HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Ebrill i Medi 2017

Dyddiad
2017
Amser Lle Taith Arwain/Cyswllt
Cyf. Cych.
Sadwrn
Ebrill
22
9.15 9.30

Arosfan yng Nglan-y-wern ger Talsarnau
CG: SH 607348
cyn symud i fan cychwyn y daith uwch ben Eisingrug
CG: SH 629 342

Moel Ysgyfarnogod a Moel Penolau
Dilyn hen ffordd y gweithfeydd mango heibio Llyn Eiddew Bach a Llyn Du i’r copaon gan ddychwelyd heibio Bryn Cader Faner.
Tua 11 km/7 milltir gydag esgyniad o tua 390 m/1280’.
Er mwyn cael trefn ar barcio ceir ymlaen llaw, cysylltwch i adael i mi wybod eich bod am ddod ar y daith un ai drwy yrru neges destun ar 07760 283024 neu drwy yrru neges e-bost. Diolch

Haf Meredydd

Mercher
Ebrill
26
9.00 9.20

Ganolfan Croeso
CG: SH 588 481

Nant Gwynant i Ryd-ddu
Yr ail ran o daith yr Ystafelloedd Te o amgylch Yr Wyddfa!
Dal bws Sherpa’r Wyddfa am 09:20 i Fethania, Nant Gwynant. Ar ôl ein ’paned gyntaf, cerdded i fyny Cwm Llan a dros Bwlch y Llan ac i lawr y llwybr cert i Ryd-ddu ac ystafell de arall (8 km). Wedyn dewis o gerdded yn ôl i Feddgelert ar hyd Lôn Gwyrfai (felly hyd at 14 km o gerdded), mynd ar y bws neu hyd yn oed ar y trên!

Clive a Rhiannon James

Llun
Mai
1
Gŵyl y Banc

9.15 9.30

 





Maes parcio’r Parc Cenedlaethol efo toiledau ger gorsaf y rheilffordd
CG: SH 571 525


Maes parcio’r Parc Cenedlaethol efo toiledau
CG: SH 698 153


Maes parcio Nant Gwdi
CG: SO 025 248
ar derfyn ffordd gul tua 3 milltir i’r de o Aberhonddu. Os yn dod o’r de, gellir troi o’r A470 ym mhentref Libanus.

Teithiau addas i deuluoedd gyda thri dewis:
Yr Wyddfa, Cader/Cadair Idris, Pen y Fan

Trefnir ar y cyd â’r Urdd: Cyfle gwych i deuluoedd fwynhau mynydda mewn cwmni hwyliog, diogel a chefnogol trwy ddilyn trywydd tebyg i dair o deithiau o’r gyfrol Copaon Cymru. Os bydd y tywydd yn anffafriol, bydd dewis o deithiau byrrach yn osgoi’r copaon yn bosib.

Yr Wyddfa o Ryd-ddu
Dilyn llwybr Rhyd-ddu i’r copa dros Llechog ac yna Bwlch Main. Tua 12 km/7½ m a 895 m/2940’ o ddringo.



Cader/Cadair Idris  o Dŷ Nant, Islaw’r-dref

Dilyn llwybr Pilin Pwn i Fwlch Rhiw Gwredydd ac ar hyd llethrau’r Cyfrwy i’r copa.
Tua 10 km/6¼ m a 740 m/2430’ o ddringo.


Pen-y-fan o Gwm Llwch, ger Aberhonddu

I fyny Cefn Cwm Llwch i gopaon Pen y Fan a Chorn Du ac i lawr drwy Gwm Llwch.
Tua 12 km/7½ m o ddringo.

 







Sian Shakespear



Eryl Owain


Dewi Hughes

Sadwrn
Mai
13
9.15 9.30

Rhos Fach,
Mynachlog-ddu
CG: SN 135 304

Taith Gylch Mynachlog-ddu
Tua 11 milltir yn cynnwys Foel Cwm Cerwyn, Foel Feddau a Carn Gyfrwy.

Digby Bevan

Sul
Mai
14
9.15 9.30

Maes parcio Bryn y Glo ger Pont Cyfyng
CG: SH 736 571

Moel Siabod
I fyny Daear Ddu ac i lawr at Blas y Brenin - Taith 7 o  Copaon Cymru. Tua 11km/7 milltir ac oddeutu 730 m/2400’ o ddringo.

