Medi i Rhagfyr 2016
Dyddiad 2016 |
Amser | Lle | Taith | Arwain/Cyswllt | |
Cyf. | Cych. | ||||
Sadwrn Medi 10 |
9.15 | 9.30 | Parcio (cyfraniad i’r Ambiwlans Awyr) ym Mlaencywarch, ger Dinas Mawddwy. | Aran Fawddwy |
Tegwyn Jones |
Mercher Medi 14 |
9.45 | 10.00 | Plas Glyn-y-Weddw, Llanbedrog. Digon o le parcio am ddim ar yr allt sy'n arwain o dafarn Glyn-y-Weddw at Neuadd yr Eglwys, ac mae dau faes parcio a thalu, un yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a maes parcio Plas Glyn-y-Weddw. |
Taith yn y grug Taith gron o ryw wyth milltir dros Fynydd Tir Cwmwd i draeth Ty'n Towyn, heibio Castellmarch ac i ardal Mynytho cyn dychwelyd i Blas Glyn-y-Weddw ar hyd amryfal lwybrau plwy. Y gobaith ydy y bydd grug ardal Mynytho ar ei orau ac y cawn ni andros o daith liwgar. |
Gwenan Roberts |
Sadwrn Medi 17 |
9.15 | 9.30 | Maes parcio |
Pedol Pen y Fan |
Dewi Hughes |
Sadwrn Medi 17 |
9.30 | 9.45 | Maes parcio |
Beicio Mynydd Hiraethog a’r cyffiniau |
Eryl Owain |
Sul |
10.15 | 10.30 | Maes parcio'r Parc Cenedlaethol, Rhyd Ddu CG: SH 571 525 |
Mynydd Mawr |
Dylan Huw Jones |
Sadwrn Medi 24 |
9.15 | 9.30 | Tyddyn Llidiart ger Llanbedr CG: SH 599 253 |
Diffwys, Llethr a Moelfre |
Iolyn Jones |
Sadwrn Hydref 8 |
Llynnoedd Teifi |
Guto Evans |
|||
Sadwrn Hydref 8 |
9.15 | 9.30 | Maes parcio Eigiau |
Gogledd y Carneddau |
Gwyn Williams |
Mercher Hydref 12 |
9.45 | 10.01 | Gorsaf Drên y Bermo Sywer: trên yn gadael am 10.01 |
Tal-y-bont i’r Bermo Parcio (rhaid talu!) a dal tren am 10:01 yn y Bermo i Dal-y-bont (taith o 15 munud). Cerdded glannau afon Sgethin, codi graddol i Fwlch y Rhiwgyr a cherdded yn ôl i’r Bermo, gan basio olion cyn-oesol a chael golygfeydd o’r Fawddach. Os yw’r tywydd yn anffafriol iawn, fe ellir cwtogi’r daith a dod oddi ar y trên yn Llanaber, a cherdded yn ôl i’r Bermo ar lwybr ychydig yn is ac yn fyrrach. Hei lwc na fydd angen gwneud hyn. Paned yn y Bermo ar y diwedd. Tua 7 milltir gan godi’n raddol rhyw 400 m. |
Gareth Tilsley |
Iau Hydref 13 |
6.30 | Stablau Plas Tan y Bwlch |
Lansio Copaon Cymru |
Gwyn Williams Eryl Owain |
|
Sadwrn Hydref 22 |
9.15 | 9.30 | Maes parcio’r Parc Cenedlaethol ym Minffordd |
Cader/Cadair Idris |
Myfyr Tomos |
Sadwrn Tachwedd 5 |
9.15 | 9.30 | Maes parcio |
Cnicht a’r Moelwynion |
Iolo Roberts |
Sadwrn Tachwedd 5 |
Oakley Arms, Maentwrog | Cyfarfod a Chinio Blynyddol |
Iolo Roberts |
||
Mercher Tachwedd 16 |
9.25 | 10.00 | Gyda chaniatâd y tafarnwyr, ym maes parcio Tafarn y Ring, Garreg SH 613 413 |
Cwm Croesor |
Rhiannon a Clive James |
Sadwrn Tachwedd 19 |
9.10 | 9.25 | Maes parcio’r |
Yr Wyddfa |
John Parry |
Sadwrn Tachwedd 19 |
9.15 | 9.30 | Cyfarfod o flaen y neuadd yng Nghapel Gwynfe CG: SN 683 219 |
Ardal Gwynfe a’r Mynydd Du |
Pete Evans |
Sadwrn Tachwedd 26 |
10.00 | 10.15 | Maes parcio Llynnau Cregennan |
Beicio Mynydd |
Arwel Roberts |
Sadwrn Rhagfyr 3 |
9.15 | 9.30 | Maes parcio Bwlch Penbarras |
Moel Famau a Bryniau Clwyd |
Richard Roberts |
Sadwrn Rhagfyr 10 |
Mwy o fanylion i ddilyn | Ardal Crughywel a Chinio'r de |
Richard Mitchley |
||
Mercher Rhagfyr 14 |
9.45 | 10.00 | Maes parcio (efo toiledau) Pentrefoelas, ger y Tŷ Siocled!! CG: SH 873 514 |
Cylchdaith Pentrefoelas |
