraniad i’r Ambiwlans Awyr) ym Mlaencywarch, ger Dinas Mawddwy.

Aran Fawddwy
I fyny Cwm y Graig i Fwlch Cosyn ac i gopa’r Aran gan ddychwelyd dros Drws Bach a Drysgol ac i lawr llwybr mawn Hengwm.
Tua 11 km neu 7 milltir a 760 metr o ddringo.

Tegwyn Jones
Mercher
Medi
14
9.45 10.00 Plas Glyn-y-Weddw, Llanbedrog.
Digon o le parcio am ddim ar yr allt sy'n arwain o dafarn Glyn-y-Weddw at Neuadd yr Eglwys, ac mae dau faes parcio a thalu, un yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a maes parcio Plas Glyn-y-Weddw.
Taith yn y grug
Taith gron o ryw wyth milltir dros Fynydd Tir Cwmwd i draeth Ty'n Towyn, heibio Castellmarch ac i ardal Mynytho cyn dychwelyd i Blas Glyn-y-Weddw ar hyd amryfal lwybrau plwy.
Y gobaith ydy y bydd grug ardal Mynytho ar ei orau ac y cawn ni andros o daith liwgar.

Gwenan Roberts

Sul
Medi
18

     

Mynydd Mawr
Taith fer ar y Mynydd Mawr yn cychwyn amser cinio dydd Sul - tua 4 awr.
Manylion llawnach i ddod.

Dylan Huw Jones
Sadwrn
Medi
24
9.15 9.30 Tyddyn Llidiart ger Llanbedr
CG: SH 599 253

Diffwys, Llethr a Moelfre
Dilyn yr hen ffordd dros Bont Sgethin ac i’r grib, yna i gopaon Diffwys a Llethr ac yn ôl dros Foel y Blithcwm a Moelfre i lawr i Dyddyn Llidiart am baned.
Tua 10 milltir gan godi tua 950 m.

Iolyn Jones
Mercher
Hydref
12
9.30 9.45 Gorsaf Drên y Bermo Tal-y-bont i’r Bermo 
Parcio (rhaid talu!) a dal tren am 9:59 yn y Bermo i Dal-y-bont (10:08).
Cerdded ochrau afon Sgethin, codi graddol i Fwlch y Rhiwgyr, a cherdded yn ôl i’r Bermo.
Pasio olion cyn-oesol a chael golygfeydd o’r Fawddach ar y ffordd yn ôl.  Paned yn y Bermo. ar y diwedd.
Tua 7 milltir gan godi’n raddol i rhyw 400 m.
Gareth Tilsley
Iau
Hydref
13
7.30   Stablau
Plas Tan y Bwlch
Lansio cyfrol y clwb ar fynydda, Copaon Cymru

Bydd yn gyfrol o dros 200 o dudalenau, yn disgrifio 48 o deithiau i brif gopaon Cymru gyda mapiau lliw a chasgliad o tua 150 o ffotograffau lliw o safon uchel iawn - a'r cyfan am ddim ond £15.00!!

Eryl Owain
Sadwrn
Tachwedd
5
     

Cyfarfod a Chinio Blynyddol
Oakley Arms, Maentwrog

Bydd taith ar Y Cnicht a'r Moelwynion yn ystod y dydd.

 
Sadwrn
Rhagfyr
10
      Cinio Blynyddol aelodau'r de (ac unrhyw un arall!!) yng Ngwesty'r Bear, Crughywel, gyda thaith yn yr ardal yn ystod y dydd  

CROESO I SYLWADAU AC I  SYNIADAU AM WEITHGAREDDAU
- A CHROESO ARBENNIG I GYNIGION I ARWAIN!

Ysgrifennydd gweithgareddau:  Eryl Owain  01690 760335   erylowain@gmail.com

Cydlynydd teithiau’r de: Dewi Hughes  02920 891753 / 07909 930427  dewihughes1@btinternet.com

Cydlynydd dringo:  Arwel Roberts  07803191058  arwelgwydyr@aol.com

Cydlynydd teithiau Mercher: Haf Meredydd    07760 283024  hafm@hmeredydd.freeserve.co.uk

 

Teithiau/Trefniadau Eraill a Manylion Pellach

Arweinwyr: Cofiwch lenwi'r ffurflen ar ddechrau'r daith / gweithgaredd.
Pob Aelod: Cofiwch gario eich cerdyn manylion ar bob taith.

Os gwelwch yn dda, a wnewch chi gysylltu â’r arweinydd cyn y daith.
Hefyd, a wnaiff yr arweinyddion gysylltu â ymholiadau@clwbmynyddacymru.co
wedi’r daith i gadarnhau nifer y teithwyr a chofiwch am hanes a lluniau i’w cynnwys ar y wefan.
Os oes darpar-aelodau ar un o’r teithiau, a wnaiff yr arweinydd yrru’r enwau, cyfeiriadau a chyfeiriadau e-bost at Iolo Roberts…
ymholiadau@clwbmynyddacymru.com
Teithiau: Mae'r Clwb yn awyddus i dderbyn syniadau am deithiau neu weithgareddau.
Cysylltwch â ni drwy e-bostio ymholiadau@clwbmynyddacymru.com
Ni fydd disgwyl ichi arwain y teithiau

Dringo dan do
Pob nos Wener cynta'r mis bydd rhai o aelodau'r Clwb yn ymgynnull yng nghanolfan dringo dan do y Beacon.
Mae'r nosweithiau yn addas i ddechreuwyr neu i'r rhai sydd yn dymuno gwella eu sgiliau dringo. Os oes ganddoch ddiddordeb, yna
cysylltwch â Gwyn Roberts ar 01286 870 534, Arwel Roberts ar 01492 514 424 neu Anita Daimond ar 01492 600 414.

Dringo gyda’r nos
Bydd dringo ar greigiau tu allan gyda'r nos yn Ogwen yn cychwyn o ddydd Iau cyntaf mis Mai ymlaen. Cyfarfod yng
Nghaffi Ogwen. Cysylltwch ag Arwel Roberts ar 01492 514 424, Arwelgwydyr@aol.com ac i gael eich cynnwys ar restr e-bostio dringo.

Partneriaeth Awyr Agored

Mae’r Clwb wedi ymaelodi â’r Bartneriaeth a gall ein haelodau fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg. Tocynnau Aelodaeth i ddilyn. Bydd aelod/au o’r Pwyllgor yn cael eu penodi fel Cydlynydd Hyfforddiant maes o law.
Mae dolen i gylchlythyr diweddaraf y Bartneriaeth ar wefan y Clwb,
neu ewch i www.partneriaethawyragored.co.uk/newsletter/indexcym.php