Aneurin a Dilys Phillips

Mercher
Mai
17
9.45 10.00

Maes parcio (di-dâl) Cronfa Ddŵr yr Alwen
CG: SH 955 529
(Os yn dod o Gerrigydrudion, nid y troiad i'r Gwaith Dŵr.)

Ardal Llyn Alwen
Cylchdaith oddeutu 12km, i lawr yr afon i Bentrellyncymer gan alw yn Caerddunod a heibio Mynydd Poeth. Ychydig o ddringo.

Cofiwch gysylltu efo Dafydd cyn y daith fel arfer fel y bydd yn gwybod fod pawb wedi cyrraedd ar ddechrau'r daith.

Dafydd Williams
Sadwrn
Mai
20
9.45 10.00

Maes parcio Dolrhedyn, ger Tanygrisiau
CG: SH 683 282

O Ddolrhedyn i Lanfrothen - Gig ar Droed gyda Gai Toms!
Taith flynyddol Mynyddoedd Pawb
(mewn cydweithrediad â’r Urdd)

Cerdded  drwy Gwmorthin i fyny i Chwarel y Rhosydd.  Opsiwn yma i ddychwelyd i Ddolrhedyn neu gario mlaen heibio Llyn Croesor i lawr i Groesor ac ymlaen i Lanfrothen. Bydd Gai yn trafod sut mae’r ardal wedi dylanwadu ar ei waith ac ysbrydoli ei ganeuon ac fe fydd yn chwarae caneuon mewn gwahanol lefydd yn ystod y daith. Trefnir bws o Ring Llanfrothen yn ôl i Ddolrhedyn ar ddiwedd y dydd. Bydd cost am y diwrnod (i’w gadarnhau).
I archebu lle, ac am fwy o fanylion, rhaid cysylltu â’r arweinydd

Llinos Jones-Williams

Sadwrn
Mai
27
9.15 9.30

Pen y Gwryd (neu Pen y Pas am 10.00)

Cymoedd yr Wyddfa –
diwrnod sgramblo a phlanhigion y gwanwyn

Dilyn llwybr Pedol yr Wyddfa hyd at ddechrau’r dringo serth am Grib Goch, draw i’r dde ar draws wyneb ogleddol Grib Goch, uwchben Cwm Beudy Mawr, ar lwybr da ond cul ac agored gyda blodau arctic-alpine. I mewn i Gwm Glas, draw dan Drwyn y Person, i fyny ochr Gyrn Las i orsaf Clogwyn ac i lawr at waelod Glogwyn Du'r Arddu, gan obeithio gweld y Lloydia (brwynddail y mynydd). Wedyn i fyny hafn serth ddwyreiniol y clogwyn – sgrambl / dringfa gynta Prydain gan y Parchedigion Peter Williams a William Bingley yn chwilio am flodau mynydd. Ymlaen i Fwlch Glas ac efallai copa’r Wyddfa ac yn ôl i Ben-y-pas.

Alun Hughes
Sadwrn
Mehefin
3
9.15 9.30

Parcio ar yr hen ffordd ger “Seaview Terrace” ar y A499 . Os yn dod o gyfeiriad Pwllheli, pasio dau droiad am Trefor, yna’r tro cyntaf ar y dde. Os yn dod o gyfeiriad Caernarfon, tua milltir a hanner ar ôl pentre bach Gyrn Goch.

Y Gyrn Ddu a’r Gyrn Goch
Taith i rai o gopaon is mwyaf trawiadol Cymru – gyda golygfeydd gwych yn bosib!
I fyny Gyrn Goch ac wedyn ymlaen am Bwlch Mawr, ac yn ôl i gopa Gyrn Ddu

Edward Griffiths
6-8
Mehefin
      Croesi'r ffin: ychydig ddyddiau yn ardal y Long Mynd

Llety yn Hostel Ieuenctid Bridges, yn Ratlinghope gerllaw Church Stretton ar y 6ed a’’r 7fed o Fehefin 2017 (Mynd Ddydd Mawrth a cherdded Dydd Mercher ac Iau cyn dychwelyd adref).
Byddem yn cael dau ddiwrnod o gerdded ar Long Mynd a Chaer Caradog.
Cost yr hostel fyddai £16.00 am lety, gyda brecwast am £6.00 a phryd nos os dymunir am £12.50.
Byddai Gwyn yn fodlon trefnu llety ar ran y clwb, i gynnwys brecwast am £22.00 y noson. Mae lle yno i 30+, ond byddai’n dda cael enwau rhag blaen er mwyn sicrhau lle. 