Eryl Owain |
Sadwrn Rhagfyr 17 |
9.15 | 9.30 | Safle parcio gyferbyn |
Foel Goch a’r Glyderau |
Raymond Wheldon-Roberts |
2017 | |||||
Sul neu Llun Ionawr 1/2 |
Taith draddodiadol y Calan i gopa’r Wyddfa Mwy o fanylion i ddilyn |
||||
18-25 Chwefror |
Leckmelm Holiday Cottages, |
Yr Alban Cost: £80.00 - sieciau'n daladwy i Clwb Mynydda Cymru |
Danfonwch eich taliad, enw, cyfeiriad, ebost a rhif(au) ffón at: |
||
6-8 Mehefin |
Croesi'r ffin: ychydig ddyddiau yn ardal y Long Mynd Llety yn Hostel Ieuenctid Bridges, yn Ratlinghope gerllaw Church Stretton ar y 6ed a’’r 7fed o Fehefin 2017 (Mynd Ddydd Mawrth a cherdded Dydd Mercher ac Iau cyn dychwelyd adref). Mae’n bosibl gwersylla hefyd yno am £8 y noson a gerllaw mae tafarn y Bridges gyda llety a bwyd min nos yno. Felly mae’r dewis yn eang. Gwnech eich tyrefniadau eich hunain os am wersylla neu am aros yn y dafarn. Mae’n lleoliad canolog i aelodau y de yn ogystal a’r gogledd! Cysylltwch efo Gwyn erbyn 30 Tachwedd os gwelwch yn dda |
Gwyn Williams (Llanrwst) |
CROESO I SYLWADAU AC I SYNIADAU AM WEITHGAREDDAU
- A CHROESO ARBENNIG I GYNIGION I ARWAIN!
Ysgrifennydd gweithgareddau: Eryl Owain 01690 760335 erylowain@gmail.com
Cydlynydd teithiau’r de: Dewi Hughes 02920 891753 / 07909 930427 dewihughes1@btinternet.com
Cydlynydd dringo: Arwel Roberts 07803191058 arwelgwydyr@aol.com
Cydlynydd teithiau Mercher: Haf Meredydd 07760 283024 hafm@hmeredydd.freeserve.co.uk
Teithiau/Trefniadau Eraill a Manylion Pellach
Arweinwyr: Cofiwch lenwi'r ffurflen ar ddechrau'r daith / gweithgaredd.
Pob Aelod: Cofiwch gario eich cerdyn manylion ar bob taith.
Os gwelwch yn dda, a wnewch chi gysylltu â’r arweinydd cyn y daith.
Hefyd, a wnaiff yr arweinyddion gysylltu â ymholiadau@clwbmynyddacymru.co
wedi’r daith i gadarnhau nifer y teithwyr a chofiwch am hanes a lluniau i’w cynnwys ar y wefan.
Os oes darpar-aelodau ar un o’r teithiau, a wnaiff yr arweinydd yrru’r enwau, cyfeiriadau a chyfeiriadau e-bost at Iolo Roberts…
ymholiadau@clwbmynyddacymru.com
Teithiau: Mae'r Clwb yn awyddus i dderbyn syniadau am deithiau neu weithgareddau.
Cysylltwch â ni drwy e-bostio ymholiadau@clwbmynyddacymru.com
Ni fydd disgwyl ichi arwain y teithiau
Dringo dan do
Pob nos Wener cynta'r mis bydd rhai o aelodau'r Clwb yn ymgynnull yng nghanolfan dringo dan do y Beacon.
Mae'r nosweithiau yn addas i ddechreuwyr neu i'r rhai sydd yn dymuno gwella eu sgiliau dringo. Os oes ganddoch ddiddordeb, yna
cysylltwch â Gwyn Roberts ar 01286 870 534, Arwel Roberts ar 01492 514 424 neu Anita Daimond ar 01492 600 414.
Dringo gyda’r nos
Bydd dringo ar greigiau tu allan gyda'r nos yn Ogwen yn cychwyn o ddydd Iau cyntaf mis Mai ymlaen. Cyfarfod yng
Nghaffi Ogwen. Cysylltwch ag Arwel Roberts ar 01492 514 424, Arwelgwydyr@aol.com ac i gael eich cynnwys ar restr e-bostio dringo.
Partneriaeth Awyr Agored
Mae’r Clwb wedi ymaelodi â’r Bartneriaeth a gall ein haelodau fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg. Tocynnau Aelodaeth i ddilyn. Bydd aelod/au o’r Pwyllgor yn cael eu penodi fel Cydlynydd Hyfforddiant maes o law.
Mae dolen i gylchlythyr diweddaraf y Bartneriaeth ar wefan y Clwb,
neu ewch i www.partneriaethawyragored.co.uk/newsletter/indexcym.php