Mae’n bosibl gwersylla hefyd yno am £8 y noson a gerllaw mae tafarn y Bridges gyda llety a bwyd min nos yno. Felly mae’r dewis yn eang. Gwnech eich tyrefniadau eich hunain os am wersylla neu am aros yn y dafarn.

Mae’n lleoliad canolog i aelodau y de yn ogystal a’r gogledd!

Gwyn Williams (Llanrwst)
 
Sadwrn
Mehefin
10
9.15 9.30  

Taith Ardal Crymych
Manylion y daith i ddilyn

Alun Voyle

Mercher
Mehefin
14

9.00 9.20 Maes parcio ger y ganolfan ymwelwyr Beddgelert
CG SH 589 481
Taith Ystafelloedd Te yr Wyddfa - 3
Dal bws S97 am 9.20 i Pen y Pas. Dim aros am banad yma. Dilyn y llwybr i Gwm Dyli ar hyd ochr ogleddol Llyn Gwynant i Hafod y Llan.

DEWISIADAU CINIO
a) Cinio yn Caffi Gwynant (bwydlen ar wefan y caffi).
Gyrrwch eich harchebion i Rhiannon erbyn 13/06.
b) Picnic eich hun ar lan afon Glaslyn

AR ÔL CINIO
Dilyn y llwybr ar hyd glan ddeheuol y Glaslyn i Feddgelert. Bydd digon o gyfle yma i gael paned mewn ystafell de o'ch dewis chi.

Hyd y daith - 9 milltir.
Dylem fod yn ôl ym Meddgelert rhwng 3.30 / 4.00

Clive a Rhiannon James
Sadwrn
Mehefin
17
9.30 9.45 Maes parcio Pant Dreiniog (rhad ac ddim) ar ochr ddwyreiniol yr A5 ym Methesda
CG: SH 622 668
Carnedd Gwenllian
Taith i gopa Carnedd Gwenllian ac yn ôl, wedi ei threfnu mewn cydweithrediad â Phartneriaeth Ogwen i ddathlu Diwrnod y Dywysoges Gwenllian.
Gweler Newyddion hefyd
Sian Shakespear
Sadwrn
a
Sul
24-25
Mehefin
      O Ddyffryn Ogwen i Flaenau Ffestiniog

Diwrnod 1
Cyfarfod am 8.45 i ger Ysgol Mynydd Llandegai (SH 602 666) i gychwyn am 9.00.  Cerdded heibio tomenydd chwarel Penrhyn i Farchlyn Bach ac i lawr drwy chwarel Dinorwig. Paned ym Mhen Ceunant ac ymlaen i Fwlch Maesgwm a thrwy chwareli Glanrafon a Chwm Llan ac i lawr i Nant Gwynant. Tua 26 km/16 milltir a 1050 m/3440’ o ddringo – pwynt uchaf : 500 m.

Posib aros yn Hostel Ieuenctid Bryn Gwynant (03453719108), Byncws neu Gabanau Pren (pods) Bryn Dinas (01766 890473) neu Maes Gwersylla Hafod y Llan - gwefan i bob un. Digon o lefydd bwyta ym Meddgelert .

Diwrnod 2
Gan ddibynnu ar niferoedd, efallai y bydd yn  bosib trefnu brecwast erbyn 8.30 yng Nghaffi Gwynant.

Cyfarfod ger Caffi Gwynant  (SH 628506) am 9.00 i gychwyn erbyn 9.15. Cerdded i Hafodydd Brithion ac yna Llyn yr Adar ac i Gwmorthin, gan orffen yn Cell B, Blaenau Ffestiniog, lle mae hostel foethus, theatr a bwyty. Tua 13 km/8 milltir 500 m/1635’ o ddringo – pwynt uchaf: 590 m.
Pwynt ucha: 593m. Hyd y daith : 13km

Trefnir ceir ym Mynydd Llandegai / Nangwynant / Betws y Coed / Blaenau Ffestiniog. 

Enwau cyn neu erbyn diwedd Ebrill er mwyn trefnu Cell B. Efallai y bydd yn bosib trefnu adloniant, ffilm neu sgwrs yn Cell B.

Posib i aelodau ddod am y dydd yn unig a phosib mynd i ambell gopa os y dymunir.

Morfudd Thomas

Cemlyn Jones
Sadwrn
Gorffennaf
1
9.15 9.30

Man parcio ger Gelli Iago CG: SH 633 484

Gan fod y ffordd o'r Gorllewin yn hynod o gul, awgrymir cyrraedd y man cyfarfod o gyfeiriad Pont Bethania.

Y Cnicht o Gelli Iago
Taith gylch o Gelli Iago i ben Y Cnicht ac yn ôl heibio Llyn yr Adar a Llwynyrhwch. Taith chwe milltir a hanner, yn wlyb mewn mannau a mymryn o sgramblo i'r copa.
Golygfeydd gwych os bydd y tywydd yn caniatáu!

Gwyn Williams

ac

Anet Thomas

Sadwrn
Gorffennaf
8
9.15 9.30

Maes parcio Pont y Pandy, Llanuwchllyn
CG: SH 879 298

Aran Benllyn
Dilyn taith 31 o Copaon Cymru. Taith eithaf hir o tua 11 milltir gan esgyn 950 m/3120’ ond heb ddringo’n serth iawn. Dilyn y grib i gopa Aran Benllyn ac ymhellach cyn disgyn at Greiglyn Dyfi a dychwelyd ar lwybrau da drwy Gwm Croes.

Gwyn Williams
Sadwrn
Gorffennaf
8
9.15 9.30

Cerddwyr i gychwyn y daith o Gapel Soar (drysau coch), ger Brynna /Rhywceiliog
CG: SS 973 843
Bydd y gyrrwyr yn teithio i faes parcio neuadd y pentre Pentyrch
CG: ST 098 823

(Man gorffen y daith wedi cerdded lawr o Fynydd y Garth).
Trefnir cludiant wedyn i'r gyrrwyr i ymuno â gweddill y cerddwyr.

Taith y Bryniau, Bro Morgannwg
Taith amrywiol  o tua 12 milltir dros fryniau agored, coedwigoedd a hen dref Llantrisant.


Mae'n bwysig rhoi gwybod pwy sy'n dod a faint o geir fydd yna.

Emlyn Penny Jones
Mercher
Gorffennaf
12
9.15 9.30 Maes parcio i'r dwyrain o'r gylchfan bws o flaen yr Aber Falls Hotel, i ddal bws (9.30) i Rachub. Rachub i Abergwyngregyn
Cerdded yn ôl i Aber dros Moel Faban, Llefn, Gyrn, Moel Wnion at Cras ac yna i lawr i'r pentref.
Tua chwe milltir a hanner o hyd gyda chychwyn gweddol serth.
Paned a chacen yn Cwrtiau wedyn i godi arian at Ambiwlans Awyr Cymru
Dewi Roberts
Sadwrn
Gorffennaf
15
9.15 9.30

Maes parcio Tŷ Nant
CG: SH 698 153

Sgramblo a llwybrau gogleddol Cader/Cadair Idris
Dilyn llwybr Bwlch Gwredydd i ddechrau yna torri ar draws dan glogwyni’r Cyfrwy at Lyn y Gadair. Dewis o sgramblo neu ddilyn llwybrau cerdded yn ôl y tywydd/dymuniad y criw (e.e. sgramblo ar grib y Cyfrwy heibio’r Bwrdd neu gerdded i fyny llwybr Madyn) i gyrraedd y copa ac yna dewis o lwybrau nôl lawr.

Myfyr Tomos

Sadwrn
Gorffennaf
29
9.15 9.30

Man parcio gyferbyn â Llyn Ogwen
CG: SH 656 602

Y Glyderau
Cerdded i Gwm Cneifion a fyny Seniors Ridge (sgrialu hawdd iawn) i gopa Glyder Fawr. Opsiwn o sgrialu Grisiau Idwal (Staircase) i’r sawl sydd yn fwy hyderus, os bydd y tywydd yn caniatau.  Ymlaen i Glyder Fach, yna Llwybr y Mwynwyr i Fwlch Tryfan a lawr heibio Llyn Bochlwyd.
Taith tua 10 km/6¼ milltir a 780 m/256’ o ddringo.

Chris Humphreys
Mawrth
Awst
8
  16.00 Pabell y Cymdeithasau
yn yr
Eisteddfod Genedlaethol

Darlith Llew Gwent
Darlith Flynyddol y clwb yn yr Eisteddfod

Dyrchafaf fy llygaid i’r mynyddoedd

Traddodir gan John Grisedale a George Jones, dau aelod o’r clwb ac aelodau gyda tros dri chwarter canrif o brofiad fel aelodau o Dim Achub Llanberis.

Iau
Awst
10

9.30  

Traeth Porthdafarch
CG: SH 234 800

Taith yr Eisteddfod – ardal Caergybi
Gadael rhai ceir yno ble bydd y daith yn gorffen cyn symud rhai i'r ceir at ddechrau'r morglawdd yng Nghaergybi (SH 235 836) i gychwyn cerdded. Taith o rhyw 8½  milltir mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol gyda golygfeydd arfordirol godidog, safleoedd o ddiddordeb hanesyddol a chyfle i ddringo i hops mynydd Twr 220 m!

Bydd Will Stewart (Warden Parc Gwledig y Morglawdd) yn ymuno â ni am y daith. Toiledau a chaffis ar y ffordd!

Eirwen Williams
Sadwrn
Awst
19
9.15 9.30

Abergwyngregyn
CG: SH 656 728

Gogledd y Carneddau: o Aber i Gonwy
Cerdded at Foel Ganol (536 m) a dros y grib i'r gogledd ddwyrain o Ddyffryn Anafon. I lawr at Fwlch y Ddeufaen a thros Tal y Fan (616 m) i Fwlch Sychnant. Ymlaen i Fynydd y Dref ...... a Thafarn yr Albion. Bydd bws pob 15 munud tan 7.00 yh yn ôl i Aber. 

Clive a Rhiannon James

Sadwrn
Awst
26
9.15 9.30

Maes parcio Nant Peris
CG: SH 607 582

Sgramblo – Gwter Bryant ar Esgair Felen
Cerdded i Blaen-y-nant. Mae’r gwter yn sgrambl gradd 2 hir a serth gyda golygfeydd trawiadol dros ben. Wedi cyrraedd cefnen Esgair Felen, ymlaen am gopa Glyder Fawr, i lawr at Lyn y Cŵn a’r llwybr yn ôl i lawr Cwm Padrig i Gwastadnant.
* Os yw’n wlyb, ystyrir taith amgen, gyda pheth sgramblo, i fyny Cwm Glas Mawr a Chlogwyn y Person.

Gareth Wyn Griffiths
Mercher
Medi
13
9.45 10.00 Parcio wrth fynedfa Castell y Bere
CG: SH 669 086
ac os bydd angen mae ychydig o leoedd ymhellach ymlaen ger Eglwys Llanfihangel,
CG: SH 672 088.
Nid oes gormod o leoedd parcio felly gorau po fwyaf ohonom fedr rannu ceir. 

Taith o gylch y Foel Ddu o Lanfihangel-y-Pennant
Taith o Gastell y Bere gan gychwyn ar hyd llwybr Cader Idris ond troi i ffwrdd ar hyd Waun Rhiwogof drosodd i ardal Tal-y-llyn.  Cerdded ar hyd llethrau Dyffryn Tal-y-llyn cyn croesi’r bwlch i Nant yr Eira ac i lawr yn ôl at y Castell.
Tua saith milltir a hanner â llethrau i’w dringo yma ac acw, ond dringo nad yw’n rhy anodd.
Trefnwyd coffi/te a chacen yng Nghaffi’r Ceunant yn Abergynolwyn ar derfyn y dydd am £3.50
Byddai cael gwybod ymlaen llaw os bwriedwch ddod yn gymorth mawr efo’r trefniadau te.


Llŷr Gruffydd

Nia Wyn Jones

Penwythnos
Hydref
13-15
     

PENWYTHNOS YN AMBLESIDE
Ymunwch â chriw hwyliog a chyfeillgar o gyd-aelodau ar gyfer penwythnos yn un o drefi hyfrytaf Cumbria sy’n leoliad hwylus dros ben ar gyfer ymweld â’r prif fynyddoedd. Digon o ddewis o lwybrau cerdded tir isel hefyd.

Aros yn Hostel yr YHA ar lan Windermere; mae’n hostel  4* fawr a moethus gyda chyfleusterau rhagorol o ran ystafelloedd sychu ac ati, ac mae bar a bwyty yn ogystal.
Mwy o wybodaeth ar wefan yr hostel: www.yha.org.uk/hostel/ambleside.
£84.50 am wely a brecwast a chinio min nos am ddwy noson.

Gweler yr atodiad am wybodaeth lawn.
RHAID DERBYN ENWAU A THALIAD LLAWN ERBYN 15 AWST 

Eryl Owain

Mercher
Hydref
18
9.45 10.00 Ger caffi’r traeth, Llanfairfechan mewn maes parcio di-dâl.
CG: SH 679 759

Llwybr Gogledd Cymru o Gonwy i Lanfairfechan
Bws o Lanfairfechan i Gonwy a cherdded yn ôl dros Fynydd Conwy, Pensychnant a Llwybr y Gogledd i Lanfairfechan. Tua 10 km eithaf hawdd.

GarethTilsley 07785 247482
Sadwrn
Tachwedd
4
      Cyfarfod a Chinio Blynyddol
Gwesty'r Celt, Caernarfon
 

CROESO I SYLWADAU AC I  SYNIADAU AM WEITHGAREDDAU
- A CHROESO ARBENNIG I GYNIGION I ARWAIN!

Ysgrifennydd gweithgareddau:  Eryl Owain  01690 760335   erylowain@gmail.com

Cydlynydd teithiau’r de: Dewi Hughes  02920 891753 / 07909 930427  dewihughes1@btinternet.com

Cydlynydd dringo:  Arwel Roberts  07803191058  arwelgwydyr@aol.com

Cydlynydd teithiau Mercher: Haf Meredydd    01766 780541 / 07760 283024  hmeredydd21@gmail.com

 

Teithiau/Trefniadau Eraill a Manylion Pellach

Arweinwyr: Cofiwch lenwi'r ffurflen ar ddechrau'r daith / gweithgaredd.
Pob Aelod: Cofiwch gario eich cerdyn manylion ar bob taith.

Os gwelwch yn dda, a wnewch chi gysylltu â’r arweinydd cyn y daith.
Hefyd, a wnaiff yr arweinyddion gysylltu â ymholiadau@clwbmynyddacymru.co
wedi’r daith i gadarnhau nifer y teithwyr a chofiwch am hanes a lluniau i’w cynnwys ar y wefan.
Os oes darpar-aelodau ar un o’r teithiau, a wnaiff yr arweinydd yrru’r enwau, cyfeiriadau a chyfeiriadau e-bost at Iolo Roberts…
ymholiadau@clwbmynyddacymru.com
Teithiau: Mae'r Clwb yn awyddus i dderbyn syniadau am deithiau neu weithgareddau.
Cysylltwch â ni drwy e-bostio ymholiadau@clwbmynyddacymru.com
Ni fydd disgwyl ichi arwain y teithiau

Dringo dan do
Pob nos Wener cynta'r mis bydd rhai o aelodau'r Clwb yn ymgynnull yng nghanolfan dringo dan do y Beacon.
Mae'r nosweithiau yn addas i ddechreuwyr neu i'r rhai sydd yn dymuno gwella eu sgiliau dringo. Os oes ganddoch ddiddordeb, yna
cysylltwch â Gwyn Roberts ar 01286 870 534, Arwel Roberts ar 01492 514 424 neu Anita Daimond ar 01492 600 414.

Dringo gyda’r nos
Bydd dringo ar greigiau tu allan gyda'r nos yn Ogwen yn cychwyn o ddydd Iau cyntaf mis Mai ymlaen. Cyfarfod yng
Nghaffi Ogwen. Cysylltwch ag Arwel Roberts ar 01492 514 424, Arwelgwydyr@aol.com ac i gael eich cynnwys ar restr e-bostio dringo.

Partneriaeth Awyr Agored

Mae’r Clwb wedi ymaelodi â’r Bartneriaeth a gall ein haelodau fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg. Tocynnau Aelodaeth i ddilyn. Bydd aelod/au o’r Pwyllgor yn cael eu penodi fel Cydlynydd Hyfforddiant maes o law.
Mae dolen i gylchlythyr diweddaraf y Bartneriaeth ar wefan y Clwb,
neu ewch i www.partneriaethawyragored.co.uk/newsletter/indexcym.php